|
|
Yr
iasau
yn y geiriau
Y
cyntefig a'r cyfoes yng nghyfrol ddiweddaraf prifardd dwbwl
Dydd Iau, Ionawr 11, 2001
|
Y Cyntefig Cyfoes gan Donald Evans.
Cyhoeddiadau Barddas. £6.95.
Adolygiad gan Aneirin Karadog - a chyfle i chwithau
ddweud eich barn
Yn un o’r ychydig brifeirdd a lwyddodd i gipio’r gadair ²¹â€™r goron
yr un flwyddyn a gwneud hynny ddwywaith, nid bardd cyffredin mo Donald
Evans.
Dyma un o feirdd y genedl ond hefyd yn fardd gwlad hynod fedrus.
Plethu'r lleol a'r cenedlaethol -
y cyntefig a'r cyfoes
Yn Y Cyntefig Cyfoes ceir plethiad cywrain o’r ddau
fath o ganu; cerddi’r bardd gwlad a cherddi gan fardd sydd o bwys
cenedlaethol.
Rhaid dweud ei bod yn drueni iddo beidio â chynnwys cymaint â hynny
o gerddi a luniwyd ganddo ar gyfer pobl a phethau lleol. Cerddi sydd
efallai’n 'amherthnasol' i ni, weithiau, ond sydd eto’n hyfryd i’w
darllen a’u gwerthfawrogi.
Ynghyd â’r plethiad o ganu gwledig a chanu cenedlaethol mae plethiad
amlwg arall o’r cyntefig ²¹â€™r cyfoes ynghyd â nifer o
bethau y soniaf amdanynt yn nes ymlaen.
Er enghraifft, mae’r gynghanedd, sydd yn grefft digon cyntefig erbyn
heddiw, yn chwarae rhan amlwg yn y gyfrol hon gyd²¹â€™r bardd yn anadlu
odlau a churiadau harmonïaidd ar brydiau.
Ceir toreth o gywyddau ac englynion yma ynghyd â cherddi ar fesurau
arbrofol sydd, fwy na heb, yn cynnwys cynghanedd.
Rhannu'n ddwy ran
Yn fras, rhannwyd y gyfrol yn ddwy rhan.
• Yn gyntaf, nifer o gerddi a gyhoeddwyd gan
y bardd yn ei gyfrolau blaenorol, y perlau, fel petai, o blith cerddi
a luniodd yn ystod y dadeni cynganeddol rhwng 1976 a 1996.
Yn y rhan hon, mae natur ac amaethyddiaeth yn themâu aml iawn gyd²¹â€™r
bardd yn cael ei hudo gan wrthrychau fel y llwynog ²¹â€™r elfennau sy’n
effeithio ar natur.
Dyma englyn Cesair ac Eirlysiau:
Finioced eu caledwch – yn curo
Yn nwrn cawr tywyllwch :
Mae brad eu trawiad a’u trwch
Yn forthwyl ar brydferthwch.
Geiriau yn creu iasau
Ymdrinir â nifer o bynciau eraill yn y rhan gyntaf hon hefyd gyd²¹â€™r
cerddi sy’n dod o’i gyfrol flaenorol, Iasau, yn rhai hynod
o drawiadol ac, fel mae ei theitl yn awgrymu, â ias yn rhedeg drwy’r
cerddi.
Mae’r gerdd, Bedd Plentyn, yn arswydo gyda’i disgrifiadau sy’n
ymylu ar fod yn gignoeth ar brydiau wrth sôn am ail agor bedd plentyn
er mwyn claddu’r fam ynddo gyda’i phlentyn:
A’i ail-weld ar wely ing:
ei geg yn gyfog o waed
²¹â€™r liwcimia’n ei fwyta’n fyw.
Cerdd drawiadol arall i mi’n bersonol yw’r cywydd, Marwolaeth y
Cymro Olaf.
Cerdd sy’n rhybudd fod brwydr yr iaith ymhell o fod ar ben.
Cerdd drist sy’n peri i’r stumog gorddi ar brydiau.
Nid yn unig am mai’r Gymraeg yw’r iaith dan sylw ond oherwydd bod
marwolaeth unrhyw iaith yn ddigwyddiad, neu’n broses ingol a thrist.
Ynghyd ag effaith y gynghanedd, dyma gerdd ddwys dros ben sy’n siwr
o afael ymhob un sy’n ei darllen.
Neb ar ôl mewn hiraeth brau.
