Dwynwen Parry, Dwynwen Melangell a Dwynwen Berry. Fe gytunodd y dair sgwrsio efo fi ar raglen Jonsi b'nawn Gwener. Gweithio yng Ngholeg Menai, Llangefni, fel saer coed mae Dwynwen Parry, ac mi ddaeth Dwynwen Melangell draw i ymuno i drafod materion carwriaethol a chariadus efo ni.
Ymlaen i Fangor wedyn i dafarn nid an-enwog ym Mangor Ucha' lle mae Gerallt wedi gweld sawl perthynas yn blodeuo.
Yn wir 'roedd na' ddau gariad yn fanno - Sion a...na, nid Sian ond Siwan, yn cadw cwmni i Dwynwen Berry wrth y bar.
Diolch i'r dair Dwynwen. Cariad pur sydd fel y dur yn para tra bo tair!
Welai chi yn Llyfrgell newydd Abergele b'nawn Iau, yng Nghanolfan y Cywain, Y Bala, nos Iau, ac ym mart Dolgellau fore Gwener.
E-bost a ddaeth yn fore iawn oddi wrth Aled Job, y Felinheli, yn gofyn fuaswn i'n
hoffi mynd draw ar gyfer agoriad swyddogol Y Felin Sgwrsio, sydd wedi ei lleoli ar safle hen gaffi'r Tebot Poeth yn y pentref.
Cyrraedd mewn pryd i weld Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth a Diwylliant, efo clamp o siswrn yn ei law yn barod i dorri'r rhuban coch a chyhoeddi fod olwynion y Felin yn troi.
Menter gymunedol ydi'r Felin sydd yn fan cyfarfod i ddysgwyr Cymraeg gwrdd dros goffi. Mi fydd 'na glwb darllen yn cyfarfod yno, ac mae na gynlluniau hefyd yn ol Sian Gwenllian, sy'n siarad fel melin bupur(!) am Glwb Ffilm, Clwb Trafod a Chlwb Llyfrau.
Os ydych chi am sylw cenedlaethol i'ch menter leol chi -cofiwch gysylltu!
hywel@bbc.co.uk.
Pa well ffordd o dreulio prynhawn na'n crwydro Llanddwyn, a phwy well yn dywyswr na'r arbenigwr ar hanes yr ynys a hanes Dwynwen,un o wardeniaid Cymdeithas Cefn Gwlad Cymru, Graham WIlliams.
Roedd Llanddwyn yn ei gogoniant fel y gwelwch...
...ond roedd gofyn lapio'n gynnes...
Mae yna ryw swyn yng nghylch y lle yma. Tybed sawl cwpwl cariadus sydd wedi manteisio ar yr hud a lledrith i ofyn Y cwestiwn hollbwysig yna?!
Rwan ta...pa un ydi fy Nwynwen i ?!...
Cofiwch anfon eich cyfarchion cariadus mewn da bryd os am gais ar y rhaglen fore Sul. Mae'r manylion cysylltu i'w gweld yn y blog oddi isod.
Mi fydd yna sawl Dwynwen i'w chlywed ar Radio Cymru yn ystod rhaglen Jonsi bnawn Gwener hefyd, ac os wyddoch chi am un arall fydd yng nghyffiniau Llanddwyn a ffansi dod draw i roi'r byd yn ei le - rhowch wybod!
X (Rhamantus ta be?!)
Pum Diwrnod o Ryddid! oedd un o'r sioeau mwyaf poblogaidd welwyd ar lwyfanau Cymru,ac mae Penri Roberts a Linda Gittins ynghyd â Ysgol Theatr Maldwyn wrthi'n paratoi cynhyrchiad newydd sbon.
Tra 'roedd Linda'n cynnal yr ymarfer canu yn Ysgol Glantwymyn, mi ges i air ar raglen Geraint Lloyd efo Penri, a thri aelod o'r cast sef Catrin Jones, Arwel Jones a Steffan Harri Jones, oedd yn amlwg wrth eu bodd o gael y cyfle i gymeryd rhan mewn perfformiad o'r fath.
Gyda llaw, diolch yn fawr i chi am y gwahoddiadau i ddwad i'ch ardal chi. Fe fyddwn ni yn ymweld a phob Llan - y fan a fi, yn eu tro.
Yr wythnos nesa,' mi fyddai'n crwydro traeth Ynys Llanddwyn, ac yn dathlu dydd Santes Cariadon Cymru ar fy rhaglen fore Sul, Ionawr 25ain. Cofiwch gysylltu gyda'ch cais cariadus i'r RHywun arbennig yna yn eich bywyd!
