Hywel a Blodwen
Ylwch pwy ddois i ar ei thraws ar fy nhrafels! 'Sa ni'n gwneud deuawd dda!
Ylwch pwy ddois i ar ei thraws ar fy nhrafels! 'Sa ni'n gwneud deuawd dda!
Wedi cyrraedd un o fy hoff drefi - Aberystwyth, a mwynhau paned efo Geraint Lloyd. Criw ffilmio Wedi Saith yma, ac mae'n dda gin i ddeud fod nifer ohonoch wedi cysylltu efo ni heddiw - ein diwrnod cynta ar y ffordd - i'n gwahodd ni draw i'ch ardal chi. Clwb Karate Stiniog - mi fyddwn ni draw.
Syrpreis bach neis ar ddiwedd y dydd i Geraint Lloyd - fo sy'n talu am y cyri!
O Gastell Nedd i Aberaeron, Llangybi i Ddolgellau ac Aberystwyth, mae hi wedi bod yn gychwyn bendigedig i'r teithio. Dowch nol, fan hyn, am fwy o'r hanes a lluniau.
Cyrraedd Llangybi a chael busnesu ym mocs bwyd rhai o ddisgyblion hyn yr ysgol. Rhaglen Nia yn trafod cinio ysgol a mynd I'r gegin at y cogyddion i holi a stilio uwch pizza cartref a salad a hufen-ia a choulis ffrwythau! Pethau wedi newid ers dyddiau semolina pinc a mins llwyd!
Cyn gadael hwyl y gegin cael gair a'r Brifathrawes, Ann Davies, a gofyn iddi pam nad oedd na roced yn y cae y tu ol I'r ysgol gan ei bod hi wedi cael ei hyfforddi i fedru cerdded ar y lleuad. Wel, ddim yn hollol. Ond fe gafodd gyfle i fynd i NASA, a chyfarfod rhai o'r gofodwyr gan gynnwys y dyn ei hun Neil Armstrong. Cam bychan i Neil - cam mawr i Ann Davies!
Mi faswn i wedi hoffi aros ond roeddwn i'n gofod (wwps!) mynd i Ddolgellau, nid am sesiwn fawr (heno fydd honno!) ond am de pnawn yn un o gaffis y dre, lle buodd Owain Glyndwr yn sglaffio cacan joclet. Ac ma'n dda gin i ddeud fod Meg o'r caffi yn mynd i anfon cacan joclet i Jonsi.
Chwarter i bump...pawb call yn cysgu ond y fi'n codi ac ar fy ffordd i Cilffriw i fferm Glyn Rhigos. Anghysbell? Peidiwch a son! Lle i enaid gael llonydd. Y defaid yn edrych yn syn wrth weld y fan yn bownsio i lawr i'r buarth. Croeso cynnes gan Alun a Anwen a mwg o goffi poeth. Aria bach yn y gegin gan Anwen sydd yn gantores opera ond wedi dod nol i redeg fferm y teulu efo'i gwr. Wedi 7 yn ffilmio hefyd - Aneurin Karadog yn ei byjamas gorau!
Ar ôl darlledu ar raglen Rebecca, ffarwelio â'r teulu ac yn ein blaen i Aberaeron am lond platiad o sglodion am 10 y bore! Gyda llaw... ai y fi ydi'r unig un sydd yn credu fod tai lliwgar Aberaeron yn cael cot o baent newydd bob wythnos?! Croeso Celtaidd gan Heather a William a holi y gwrionedd am Eleri Siôn gan Nia a Tess. Dim golwg o Thomas Hardy ond cyfarchion gan Daid Tess i Eleri Siôn...
Hen ffrind yn llawn anwyldeb
Heb ronyn o gasineb
Llygaid glas a thafod slic
A chic ymhob ymateb
Hen ffind o ddyddiau ysgol
A'i thalent yn amrywiol
O adrodd darn i ganu cân
Ar lwyfan proffesiynol
Brecwast yng Nghilffriw, paned 10 yn Aberaeron. Tybed beth fydd ar y fwydlen yn Llangybi?
Helo! Croeso i fy mlog (ydio'n treiglo?) cynta' erioed. Blog y Gog - gan mai hogyn o Sir Fôn ydwi, ond fydd na'm ffafriaeth i foch Môn cofiwch chi! Mi fyddwn ni'n teithio i bob rhan o Gymru yn sgwrsio efo hwn a'r llall yn fyw ar Radio Cymru, ond hefyd mi fydd yna sgyrsiau arbennig yn unigryw ar gyfer y blog yma.
Yr wythnos yma 'dwi'n mynd i Gastell Nedd, Aberaeron, Llangybi, Dolgellau, Aberystwyth, Llanberis a'r Trallwng! Teithio mewn fan y bydda i a'r tim, felly os welwch chi'r fan wedi ei pharcio yn unrhyw fan, dowch draw i ddweud helo, ac os 'da chi'n prynu brecwast te neu swpar i ni - mi f'asan wrth ein bodd!
Mi fydd yma fap i chi gael rhoi eich pentref neu dref arno wrth i ni alw acw ac oriel luniau yn gofnod o'n hynt a'n helynt. Cofiwch adael unrhyw neges, sylwadau, gwybodaeth, neu gwestiynau i'w hateb ar y blog yma.
Dyma'r fan i ni gyfarfod - fan hyn! Mwy yn y man... neu ai mwy yn y fan ddylsa hwnna fod?!
³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.