Dau Fochyn o Fôn yn y Sioe
Bill Fowlie oedd un o'r moch, a fi oedd y llall.
Er bod gwreiddiau Bill yn yr Alban, mae o'n byw ers blynyddoedd yn Braemore, Berffro, ac wedi bod yn dangos moch ers pan oedd o'n hogyn ifanc, ac wedi cael dipyn o lwyddiant.
A be 'di cyfrinach y llwyddiant hwnnw? Cwestiwn da. Ac ateb Bill oedd - gwymon y môr. Mae o'n ei ychwanegu o at eu bwyd.
Ond mae ymroddiad hefyd yn bwysig iawn. Fe gododd am hanner awr wedi pedwar i baratoi'r baedd ar gyfer y gystadleuaeth amser cinio ddydd Llun.
Ac unwaith eto mi gafodd y cerdyn coch - ac yn wahanol i chwaraewyr peldroed, mae cystadleuwyr y sioe, yn hapus iawn os gawn nhw'r cerdyn hwnnw!