Seren y 'Steddfod
Cofiwch yr enw Guto Lewis. Mae o'n canu, yn adrodd ac er mai dim ond tair oed ydi o,
mae ganddo fo farn bendant iawn. Oherwydd pan welodd o faint y cwpan yr oedd o wedi
ei hennill am adrodd yn eisteddfod Llandudoch, ei ymateb oedd "Fi moin cwpan fwy!" Ac fe ddaw 'na chwpanau mwy a medalau lu i Guto yn y dyfodol, yn sicr.
Mae eisteddfod Llandudoch yn enghraifft perffaith o'r eisteddfod fechan lwyddiannus efo trefnwyr brwdfrydig, fel Melrose Thomas a Terwyn Thomas, sy'n bwydo'n eisteddfodau Cenedlaethol ni efo cystadleuwyr. Heb y rhain fydda 'na ddim dyfodol i'r Eisteddfodau mwy.
Fe ges i brynhawn wrth fy modd yng nghwmni'r gynulleidfa a chyfle hefyd i adrodd y stori ar raglen Nia fore Llun. Gyda llaw, 'roedd y salad y pice ar y ma'n, a'r brechdanau wy yn y gegin yng nghefn y neuadd yn haeddu tystysgrif 'Highly Commended' hefyd!
Mae 'na fwy o deithio i'r fan a fi yr wythnos hon.
Ddydd Mawrth fe fydda' i yn y Gerddi Botaneg yn darlledu Neges Ewyllys da'r Urdd yn y bore a chyda'r nos yn galw heibio Côr Waunarlwydd i gael dymuno pen-blwydd hapus i'r côr yn ddeugain oed.
Yna, ddiwedd yr wythnos ymweliad ag Abergwaun i weld beth fydd yn digwydd pan fydd y Llydäwyr, nid y Ffrancod, yn glanio.
"Ond pam na tydi o ddim yn galw acw" meddach chi. Wel, os oes 'na unrhyw beth diddorol yn digwydd yn eich ardal chi, e-bostiwch fi, hywel@bbc.co.uk, ac fe fydd y fan a fi, yn y fan a'r lle.