O Chicago i Lanina...
Am gyfnod fe fu Delme Lloyd, perchenog y Llanina Arms, rhwng Aberaeron ac Aberteifi yn chwarae rygbi yn Chicago. Fe alwodd yn Lerpwl ar ei ffordd yn ôl i Gymru, er mwyn gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd i aelodau tîm peldroed y ddinas.
'Dwn i ddim os ydi 'You'll never walk alone' yn un o'r caneuon mae o'n eu canu
efo'i fand, ond fe ganodd o gân Hugh Chiswell am y Cwm yn fyw o'r dafarn ar raglen Jonsi , a phawb yn cytuno ei bod hi'n dda cael ei weld o adre fel hyn.
Mae tafarn y Glanrafon, yn Nhalgarreg wedi bod yn gyrchfan, cantorion Cymru ers blynyddoedd ac yn ol y perchnogion Hywel a Megan, mae o fel ail gartre i John ac Alun a Hogia'r Wyddfa.
Fe fuo ni'n trafod pob math o bynciau ar raglen Geraint Lloyd- y casgliad anhygoel o 700 o jygia' sy'n crogi o do'r dafarn, llyfr Lloyd Jones ar hanes Talgarreg a brechdanau 'samon' Megan, oedd mor flasus a'r rhai yr oedd Nain yn eu paratoi ar gyfer te'r gweinidog ers talwm.
Y Celtic Caffi ydi'r lle i gyfarfod yn Aberaeron, ac am hanner awr wedi deg ar ei ben fe ddaeth Betti Davies, Talsarn, Laura Lewis,Cilcennin a Gillian Harries, Ciliau Aeron, drwy'r drws yn barod am goffi cynta'r dydd a sgwrs am y papur bro Llais Aeron. Mae na dros drigain o bapurau bro yng Nghymru, a 'dwi'n gobeithio cael sgwrs efo pob papur bro yn ei dro, er mwyn rhoi sylw cenedlaethol i'r straeon lleol.
Felly os oes na groeso i'r fan a fi yn eich ardal chi, anfonwch e bost at hywel@bbc.co.uk.