Ymddiddan a'r Brawd Llwyd
Cefais gwmni'r Prifardd Iwan Llwyd yn ystod seremoni coroni'r Prifardd Ceri Wyn. Enillodd Iwan y goron yn Eisteddfod Cwm Rhymni yn 1990, ac yn yr Eisteddfod honno hefyd y cyfansoddwyd yr englyn yma i blant y ddawns flodau:
Eiddil ynt yng ngŵydd y wlad-yn eu plyg
Dim ond plant am eiliad
Ar grinder ein hir barhad
Yn rhoi ias i'n goroesiad.
Tra 'roedd y merched yn dawnsio fe gawsom ni gyfle i son am gyfrol newydd o gerddi Iwan, sydd wedi'u cyhoeddi dan y teitl 'Sonedau Pnawn Sul'.
A dyma i chi damaid i aros pryd o gerdd Ceri Wyn Jones, nes cewch chi gopi o'r Cyfansoddiadau ddiwedd yr wythnos:
Mae'r afon yn diogi am awr fendigaid
a'r aber ei hun yn harbwr enaid,
a'r haul hwyrol o euraid yn y twr
fel nef y lleygwr o flaen fy llygaid.
SylwadauAnfon sylw
Rwy'n siwr y bu cwmni'r Prifardd Iwan Llwyd yn ddifyr, ond trueni o'r mwyaf y bu'n rhaid iddo enwi'r bardd buddugol cyn i'r Archdderwydd wneud hynny.