Rhun ap Iorwerth - dydd Iau Awst 9
Ble’r aeth haf 2012? Ble’r aeth y glaw a’r gwynt a’r oerfel?
Rydan ni wedi cael ein gwibio i fyd a thymor arall. Byd yr haul a’r hufen iâ. Byd y ‘sgwyddau cochion a’r fflipiau fflop. Yr ymbarél wedi arallgyfeirio a’i throi’n barasol.
A wnaethoch chi amau? A broffwydoch chi wae y caeau mwdlyd a’r wellingtons? Wel, llyncwch eich geiriau cyn gyflymed a’ch peint oer yn y Bar Gwyrdd ar y maes, achos mae’r haul wedi tywynnu efo’i holl enaid ar Fro Morgannwg heddiw.
Gyda’r rhagolygon yn addo mwy o’r un peth, dwi’n siwr y byddwn yn ffeilio Eisteddfod Bro Morgannwg 2012 yn yr un ffeil ag Aberteifi 1976 a Meifod 2003 – dan ‘P’ am ‘Poeth’. Ond byddÌý ambell unigolyn yn ei ffeilio dan ‘C’ am ‘Carreg Filltir’.
Bu Steffan Rhys Hughes o Sir Ddinbych yn enillydd eisteddfodol cyson ers yn blentyn bach. Dyn a wyr sawl gwobr gyntaf sydd ganddo i’w enw, yma yn y Genedlaethol ac yn yr Urdd, heb sôn am eisteddfodau bychain dirifedi. Ond eleni, mae’n troi’n ddyn, a gyda 6 gwobr gyntaf yn ei boced, bydd yn ei throi hi am Gaerdydd a’r Coleg Cerdd a Drama fis nesaf gyda’r teitl ‘Canwr Proffesiynol’ yn dod yn nes.
Fe ddaeth Steffan Harri â gwen i wynebau pawb yn y pafiliwn a’r gynulleidfa deledu gyda’i berfformiad gwych, doniol, cyflawn a hyderus yn yr Unawd Sioe Gerdd dros 19 oed. Mi fydd ei enw mewn sêr yn y West End cyn hir, heb os.
Nid fo enillodd y gystadleuaeth honno hyd yn oed (er iddo dderbyn Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts am ei berfformiad). Fe aeth y wobr gyntaf i Elgan Llyr Hughes o Landudno. Rwyf wedi cael y pleser o arwain ambell i gyngerdd lle mae Llyr wedi bod yn canu. Mae’n ŵr ifanc, bonheddig, ond dyma i ni dalent. Drannoeth yr Unawd Sioe Gerdd fe enillodd un o gystadlaethau mawr yr Unawdwyr Clasurol – Gwobr Goffa Osborne RobertsÌý – ar ôl dod i’r brig mewn dwy o’r cystadleuthau rhagbrofol – yr Unawd Gymraeg a’r Unawd Operatig.
Llundain yw’r stop nesaf iddo fo. Mae o newydd dderbyn gradd Dosbarth Cyntaf o Fanceinion a’r cam nesaf yw’r Guildhall yn Llundain. Paratowch i glywed llawer, llawer mwy amdano.
Byddwn yn dathlu llwyddiannau’r tri yna mewn blynyddoedd i ddod, heb os. Ond tra y gwnawn ni hynny, gadewch i ni gofio mor bwysig fu’r Eisteddfod wrth gynnig llwyfan iddyn nhw ar ddechrau eu gyrfaoedd. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y ddau Steffan a Llyr wastad yn trysori’r cyfle unigryw Gymreig yma ddaeth i’w rhan.
Ymddiheuriadau, gyda llaw, am beidio blogio am y deuddydd diwethaf. Y gwir ydi bod Eisteddfod yn ddi-stop - yn fwrlwm o sgwrsio, o wylio, o wrando, o fwyta ac o fwynhau. Maddeuwch i fi!
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes.