Mewn undod y mae nerth
Pwy ydi'r pump o amgylch y bwrdd? Os 'da chi'n byw yn Llangyndeyrn neu yn un o'r pentrefi cyfagos, fe fyddwch yn gwybod yn iawn pwy ydyn nhw.
O'r chwith i'r dde: Joan Jones, John Thomas, Arwyn Richards, Nina Rees a Huw Owen.
Fe fyddwch chi'n cofio hefyd i bentrefwyr Llangyndeyrn frwydro ddechrau'r chwedegau yn erbyn y bwriad gan Gorfforaeth Abertawe i foddi mil o aceri o dir yn ymyl y pentre'. Er mai babi bach dau fis oed oedd John ar y pryd, mae o wedi clywed yr hanes droeon gan ei dad oedd yn un o arweinwyr yr ymgyrch, ac fe fu'r pump ohonyn nhw yn hel atgofion yng nghysgod y garreg enfawr a godwyd tu allan i'r pentre' i gofio am y frwydr.
Y geiriau yng nghanol y garreg ydi "Mewn undod y mae nerth." Ac fel dywedodd Arwyn Richards "Roedd pawb yn gytûn na fydden ni'n ildio modfedd ac fe brofon ni mai trech gwlad nag arglwydd."