Nôl yn fy hen dref, ar gyfer darlledu o Ŵyl Cefni, yng nghysgod y Town Hall, lle byddwn i'n mynd ar Nos Sadwrn, i jeifio, i sŵn yr Anglesey Strangers, a'r Tom Lennon Trio. Trio unigryw- 'roedd 'na bedwar ohonyn nhw.
Ac i brofi fod hon yn Ŵyl sy'n dennu'r sêr, roedd Sam Tan wedi galw draw gan obeithio, cael tocyn ar gyfer y bandiau-Sibrydion a Racehorses yn eu plith nhw- oedd
yn perfformio ar y sgwar gyda'r nos.
Gadewch i mi wybod am ddigwyddiadau yn eich ardal chi, dros yr ha', ac fe fydd y fan a fi yn y fan a'r lle. hywel@bbc.co uk
Ar fy ffordd i Fôn fe alwais heibio ysgol Croes Atti, i weld y murlun, lliwgar, diddorol, hanesyddol, sy'n gynnyrch cydweithio rhwng plant yr ysgol a'r artist Kevin Burgess, ac fe ddarlledwyd sgwrs efo Kevin a'r plant ar raglen Nia. Gyda llaw mae'r plant a Kevin yn cuddio-tu ôl i'r llun!
Theatr wag, foethus yn aros am gynuilleidfa. Yn lle? Y West End? Naci, wir. Y North East!
Dyma i chi gliw...
Ydi'r sillafiad'stryt' yn gliw i ti , uffer?
Fe arferai ID Hooson fynd i fyny Allt y Gwter, yn y pentref yma, a heibio Stryd y Go'
Yr ateb, wrth gwrs, ydi Rhosllanerchrugog, ac mae'r theatr foethus yn rhan o adeilad enwog y Stiwt yn y Rhos, ail agorwyd union ddeng mlynedd yn ôl. Gyda llaw, Gareth Hughes, encyclopedia'r Rhos ar ddwy goes, ydi'r gŵr yn y llun sy'n awyddus i wneud cynnig am y fan. Fe fyddwn ni'n dychwelyd ym mis Medi i ddarlledu o'r pentre' enwoca yng Nghymru.
Deg o'r gloch ar fore Gwener braf, ac mi oeddwn i'n aros am y bws, fi ac Elizabeth Gilpin, o'r Rhos. Yn brydlon am ddeg, gyda Hubert Griffiths tu ôl i'r llyw, fe gyrhaeddodd y bws, yn cario mwy o bererinion, o Hendy Gwyn ar Dâf - Roy a Rhoswen Llywelyn, aelodau o Gymdeithas y Dywysoges Gwenllian, ar eu ffordd i Semprinham, lle carcharwyd Gwenllian, unig blentyn Llywelyn, ein Llyw Olaf, am 54 o flynyddoedd, dan orchymyn Brenin Edward 1af.
Ar y bus i fusnesu yr oeddwn i. Lle mae Sempringham oedd y cwestiwn cyntaf?
A'r ateb ges i "Ddim yn bell o Grantham, cartref Magaret Thatcher, yn swydd Lincoln. 'Roeddwn i hefyd am wybod, pwy oedd aelodau'r Gymdeithas, pam oedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn rhywbeth ddigwyddodd bron i saith canrif yn ol. Fe gewch chi'r atebion ar raglen yn adrodd hanes y daith,fydd yn cael ei darlledu ar Radio Cymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Y deinamo sy'n gyrru'r Gymdeithas ydi Mallt Anderson, a hi osododd y dorch wrth y gofeb, gynlluniwyd gan Ieuan Rees. Cofeb sydd yn edrych yn syndod o debyg medd rhai i leian yn gwisgo clogyn llwyd hir.
Ar ol clywed am hanes y Dywysoges Gwenllian fe ysbrydolwyd y prifardd Mererid Hopwood i 'sgwennu'r geiriau hyn:
Doli glwt ein cenedl glaf
oet ein harwr tyneraf
ein baban gwan, ein mam gaeth,
yn ifanc, dy hynafiaeth,
Ac atat ti, Gwenllian
y down o'th wlad, eneth lan,
dod eto i'r gwastatir
heddi i fan dy ddioddef hir.
