Dathlu Gwyl Ddewi
Yn Ysgol Dewi Sant, Llanelli yr oeddwn i ar Fawrth y cyntaf yn dathlu gwyl ein nawddsant yng nghwmni pedwar cant o blant, i gyd wedi eu gwisgo yn addas ar gyfer yr achlysur. Y merched mewn gwisgoedd Cymreig, a'r bechgyn yn eu crysau rygbi coch, a'r pennaeth Gethin Tomas(ar y chwith yn y rhes flaen) yn gwisgo crys gwyn wedi ei smwddio'n ofalus ar gyfer y diwrnod mawr.
Yn ogystal a chlywed y plant yn ein hatgoffa ni, mae "Dyn da oedd Dewi" a bod Cymru yn "wlad o feirdd a chantorion" fe ges i ychydig o hanes cyffrous yr ysgol. Hon oedd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf yng Nghymru i gael ei chynnal yn llwyr gan yr Awdurdod Addysg, a Miss Olwen Williams oedd y brifathrawes gyntaf, pan agorodd yr ysgol ei drysau dros ddeugain mlynedd yn ôl.
'Roedd yn rhaid i mi adael yr ysgol yn syth bin ar ol darlledu ar raglen Nia, a gyrru'r fan i Aberteifi. Ac felly yn anffodus 'doedd na ddim amser i fwynhau'r cawl cennin blasus oedd wedi cael ei baratoi gan staff y cantin. Mae'n rhyfedd fel y daeth yr atgofion yn ol i mi am ddyddiau ysgol yn Llangefni yn ystod y cyngerdd yn Ysgol Dewi Sant Llanelli. Canu "Y Mae Afon" yng nghôr Miss Willias, Benllech , ac actio stori Dewi Sant yn pregethu, a'r tir yn codi o dan ei draed o, yn nosbarth Mr. Stephen Edwards. 'Roedd cael y tir i godi yn hawdd. Dim ond dringo o'r llawr i ben cadair wedi ei gorchuddio a charthen werdd oedd raid. Ond 'dwi ddim yn cofio i Mr. Edwards geisio cael y golomen i ddisgyn ar ei ysgwydd! Dyddiau dedwydd a dyddiau pwysig iawn hefyd.