Blwyddyn Newydd, weddol, dda.
Fe wyddoch yn iawn fod unrhyw un sy'n cychwyn brawddeg efo'r geiriau 'Tydw i ddim yn un am gwyno...' ar fin cwyno!
Felly, mae ganddoch chi syniad go lew be' dw i ar fin wneud. Dyna chi, cwyno.
Dipyn o'r Victor Meldrew ar ddechrau blwyddyn fel hyn.
Er mae'n rhaid i mi ddechrau efo canmoliaeth. Canmoliaeth i bobl Cwm Gwaun, Sir Benfro am y croeso ges i ganddyn nhw ar Ionawr 13eg, pan es i draw i'r 'cwm tu draw i'r cymoedd', (chwedl Gwilym R. Jones yn un o'i gerddi) uwchben Tudraeth i ddathlu'r hen Galan ar Ionawr 13eg.
Fe es i heibio tafarn Bessie, lle mae hi'n dal i werthu cwrw drwy'r 'hatch' ac 'roedd hi mor groesawgar ac erioed.
'Be chi moin?' medda hi. 'Sdim amser 'da fi heddi i siarad. Mae'r plant yn dod o gwmpas i gasglu calennig'
Ac yn wir, mae'r traddodiad mor fyw ac erioed, a phlant ysgol fechan Llanychllwydog yn mynd o dÅ· i dÅ· drwy'r dydd yn canu am eu calennig.
Diolch i Bonni Davies Golygydd papur Bro y Llien Gwyn am drefnu fy ymweliad, ac yn enwedig i Lilwen a Gaynor yn y Swyddfa Post am eu croeso. Fe fyddai Llywelyn Fawr ei hun wedi bod yn hapus iawn efo'r wledd o fwyd yng ngartre Gaynor, yn enwedig y Fictoria Spynj enfawr ar ganol y bwrdd tua'r un maint â Chanolfan y Mileniwm. Gwych!
Reit dyna'r canmol drosodd.
Be' 'di'r gŵyn?
Wel, ar y Sadwrn canlynol fe es i i'r Gogledd i nôl fy nghar oedd wedi bod yn glaf mewn garej ym Mhrestatyn ers cyn y 'Dolig. Yn glaf iawn a deud y gwir. 'Roedd angen injan newydd, ac felly roedd rhaid teithio ar y trên i nôl y claf a'i injan newydd. Dyma sut ath petha:
7.20 dal y trên o Gaerdydd. 10.50 cyrraedd Prestatyn. 11.30 Cael y car a chychwyn ar y daith yn ôl drwy'r glaw. 12.30 Awr yn ddiweddarach, och a gwae, yn ymyl Croesoswallt, cebl y clutch yn torri. 12. 40 Ffonio'r cwmni achub, a chael y newyddion da y byddai rhywun yn dod i fy achub - ymhen teirawr!
2.40. Dyn y cwmni achub yn creu cebl newydd allan o ddarn o weiran ar ôl straffaglu ym mol yr injan am hanner awr. 3.30 Gyrru nôl i Brestatyn er mwyn gadael y car yn y garej, 'o'r lle ni ddaeth fy nghymorth' a dal trên chwarter i chwech yn ôl i Gaerdydd.
Wel, ddim yn hollol.
9.05 Cyrraedd Casnewydd mewn pryd i glywed cyhoeddiad 'This train terminates at Newport due to signal failure.
9.20. Tacsi yn ôl i Gaerdydd - £25. O ia, a £2,000 am injan newydd i'r car.
Ond mae pethau wedi gwella. (Mi fysai'n anodd iddyn nhw fynd yn waeth)
Fe es i i fyny i Gricieth ddechrau'r wythnos i gyfarfod â Bob y Caffi a chriw o ffrindiau a chael llond plât o syniadau (a sgons!) ar gyfer rhaglenni o'r cylch yn y dyfodol.
Ar ôl treulio'r pnawn efo'r gantores opera Marian Bryfdir ym Mangor, gyda'r nos roeddwn i ym Mryncroes, Llŷn, yn gwrando ar ddarlith ddiddorol iawn am archaeoleg Gwynedd.
A wyddoch chi pwy oedd yn darlithio? Neb llai na sylfaenydd band Pync Yr Anrhefn - yn y ganrif ddiwetha'!
Oedd, 'roedd o'n dipyn o sioc i weld Rhys Mwyn yn siarad mor awdurdodol o ddifyr am gyfnod y Rhufeiniad. Bore trannoeth,' roedd o a finna' ar safle llys Llywelyn Fawr yn Abergwyngregyn, lle mae'r cloddio bron a dŵad i ben. Yn anffodus, 'doedd Siwan ddim yno. Wedi mynd i siopa i Gaer efo Gwilym Brewys, mae'n siŵr.
Erbyn i chi ddarllen hyn o lith, fe fydda i ar fy ngwyliau, yn nhref Aberystwyth, lle byddai'n cael cyfle i arafu, a thawelu, a chargo'r batris ar gyfer y daith nesa.