Dathlu'r Fenter yng Nghaerdydd.
Nos Wener diwethaf roedd na barti mawr mewn tafarn yn y brifddinas i ddathlu'r ffaith fod Menter Caerdydd wedi bod yn hyrwyddo'r Gymraeg a Chymreigrwydd ers 10 mlynedd.
Balwns, bwyd, a band jazz - roedd o'n dipyn o barti, a fi gafodd y cyfrifoldeb i rannu'r hwyl efo Cymru gyfan drwy gyfrwng rhaglen Geraint Lloyd ar Radio Cymru.
Un o ferched enwog y ddinas ydi Heather Jones ac mi oedd hi yno yng nghwmni Sandra de Pol, o Archentina yn wreiddiol, ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn y ddinas ers blynyddoedd.
"Mae na lawer mwy o gyfle i fwynhau eich hun drwy gyfrwng y Gymraeg yn y ddinas bellach- diolch i'r Fenter." Dyna oedd barn y ddwy.
Os 'da chi am fwynhau Hwyl yr Wyl Aeaf - dewch i'r brifdinas ar Ragfyr y10fed. Mae Menter Caerdydd wedi trefnu fod Misdar Urdd, Norman Price, Superted a Sali Mali yn mynd i fod wrth law i'ch cyfarch rhwng 4 a 6.
Gyda llaw 'dwi'n gobeithio mwynhau mins pei yng nghwmni Sali Mali pan fydda i'n ymweld a Pentrebach yn ystod fy nhaith Nadolig o Nasareth, ger Nebo, i Fethlehem, SIr Gar. Ond cyn hynny, dwi'n gobeithio'ch gweld chi yn siopa'n hwyr yn Y Bala Nos Iau ac yn Rhuthun ddydd Gwener pan fydd Hafina Clwyd yn goleuo'r sgwar a'r goeden.