Penblwydd Hapus Aneurin yn 105
Yn y flwyddyn 1905 fe aeth asbrin ar werth am y tro cynta'. Fe benodwyd Lloyd George yn Lywydd y Bwrdd Masnach, ac roedd pawb yn canu cân boblogaidd y dydd
'I loved a Lassie' gan Harry Lauder.
Ac yn Fochriw, tu allan i Gaerffili, fe anwyd Aneurin Thomas. Mae Lloyd George a Harry Lauder wedi'n gadael ni ers blynyddoedd, ond mae Aneurin Thomas 'Yma o Hyd' ac yn byw erbyn hyn yng Nghaerffili, lle'r es i i'w weld o yr wythnos ddiwetha' i ddymuno pen-blwydd hapus.iddo fo yn gant a phum mlwydd oed.
Aneurin Thomas o Gaerffili sy' newydd ddathlu ei benblwydd yn 105 oed
'Roedd ganddo nifer o straeon i'w hadrodd wrth olrhain hanes ei fywyd prysur. Bu'n athro, ac yn arweinydd band, yn ogystal â chyfeilio ar y piano yn y sinema leol i ffilmiau Charlie Chaplin a Buster Keaton.
'Roedd ei dad yn awyddus iddo fynd i'r Brifysgol yng Nghaerdydd i astudio cerddoriaeth, ac roedd o'n cofio eistedd yn y parc yng Nghaerdydd, yn aros am y cyfweliad, wrth ochor merch ifanc o'r Barri, ddaeth yn un o gyfansoddwyr enwoca' Cymru - Grace Williams.
A beth ydy cyfrinach Aneurin?
"Bod yn brysur" medda' fo "a bwyta be' chi moin."
Cyngor hawdd iawn i mi ei dderbyn, fel un sy'n mynd drwy'r amser, ac yn hoffi llenwi i fol!
Bydd hanes Aneurin i'w glywed ar raglen Nia Roberts ar Radio Cymru ddydd Llun, Hydref 4ydd.