Cerdded er mwyn Dafi
Flynyddoedd yn ôl fe gerddodd Gari Williams, Sulwyn Thomas a finna o'r de i Ddyffryn Nantlle i roi cyhoeddusrwydd i Steddfod yr Urdd. Ar y ffordd, roedd yn rhaid i ni gerdded i fyny rhiw serth Allt Walis.
Ar ôl llwyddo i gyrraedd y copa, fe drodd Gari at Sulwyn a finna gofyn "Ydach chi'n gwbod hogia, pam ma' nhw wedi galw honna yn Allt Walis? Wel, oherwydd, ma' dim ond tri wali fel ni fasa'n meddwl i cherdded hi!"
Fedrwn i ddim llai na meddwl am y daith gerdded honno heddiw ar draeth Ynys Las, wrth geg yr Afon Ddyfi yn ardal Machynlleth, a finna wedi fy amgylchynu efo tîm o gerddwyr eiddgar ifanc, yn wynebu taith o drigain milltir ar draws traeth o Ynys Las, i lawr llwybr yr arfordir, gan orffen y daith ar bont Aberteifi.
Ond nid criw dibrofiad ydi'r rhain mae'n amlwg. Mae'r dillad iawn ganddyn nhw - sgidia cerdded, dillad pwrpasol, digon o ddŵr a mwy na digon o gyhyrau i gwblhau'r daith.
Fe fyddan nhw'n cerdded drwy'r nos er mwyn diolch i Ysbyty Great Ormond yn Llundain, ac Ysbyty Bronglais Aberystwyth, am achub bywyd Dafi, brawd bach Jano a mab Eilir a Catrin.
Pan oedd Dafi yn y groth, fe ddangosodd sgan yn Ysbyty Bronglais fod 'na waedu ar yr ymennydd, ac fe aethpwyd ag o i Great Ormond Street. Ar ôl yr enedigaeth, fe gafodd y bychan nifer o lawdriniaethau, a dwy flynedd yn ddiweddarach mae'r teulu wedi cael newyddion da - yr 'all-clear'.
Eisoes mae cwmnïau ac unigolion yng Ngheredigion wedi cefnogi'r daith gerdded, a'r gobaith ydi y bydd y daith gerdded yma yn cynyddu'r gronfa, ac yn profi unwaith eto pa mor hael ydi'r Cardi.
Maen nhw'n gobeithio cyrraedd pont Aberteifi heno (Nos Wener, Mehefin 25ain) erbyn chwech o'r gloch. Fe fyddai'n braf iawn petai 'na griw yno i'w croesawu yn ôl yn fuddugoliaethus.
Cewch glywed y diweddaraf am y daith ar raglen Geraint Lloyd ar Radio Cymru heno (Nos Wener 25ain) rhwng 6.30pm ac 8pm