Peldroed ym Mhontnewydd
Ers stalwm, pan oeddwn fachgen, 'roeddwn i wrth fy modd yn casglu cardiau o luniau arwyr y maes peldroed. Stanley Mathews, Joe Mercer, Tommy Lawton, ac wrth gwrs Trevor Ford. 'Roeddwn i'n chwarae peldroed i'r ysgol ac yn hynod o beryglus yn y cwrt cosbi. Unrhyw bel yn yr awyr ac fe fyddwn yn ei phenio yn syth i'r rhwyd.
Yn anffodus, 'doeddwn i ddim cystal am ergydio'r bel, efo fy nhraed. Yn wir fe ddywedodd fy athro Ymarfer Corff, Jim Roberts un diwrnod "Lad. If you had a head on both your feet- you could be dangerous."
Yn wahanol i mi roedd gan Iolo Evans, o'r Bontnewydd, draed cyflym, oedd yn medru taro'r bel yn galed ac yn gywir pan oedd o'n chwarae peldroed i dim enwog Llanberis. Ac mae ei gasgliad o raglenni peldroed, dipyn gwell na'r casgliad pitw oedd gen i. Mae ganddo fo ddwy fil ohonyn nhw, ac mae o'n dal i gasglu. Un rhaglen fodd bynnag y basa fo'n hoffi ei hychwanegu at ei gasgliad ydi rhaglen y gem enwog rhwng Cymru a Brazil yng nghwpan y byd pan sgoriodd Pele yr unig gol. Mae'r rhaglen yn werth ffortiwn medda' Iolo.
Felly os oes ganddoch chi gopi i'w gwerthu - Iolo Evans ydi'ch dyn chi!