Rhaglen Hywel Gwynfryn bob bore Sul am 10.45am
Rhif ffon ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru - 03703 500500 neu hywel@bbc.co.uk
Ar ol sgwrsio efo'r criw yn fferm Abergwydol ar raglen Jonsi, mi es i draw i Ganolfan Hamdden y dref i gyfarfod a Meinir Wyn, sy'n gyn-brifathrawes, ac wedi addunedu ar ddechrau blwyddyn fel hyn i golli pwysau. Neu i fod yn fanwl gywir, i golli mwy.
Flwyddyn a hanner yn ol roedd hi'n pwyso pedair ston ar hugain. Erbyn hyn mae hi wedi colli pump ston ac yn benderfynol medda' hi o golli pedair arall.
Meinir - 'da chi'n haeddu medal. Ond nid un joclet, wrth gwrs! Llongyfarchiadau a daliwch ati!
Mae hi'n dipyn o daith o Fachynlleth i Seland Newydd, ond unwaith 'da chi 'di cyrraedd Glantwymyn, tydi hi dim mor ddrwg ar ol hynny!
Erbyn hyn mae Gareth Wyn o fferm Abergwydol, ryw 4 milltir o Mach, wedi cyrraedd Gwlad y Cwmwl Gwyn, ond mi ges i gyfle i ddymuno'n dda i'r ffarmwr ifanc yma cyn iddo gychwyn ar ei daith.
Mae o'n aelod o dim cneifio Cymru, ac yn mynd i dreulio tri mis yn Seland Newydd, i brofi mai ffermwyr ifanc Cymru ydi'r cneifwyr gorau yn y byd. Mae o wedi bod yno droeon felly mae'n rhaid fod y croeso'n gynnes.
Mi ddath yna griw draw i ddymuno'n dda iddo fo - Carri ac Alun Daniel,ei rieni, Phillip Dancer o Benegoes, a William Evans o fferm Hendresefin.
Pob lwc i ti Gareth yn Se-e-eland Ne-e-ewydd!
Er mai dechrau'r flwyddyn ydi hi, mae'r dyddiadur yn dechrau llenwi'n barod. Diolch i chi sydd wedi cysylltu eisoes am ein gwahodd draw i'ch ardal chi.
Os nad oeddech yn ymwybodol, wel mae croeso i chi anfon e-bost neu godi'r ffon i son am rywbeth neu rywun arbennig sydd yn haeddu mymryn o sylw. Mi allwn ni ddod i unrhyw le (o fewn rheswm!) yng Nghymru - o 'sdafell ffrynt y ty i'r sied gefn.
Mi fedrwn ddarlledu, diolch i'r dechnoleg ddiweddaraf, o ysgol, siop, neuadd, garej...mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd, a'r cyfan drwy gyfrwng llinell ffon felly fyddwn ni ddim yn drafferth- wir i chi!
Felly peidiwch a bod yn swil. Sicrhewch fod eich pentref neu'ch tref chi ar ein map ni!
Ffoniwch 03703 500500 neu e-bostiwch Hywel@bbc.co.uk
Gobeithio y gwelwn ni chi'n fuan!
Ac ar y Graig hon, yr adeiladaf - fy ysgol.
Cerdded i fewn drwy ddrysau ysgol newydd yn y flwyddyn newydd, dyna fu profiad plant Ysgol y Graig, Llangefni. Hon ydi'r ysgol 'werdd' gynta' ar yr ynys, ac yn wir mae na dô gwyrdd ar ran o'r ysgol fydd yn y pendraw yn gynefin i blanhigion a phryfed. Ar ol cyfarfod y pennaeth, Glyn Roberts, mi ges i fy nhywys o gwmpas yr ysgol fodern gan y pensaer Gareth Thomas.
Fel cyn-ddisgybl yn Ysgol British, Llangefni, nol ym 1948, allai ddim ond gobeithio y bydd plant Ysgol y Graig, yr un mor hapus yn eu ysgol newydd ag yr oeddwn i o dan adain Miss Roberts Cefnpoeth a Miss Willias. Benllach. 'Dwi'n sicir y byddan' nhw.
Bob blwyddyn, mae pentrefwyr Casblaidd yn ail-fyw taith Mair a Joseff o Nasareth i Fethlehem drwy gan a gair ar strydoedd y pentref. Roedd Mair yn teithio ar asyn go-iawn! - Brambles, ac mi gefais innau gyd-gerdded efo nhw i'r stabal, ac at y preseb yn y festri lle'r oedd y bugeiliaid wedi paratoi gwely i'r un bach. Noson fydd yn aros yn y cof am amser hir.