| |
|
|
|
|
|
|
|
Gwilym Owen, Dewi Pws a Meic Stevens Nadolig y cofiannau fydd un 2003 i ddarllenwyr llyfrau Cymraeg.
Rhwng hyn a'r Nadolig nid yn unig bydd un o ddarlledwyr mwyaf blaengar Cymru yn cyhoeddi ei hunangofiant ond bydd cofiant dau o adar brithaf adloniant Cymraeg yn cael eu cyhoeddi Theleri Thwp gan Dewi Pws a Cofiant y Brawd Houdini gan Meic Stevens.
Cyfnod cyffrous Nid oes amheuaeth fod yna edrych ymlaen mawr at Crych Dros Dro gan Gwilym Owen sydd, yn awr yn ei saithdegau, yn edrych yn 么l dros gyfnod eithriadol o gyffrous yn hanes Cymru.
Ac fel darlledwr yr oedd o yn yr union le iawn i weld mynd a dod holl gyffro a chwyldro ein hanes diweddar. Y mae o hefyd wedi holi ar radio neu deledu y rhai oedd fwyaf allweddol yn natblygiad y Gymru fodern.
Ychwanegwch at y cyfrolau hyn gyfrol am y llenor, Pennar Davies, yn y gyfres Dawn Dweud gan Wasg Prigfysgol Cymru a chyfrol Pregethwyr M么n gan Emlyn Richards sy'n ymuno 芒 dwy gyfrol a gyhoeddwyd yn barod ganddo, Porthmyn M么n a Potsiars M么n
Yna o wasg Gomer daw Ymlaen 芒'r G芒n, stori Gwenda owen y gantores a frwydrodd yn erbyn canser, Owen Edwards - Mari Emlyn ganSian Thomas, O Ffair Rhos i'r Maen Llog gan W. J. Gruffydd ac A'r Teitl Nesaf Fydd gan gwenyth Petty a sara Edwards. ,br>
Ond Gwilym Owen, Meic Stevens a Dewi Pws yw'r rhai i wylio yn cystadlu am le ar ben y siaratiau .
a'r gyntaf o'r tair cyfrol i gyrraedd y siopau fydd un Meic Stevens sydd eisoes wedi ei disgrifio fel "Cofiant Mwya'r Flwyddyn" gan y cylchgrawn Golwg.
Cignoeth o onest Ac meddai'r awdur a'r darlledwr Lyn Ebeneze: Bwrlwm o hunangofiant, gan athrylith sy'n gignoeth yn ei onestrwydd."
Yn Hunangofiant y Brawd Houdini, datgelir am y tro cyntaf sut y darganfuwyd Meic fel canwr a chyfansoddwr gan Jimmy Savile ym Manceinion yn 1965.
Tra roedd Savile ar ymweliad 芒 bar Undeb Myfyrwyr Manceinion yn hanner noeth mewn shorts bocsiwr streipiog, cyflwynwyd Meic i'w reolwr Reese Edwards, a ddaeth yn frwd i'w arwyddo a'i gael i weithio yn y byd pop yn Lloegr.
O ganlyniad cafodd Meic ei arwyddo gan Decca cwmni a oedd newydd wrthod y Beatles! a chyhoeddodd ei sengl gyntaf, Did I Dream.
O ganlyniad bu Meic Stevens yn teithio a hybu'r record a chwarae mewn clybiau mawr yng ngogledd Lloegr ac ar deledu rhanbarthol yr ardal wrth i'w yrfa fel canwr ddechrau o ddifri.
Trafferthion cyffuriau Dechrau yn unig oedd Did I Dream gan y datgelir yn ei hunangofiant sut llwyddodd Meic i gael ei arwyddo gan Warner Brothers ddiwedd y 60au; chwarae ar yr un llwyfan 芒 Bob Dylan yng ngwyl Ynys Wyth 1969; recordio record gyntaf Sain gyda Huw Jones yn Llundain; sefydlu'r Bara Menyn a llwyddo gyda'i recordiau a'i berfformiadau teledu yng Nghymru ar Disg a Dawn.
Datgelir hefyd sut y dechreuodd ysgrifennu ac addasu ei ganeuon Cymraeg cynnar nifer o'i rai enwocaf gyda chymorth W R Evans yn Sir Benfro, ac yna gyda Hywel Gwynfryn oedd newydd ddechrau gyda'r 成人论坛.
Dyw Meic chwaith ddim ofn mynd i fanylion am ei drafferthion gyda chyffuriau, ei broblemau personol gyda'i wraig.
"Ceir degau o straeon doniol a difyr am nifer o enwogion byd y cyfryngau a cherddoriaeth yng Nghymru ar y pryd," meddai'r cyhoeddwyr.Cyhoeddir y gyfrol ddydd Llun Rhagfyr 1 2003 gyda digwyddiad yn Celtica Machynlleth ar Ragfyr 5 a ddilynir gan gyngerdd gan Meic Stevens ei hun.
Yr un noson bydd Theleri Thwp gan Dewi Pws Morris a Crych Dros Dro gan Gwilym Owen yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad ym Mhlas Menai ger Caernarfon.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|