Ac Wedi Geni'r Iesu Yng Ngapel Y Bedyddwyr....
"Hywel!" medda'r llais wrth i mi fynd heibio "Wyt ti'n dod i mewn. Mae 'na groeso i chdi
ymuno efo ni" 'Roeddwn ar fin dweud "Diolch ond 'dwi ar frys" pan welais i fod y gwahoddiad wedi dwad o enau gŵr doeth yr olwg, yn gwisgo dillad crand ac yn sefyll wrth ymyl clamp o gamel mawr wedi 'i stwffio. Ac yn wir roedd na ddau ŵr doeth arall, sef Balthasar a Melchior, wrth ei ochor.
Fe esboniodd Caspar (neu Bob Roberts fel mae o'n cael ei adnabod gan aelodau Capel Crwys) fod
Dram'r Geni yn cael ei pherfformio'n ddyddiol yng Ngapel y Tabernacl ar yr Ais yng nghanol y ddinas, gyda chydweithrediad holl eglwysi'r dre, dros gyfnod y Nadolig. Tu allan i'r capel, mae'r preseb i'w weld, a dau asyn, go iawn, ac os 'da chi am fwy o'r hanes, gwrandewch ar raglen Nia rhwng chwarter i unarddeg a hanner dydd yr wythnos nesa. Gyda llaw roeddwn i wedi gobeithio cael sgwrs efo Joseff a Mair am eu profiadau, ond yn anffodus roeddan nhw wedi mynd, yn addas iawn, i Starbucks am goffi.
Yr wythnos ddiwetha 'roedd na ganoedd o bobol, a finna yn eu canol, yn y Ffair Nadolig yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan i gerdded o amgylch stondinau yn gwerthu bara cartre, diodydd cynnes, llwyau caru a loshin. 'Roedd yr adeiladau hynafol i gyd wedi 'u goleuo ac yn yr eglwys Gatholig, symudwyd i Sain Ffagan o Bontarddulais ,'roedd R.Alun Ifans yn rhoi hanes y Plygain, a Pharti'r Efail yn canu'r hen garolau. Lawr y ffordd yn y Tollborth criw Dawnswyr Caerdydd oedd yn diddori'r dorf drwy adrodd hanes y Fari Lwyd a'r gan "Wel dyma ni'n dwad, gyfeillion diniwad i ofyn am gennad i ganu."
Ac o rwan i'r Dolig ar raglenni Nia Geraint ac Eleri fe gewch chi glywed hanes Y Fari Lwyd, a chlywed Carolau'r Plygain ar raglenni Nia, Geraint ac Eleri. Yn ogystal fe fydda i hefyd yn mynd yng nghwmni band arian Crwbin i ymweld a fferm yn ardal Llangyndeyrn, yn picio draw i Ysgol Ffynnon Bedr i gyfarfod Olifyr, ac yn cael cwmni tair merch ifanc ffashynol wrthyn iddyn nhw ddewis dillad ar gyfer y Parti Dolig. A rhag ofn eich bod chi ar fin gadael y wlad a mynd i Ostrelia i dreulio'r Wyl efo'r teulu - Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.
A chofiwch fe fydd y teithio yn parhau yn y flwyddyn newydd. Felly os da chi am anfon Calennig i mi, fe faswn i wrth fy modd yn cael gwahoddiad i ddwad acw i weld beth sy'n digwydd yn eich ardal chi. Cysylltwch drwy ebost hywel@bbc.co.uk.
Reit....ma gen i lythyr i'w sgwennu. Annwyl Sion Corn, 'Dwi wedi bod yn hogyn da iawn eleni, felly plis ga i.............