Plant Y Fflam
Plant Ysgol y Bannau yn eu gwisgoedd ffansi
Canu am 'gynnau'r fflamau' yr oedd plant Ysgol y Bannau, pan alwais i heibio'r
Ysgol Gymraeg, sydd ar gyrion tref Aberhonddu.
'Roedd pob un ohonyn nhw wedi eu gwisgo, fel yr oedden nhw'n dychmygu y byddan nhw'n gwisgo ymhen deng mlynedd ar hugain. Dyna pam yr oedd y neuadd yn llawn o ddoctoriaid, a nyrsys, Sam Tân neu ddau, un Indiana Jones a nifer o chwaraewyr rygbi.
Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl y cynnwyd y fflam gyntaf, pan sefydlwyd yr Ysgol, drwy lafur caled Mr John Edwards, Gwilym Roberts ac eraill. Fe fu Mr Edwards yn bennaeth yr Ysgol am ddwy flynedd ar bymtheg a bellach mae'r ffagl wedi cael ei throsglwyddo i fachgen o Gwm Gwendraeth, pennaeth presennol yr ysgol, Emyr Jones.
Emyr Jones, prifathro Ysgol y Bannau gyda'r rhai a fu'n rhedeg 30 cliometr fel rhan o ddathliadau'r ysgol
Un arall sydd ar y staff ac yn edrych ar ôl gweinyddiaeth yr ysgol, ydi Catherine Roberts, ond mae ganddi hefyd weithdy, lle mae hi'n creu darnau cywrain mewn gwydr, ac yn wir fe ddangoswyd peth o'i gwaith hi yn yr Eisteddfod eleni.
Rhydian, un o gyn-ddisgyblion Ysgol y Bannau
Mae fflamau'r iaith a'r diwylliant Cymraeg, yn cael eu gwarchod yn ofalus yn Ysgol y Bannau a 'dwi'n siŵr y byddai dau o gyn disgyblion yr ysgol, yr actores Nia Roberts a'r canwr Rhydian, am i mi ddymuno pen-blwydd hapus i'w hen ysgol yn 30 oed.
Ymlaen i'r 30 nesa!