Nia Lloyd Jones - dydd Iau Awst 9
I'r Eisteddfod o bedwar ban byd.
O'n i wedi bod yn chwilio amdano fo drwy'r wythnos, a bore 'ma mi welais i o yng nghefn y llwyfan. Shay Siwoku ydy o - a mae o'n stiwardio yn yr Eisteddfod ers 2008. Mae Shay wedi dysgu'r Gymraeg yn arbennig o dda ac wrth ei fodd yn gwirfoddoli yn yr Eisteddfod, ac mae'r Wyl fel aduniad bach i'r ddau ohonom ni bellach - braf iawn oedd rhoi'r byd yn ei le eto bore ma.
Ìý
Yn sicr roedd 'na naws ryngwladol gefn llwyfan heddiw. Un o Wlad Pwyl ydy Lukasz Biela yn wreiddiol er ei fod o bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae o'n siarad wyth iaith - Pwyleg, Sbaeneg, Eidaleg, Almaeneg, Portiwgieg, Saesneg, iaith Siec a'r iaith Serbiaidd ... a dipyn bach o Gymraeg erbyn hyn. Mi welais i o eto cyn cinio - yr adeg hynny roedd o wrthi'n rhoi sesiwn Reikki i droed y gyfeilyddes Eirian Owen - gan ei bod hi wedi brifo ei throed yr wythnos yma. Dyn amryddawn iawn mae'n amlwg. IsaÃas Grandis o Batagonia ydy enillydd Tlws y Dysgwyr eleni, ac yn sicr roedd cael sgwrs hefo fo yn un o uchafbwyntiau'r dydd i mi. Dyma chi siaradwr gwych, a thinc Sbaeneg yn y llais hefyd. Fe symudodd o'r Ariannin i Batagonia pan oedd o'n bedair oed, ac erbyn hyn mae o'n gweithio fel tiwtor iaith yno ac yn awyddus i hyrwyddo'r Gymraeg i bob cyfeiriad o'r Wladfa. Doniol iawn oedd clywed ei stori am ei ymweliad â McDonald's yn ddiweddar - ac yntau ddim yn siarad Saesneg. Diolch byth roedd na Gymro wrth law i weini'r byrgyr iddo. Mi wnes i gwrdd ag Ian Samways o Pittsburgh yn yr Eisteddfod yn Wrecsam llynedd. Roedd o wedi dod draw i gystadlu ar y Llefaru Unigol Agored i'r Dysgwyr, ac wedi mwynhauei hun gymaint nes ei fod o nôl eto eleni. Mae o'n mwynhau canu carioci hefyd - a'i hoff gân ydy'r berl Sinatraidd - My way. Llongyfarchiadau mawr i Gôr y Wiber - dan arweiniad Angharad Thomas am ennill y gystadleuaeth Côr Merched heddiw. Dw i wrth fy modd yn sgwrsio hefo Angharad - gan ei bod hi'n un o'r bobl mwyaf egnïol dw i erioed wedi cyfarfod. Roedd y wên ar ei wyneb heddiw yn werth ei gweld.
Ìý
Os oedd ddoe yn ddiwrnod mawr i Elgan Llyr Thomas - roedd heddiw yn well byth. Elgan enillodd Wobr Goffa Osborne Roberts - sef y Rhuban Glas. Pan ofynodd gohebydd papur newydd iddo wedyn os mai dyma binacl ei yrfa - fe atebodd mai dyma'r pinacl hyd yma - ond bod mwy i ddod! Cofiwch yr enw...
Prynhawn y sopranos, contraltos a'r mezzo sopranos oedd hi wedyn. Sut wnaeth Helen Gibbon - y soprano - fwynhau tybed? 'Ych a fi' oedd ei ymateb heddiw! Mae Iona Stephen Williams wedi ennill yr Unawd Contralto wyth gwaith, ac roedd hi nôl ar y llwyfan unwaith eto. Fe ddaeth Catrin Rowena Davies - y mezzo soprano i'r llwyfan ddiwedd y prynhawn - i gloi'r naws ryngwladol. Mae hi'n byw yn Baltimore, ond bod ei rhieni yn hannu o Gymru yn wreiddiol, ac wrth gwrs - roedden nhw yn ogystal â'i chariad yn y pafiliwn i'w chefnogi heddiw.
A dyna derfyn ar ddiwrnod prysur iawn arall... dw i angen mynd i orwedd lawr mewn cornel dywyll!