Syllu ar y sêr
Ydych chi byth yn edrych i fyny ar yr awyr dywyll uwchben, i weld y cyfoeth o sêr yn y duwch? Os ddim, dyma'r amser i ddechrau!
Mae hi'n gyfnod Stargazing ac felly yr amser perffaith i ddysgu sut mae astudio awyr y nos.
Sêr dros Gwm Idwal gan Kristofer Williams
Rhai tips i'ch rhoi chi ar ben ffordd:
- Ewch oddi wrth oleuadau adeiladau/goleuadau stryd ar noson glir gyda thywydd da. Mae'r lleuad llawn hefyd yn gallu cuddio llawer o sêr, felly noson pan nad yw'r lleuad yn dangos sydd orau.
- Defnyddiwch fap o'r sêr fel yr un sydd yng
- Mae cwmpas yn gallu bod yn ddefnyddiol, er mwyn ffeindio'r Gogledd a gwneud adnabod sêr yn haws.
- Ewch gyda ffrindiau, neu ymunwch â chlwb seryddiaeth lleol.
- Gall camera fod yn ddefnyddiol - dydych chi byth yn gwybod be welwch chi.
Does dim rhaid i chi fynd i wylio'r sêr ar eich pen eich hun gan fod sawl digwyddiad ar draws Cymru y penwythnos yma ac yn ystod yr wythnos i ddod, a dyma rai ohonyn nhw:
Hwlffordd
Nos Wener Ionawr 11: Gwylio'r sêr yn y Preseli, 7 - 10pm
/thingstodo/activity/stargazing-live-in-preseli/occurrence/211830
Bro Morgannwg
Nos Sadwrn Ionawr 12: Gwylio'r Sêr yn Gerddi Dyffryn, 7 - 9pm
/thingstodo/activity/stargazing-at-a-dark-national-trust-garden/occurrence/215962
Caerdydd
Dydd Sadwrn Ionawr 12: Diwrnod Stargazing i'r teulu yn yr Amgueddfa Genedlaethol, 11am - 4pm
Pen-y-bont ar Ogwr
Nos Fercher Ionawr 16: Noson gyda'r sêr yn Ysgol Gyfun Bryntirion, 5 - 9pm
/thingstodo/activity/a-night-among-the-stars/occurrence/228490
Abertawe
Nos Wener Ionawr 18: Noson o wylio'r sêr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 7pm