Pobol Cwm Gwendraeth
Rhwng trefi Caerfyrddin, Rhydaman a Llanelli y gorwedd Cwm Gwendraeth, yn ne ddwyrain Sir Gaerfyrddin. Ond mae'n bwysig cofio fod 'na ddau Gwm Gwendraeth - y Fach a'r Fawr.
Y naill yn cynnwys pentrefi bychain fel Porth y Rhyd, Llangyndeyrn, Llandyfaelog, Mynydd y Garreg a Chydweli, lle ganwyd fy nhad. A'r llall yn cynnwys pentrefi mwy fel Pontyberem, Pontiets, Ponthenri a Thrimsaran.
Ac fel wyr Dafydd Evans y crydd yn 10 Bridge St, Cydweli, mae 'na groeso i mi bob amser yn y Cwm - a hwnnw'n groeso cynnes, fel y croeso ges i yn ddiweddar yng Nghaffi Cynnes, Pontyberem.
Yno 'roeddwn i i gyfarfod Don Williams a Haydn Scaife ac i gael golwg yn eu cwmni nhw ar arddangosfa ddiddorol iawn yn llawn dogfennau a hen luniau sy'n adlewyrchu gorffennol cyffrous a disglair Cwm Gwendraeth.
Gyda'r nos fe es i draw i sinema Cross Hands i weld dangosiad hanesyddol o ffilm am fywyd Lloyd George ddaeth i'r fei ar ôl 76 o flynyddoedd o fod ar goll.
Ac os ewch chi ymhellach yn ôl na hynny, i'r 19 ganrif, fe gewch chi esboniad am darddiad yr enw Cross Hands.
Wel, mae 'na ddau a deud y gwir. Gewch chi ddewis.
Mae rhai yn dweud y byddai carcharorion yn cerdded o garchar Caerfyrddin i garchar Abertawe, a'u dwylo mewn cadwynau, ac yn mynd drwy'r pentref. Esboniad arall ydi fod ceffylau'r goets fawr yn cael eu newid yma - ac felly yn newid dwylo.