Tafodiaith Cwmafan a Port Talbot
Y bore o'r blaen mi fues i'n wilia ac yn lapan efo rhai o drigolion Cwmafan a Phort Talbot oedd wedi bod yn wilia am oria' (80 awr i gyd) efo Eurof Williams, oedd yn recordio tafodiaith yr ardal ar ran .
Fe fydd y sgyrsiau i'w clywed ar raglen Nia fore Mercher rhwng hanner awr wedi deg a deuddeg o'r gloch ar Radio Cymru. Nôl yn y saithdegau Eurof oedd rheolwr y grŵp pync Cymraeg cyntaf -Y Trwynau Coch. Ac yn yr wythdegau, fo oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r grŵp Bando i lwyfannau Cymru. Un o'r bobol a ddaeth draw oedd Stan Jones. Mae ei gyfraniad i'w gymdeithas a diwylliant y cylch yn fawr. Treuliodd ddwy flynedd o dan ddaear fel Bevin Boy, ac fe fu'n athro cerdd yn yr ardal gan ysgrifennu llawlyfr ar sut i chwarae'r recorder. Gyda llaw, yn wahanol i'r Trwynau Coch, fasa Stan Jones ddim yn 'mynd i'r capel mewn Levis' gan ei fod o'n aelod parchus o gapel y Roc, Cwmafan.
Os 'da chi am gael copi o Gryno Ddisg tafodiaith Cwmafan a Phort Talbot ewch i .