成人论坛

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Yr Erlid Mawr

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 12:14, Dydd Iau, 26 Ionawr 2012

A hithau, yfory, Ionawr 27, yn ddiwrnod cofio鈥檙 Holocost mae鈥檙 yn paratoi i gyhoeddi llyfr sy鈥檔 talu teyrnged i deulu a ddioddefodd yn sgil polisi hil-laddiad rhai o dras Iddewig gan y Nats茂aid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ond mae鈥檙 llyfr, Yr Erlid, o arwyddoc芒d personol hefyd i鈥檙 wasg gan mai鈥檙 ddiweddar Kate Bosse-Griffiths, mam sefydlydd Y Lolfa, Robat Gruffudd, yw gwrthrych yr hanes.

Mae鈥檙 llyfr, gan ei mab arall, Heini Gruffudd, yn deillio o raglen ddogfen ar S4C, Y Tr锚n i Ravensbruck, a fu鈥檔 olrhain hanes dirdynnol teulu Kate Bosse-Griffiths yn yr Almaen Natsiaidd.

鈥淢ae holl hanes eu hymdrechion i oroesi鈥檙 hunllef i鈥檞 ganfod yn llawn rhwng cloriau cyfrol newydd Heini Gruffudd,鈥 meddai datganiad o鈥檙 wasg.

鈥淐eir hanes ysgytwol llofruddiaeth mam Kate Bosse-Griffiths, hunanladdiad ei modryb ac erlid y teulu i bob cwr o鈥檙 byd 鈥 hanes na fyddai鈥檔 bosib ei adrodd oni bai am y mil a mwy o ddalennau a gadwyd ym meddiant y teulu, yn llythyrau a dyddiaduron, yn ysgrifau a dogfennau. Ceir straeon o ddioddef ac arwriaeth, caru a chas谩u, marwolaeth a goroesiad,鈥 meddir.

Mae鈥檙 ddiweddar Kate Bosse-Griffiths a fu farw yn Abertawe fis Ebrill 1998 yn enw cyfarwydd yng Nghymru.

Fe鈥檌 ganwyd Wittenberg-am-Elbe, Yr Almaen, yn ferch i Iddewes. Yr oedd ei thad yn geinicolegydd amlwg.

Er iddi raddio ac ennill doethuriaeth yn y Clasuron ac Eifftioleg collodd ei swydd yn adran Eifftoleg ac Archaeoleg Amgueddfa Berlin pan sylweddolwyd bod ei mam yn Iddewes gan beri iddi symud i Brydain lle cafodd swyddi ym Mhrifysgol Llundain ac wedyn yn amgueddfa鈥檙 Ashmolean yn Rhydychen.

Yno y cyfarfu a phriodi y llenor, bardd ac ysgolhaig J Gwyn Griffiths a symud i Gymru gan fyw yn gyntaf yn y Pentre, Rhondda, ac wedyn yn Y Bala ac Abertawe.

Dysgodd y Gymraeg yn rhugl gan ei gwneud yn iaith ei haelwyd a chyhoeddodd yn helaeth yn yr iaith gan ddod yn adnabyddus am ei nofelau a鈥檌 stor茂au, yn ogystal ag am ei diddordeb mewn archaeoleg ac, yn arbennig, Eifftoleg. a magodd ddau o blant yn Gymry pybyr, sef Heini Gruffudd, awdur Yr Erlid, a Robat Gruffudd, perchennog gwasg y Lolfa.

Bu blynyddoedd y rhyfel yn rhai arbennig o ddirdynnol gyda鈥檌 mam yn marw yng ngwersyll caethiwo Ravensbruck a鈥檌 brawd, a oedd yn feddyg, yn gorfod dianc i Sweden.

  • Yr Erlid: Hanes Kate Bosse-Griffiths a鈥檌 theulu yn yr Almaen a Chymru adeg yr Ail Ryfel Byd.Lolfa. 拢9.95

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.