Hiraeth am un o’i geiriau
Mae’r gwrthgyferbyniadau hyn yn amlwg gydol y gyfrol - yn y rhan gyntaf
ac yn yr ail.
Enghraifft bellach o’r gwrthgyferbynnu hwn yw cerddi fel Y Tip
Sbwriel a Crwt o Fecanic sydd wedi eu gosod nesaf at englynion
am y dderwen, Coed Mawrth a Glaw’r Gwanwyn.
Yr Ail Adran
Cynnwys yr ail adran yw "cerddi cenedlgarol newydd…²¹â€™r cerddi hynny’n
dathlu adfywiad yr ymwybod Cymreig…ar gychwyn y trydydd mileniwm"
a defnyddio geiriau’r bardd.
Mae’r naws a grëir gan y bardd yn y cerddi hyn yn ymddangos yn llai
personol - ond nid yn amhersonol - gyda nifer o’r cerddi yn
cyfeirio at bethau sy’n ein diffinio ni heddiw fel cenedl ac at adeiladau
fel Stadiwm y Mileniwm.
Yn wir, mae’r cywydd i’r Stadiwm, Stadiwm 2000, yn grefftus
ac yn llawn disgrifiadau a chymhariaethau sy’n gosod y stadiwm ochr
yn ochr â phrif adeiladau’r byd ar hyd yr oesoedd:
A tho fel to’r Pantheon
yn coroni egni hon
Nodiadau gan y bardd
Cyn ymhelaethu ar berlau’r rhan hon o’r gyfrol, mae’n werth nodi i’r
bardd gynnwys sylwadau ar ambell i gerdd ar ddiwedd y gyfrol ac ambell
i beth sy’n ymddangos ynddynt gan ein galluogi i uniaethu’n fwy â’r
hyn y mae’r bardd yn ceisio ei ddweud.
Wrth gwrs, nid oes angen yr un sylw na nodyn gyda cherddi fel ei deyrnged
i Rhydwen Williams a’i gywydd i Owain Glyndwr.
Dewisodd osod yr englynion gyda'i gilydd ar yr un dudalen a than y
teitl syml, Englynion - ar wahan i un englyn, Amgueddfa
Lofaol, sydd i’w weld wedi dianc drwy’r rhwyd neu wedi ei esgusodi.
Mae’r ateb pam yn y llinell wych sy’n ei gloi:
Llewych glân yw llwch y glo – wyneb oer
yr hen bwll yn groeso;
yn awr o hyd llenwir o
â thawelwch morthwylio.
Hanes a gwreiddiau
Mae’n amlwg fod cofio hanes a gwreiddiau yn bwysig er mwyn y dyfodol
yn nhyb y bardd ac er mwyn ffyniant a pharhad yr iaith.
Fel y mae teitl yn ei awgrymu, mae’r cyntefig ²¹â€™r cyfoes
yn cael eu plethu gan grefftwr sy’n deall ei grefft gyd²¹â€™r gorau ohonynt.
Amlygir hyn yn y cywydd, Hi yr iaith yn syrffio’r we, lle cyfeirir
at gymeriadau fel Epona, duwies y ceffylau, a Lleu,
duw goleuni mewn mytholeg Geltaidd.
Ar ddiwedd yr ail ran hon o’r gyfrol ceir Lliw awen y bardd lleol
- teitl a roddwyd gan y bardd ar isadran o fewn yr ail ran sy’n cynnwys
dwy gerdd yn unig.
Mae’n drueni na chynhwyswyd mwy o gerddi yn yr adran hon er mai canu
gwledig a geir yma.
Er nad oeddwn i fel darllenydd yn rhan o’r digwyddiadau a ysgogodd
y cerddi hyn, nac yn gyfarwydd ²¹â€™r bobl y cyfeirir atyn nhw, gallaf
werthfawrogi camp y bardd yn enwedig o ran y gynghanedd.
Nid yn unig y mae yma gerddi sydd o bwys cenedlaethol â lleol ond
maen nhw’n gerddi y dylai pawb sy’n dysgu’r cynganeddion neu sy’n
barddoni o gwbl eu darllen - pe na byddai ond er mwyn mwynhau’r iasau
sy’n rhedeg drwy eiriau’r gyfrol ar brydiau.
Ydych chi wedi darllen y llyfr hwn?
Beth yw eich barn amdano
Anfonwch i ddweud wrthym trwy glicio Yma
|
|
|