Botymau mewn hen gapel yn y Felinheli
Be 'di'r cysylltiad rhwng dyffryn yr Indus yn yr hen Bacistan, ac afon Menai?
Mewn gair yr ateb ydi botymau. Fe ddarganfuwyd botymau bach yn nyffryn yr Indus oedd yn dyddio'n ôl i'r flwyddyn 2000 cyn Crist.
A chwestiwn arall i chi. Pan oeddech chi hogyn bach, ddaru chi chwara tric ar y rhai oedd yn mynd o gwmpas i hel casgliad yn y capel, drwy roi botwm ar y plât, yn lle pishyn chwe cheiniog!
Wel mae 'na gapel yn y Felinheli sy'n edrych ar draws y Fenai i Fôn, sy'n llawn o fotymau. Siwan Haf sy'n eu casglu nhw. Nid oherwydd ei bod hi wedi gwirioni ar eu siâp a'i maint a'i lliw, ond oherwydd ei bod hi a'i ffrindiau wedi sefydlu busnas bach sy'n troi rhes o fotymau yn gadwyn i fynd am y gwddf neu'n freichled liwgar i fynd am y fraich.
Felly mae'r capel yn y Felinheli yn gartre' ac yn weithdy, ac mi faswn i'n hoffi clywed ganddoch chi am unrhyw adeilad sydd wedi cael ei adfywio. Fe fyddai'n hwyl mynd draw i gael ei hanes.
Cysylltwch efo fi ar yr e-bost. hywel@bbc.co.uk