Anifeiliaid Tregaron
Ar fy nheithiau ddechrau'r wythnos i Bontrhydfendigaid, fe alwais heibio Tregaron ar ôl clywed fod Dafydd Morgan - sydd wedi treulio 2009 yn gadael i bawb wybod ei bod hi'n bedwar can mlynedd ers marwolaeth Twm Sion Cati - yn gasglwr o fri.
Casglu anifeiliaid mae o, sy'n byw yn Ne America, De Affrica, Ynysoedd y Galapagos, Antartica, De Awstralia, Seland Newydd a Tregaron. Mae nhw'n gallu nofio ar gyflymdra o bymtheg milltir yr awr. Mae 'na tua chan miliwn ohonyn nhw yn y byd - a dwy fil yn Nhregaron, yng nghasgliad anhygoel Dafydd, ei wraig Frances, a'i ferch fach Catrin.
Sôn yr ydw i am y pengwin. Ond pam, casglu pengwiniaid, bach, mawr, wedi ei gwneud o glai, gwydr, pren, wedi ei gweu, pengwiniaid mawr yn sefyll ar y piano, ac mae 'na un yn y casgliad sy'n llai o faint na phen sgriw.
Yr ateb yn syml, yn ôl Dafydd, oedd eu bod nhw'n greaduriaid hoffus iawn sy'n rhoi gwen fach ar eich wyneb bob tro 'dachi'n edrych arnyn nhw.
Yn debyg iawn i Dafydd ei hun fel mae'n digwydd!