Er mai bachgen o'r Tymbl ydi o, 'Does na neb yn gwybod mwy am hanes Llanymddyfri a'r cylch na Dai Gealy. Pwy'n well felly i rannu syniadau a choffi efo fo yn y Penygawse.
"Enw od ar gaffi, Dai. Penygawse
"Falle. Ond mae'n bur debyg mai o'r gair 'causway' mae cawse yn dod."
Nabod ei ardal, ei rygbi a'i bobol. Fe fu'n chwarae rygbi efo Carwyn James, ac i dim y Scarlets. Mae o wedi 'sgwennu llyfr am argraffdy Tonn, ac mae ganddo bob un llyfr a gyhoeddwyd gan y wasg, yn ogystal ac un neu ddau o lyfrau prin Gregynog.
Fe fydd y fan a fi yn sicr o ddychwelyd i Lanymddyfri yn y dyfodol agos i ddarlledu ,ac i rannu efo Cymru gyfan hanesion pobol y dref yr oedd George Borrow wedi mwynhau ymweld a hi yn fawr "It is about the pleasantest little town in which I have halted in the course of my wanderings." medda fo. Amen, medda finna.
1986 oedd hi. Eisteddfod Abergwaun. Eisteddfod y mwd. Jim Jones yn ennill y goron. Ond yr hyn dwi'n ei gofio am yr Eisteddfod honno ydi, mod i'n aros yn Nhudraeth, ac wedi mwynhau mwy nag un Noson Lawen, ac yn wir un neu ddau fore llawen hefyd yn y Golden Lion efo Glyn a Penny, y perchnogion. A thu allan i'r sefydliad hwnnw y gwnes i gyfarfod Bonni Davies a Martin Lewis. Bonni ydi un o olygyddion Papur Bro'r "Llien Gwyn" ac mae Martin yn cyfrannu colofn sy'n adrodd hanes gorffennol Sir Benfro. Mae'r "Llien Gwyn" yn dathlu 'i benblwydd yn ddeg ar hugain oed eleni, a'r "Cardi Bach" hefyd . Ac os ydi'ch Papur Bro chi yn haeddu sylw am rhyw reswm, cofiwch gysylltu efo fi. hywel@bbc.co.uk.
ORIEL YR ANFARWOLION.
Lle basa chi'n mynd i weld lluniau gan Kyffin Williams, Gwilym Pritchard, Claudia Williams, Aneurin Jones, Ifor Davies, a llawer mwy. Wel, os 'da chi'n byw ym Mhenfro, does dim rhaid i chi fynd dim pellach nag Ysgol Casmael. Yno mae'r prifathro Alun Ifans, wedi creu oriel anhygoel, dros y blynyddoedd, o luniau rhai o brif artistiaid Cymru. Ond yr un wnaeth yr argraff fwyaf ar Alun, medda fo oedd Ray Howard Jones , yr unig ddynes i gofnodi, mewn paent, y paratoadau ar gyfer y glanio ar D Day, a'r llongau'n dychwelyd o Normandi. Bu'n byw ar Ynys Sgomer am ddeng mlynedd, ac yna mewn caban pren wrth lanfa Martins Haven, Marloes, ac yno y cyfarfu Alun a hi am y tro cyntaf. Bellach mae o wedi sgwennu llyfryn diddorol iawn yn adrodd hanes ei bywyd, ac yn ol Alun, mae'r tri llun o'i gwaith sydd yn Ysgol Casmael , ymhlith rhai o drysorau mwyaf gwerthfawr yr Oriel. Os 'da chi am gopi o'r llyfr cysylltwch ag Alun ar . Ac os 'da chi am roi sylw cenedlaethol i ddigwyddiad lleol yn eich ardal chi, anfonwch e bost ata i hywel@bbc.co.uk Fe fydd y fan a fi yn y fan a'r lle.