Llwch Cenhedloedd - Y Cymry a Rhyfel Cartref America gan Jerry Hunter. Gwasg Carreg Gwalch, 拢8.50.
Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2004
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Adolygiad Dafydd Meirion:
"Cochir aml i lanerch y De 芒 gwaed meibion goreu ein cenedl... Nid oes braidd frwydyr o bwys wedi cymeryd lle ... nad yw ein cydwladwyr wedi bod yn bresenol ... ac wedi gwneyd eu h么l ar y gelyn..."
Dyna ddywedwyd ym mhapur Cymry America, Y Drych, ym mis Ebill 1863.
Ond nid s么n am gyfraniad y Cymry i Ryfel Cartref America yn unig a wna Jerry Hunter yn ei gyfrol ddiddorol tu hwnt.
Ceir yma hanes y rhyfel ei hun, a'r rheswm pam y cychwynnodd yn y lle cyntaf a hynny'n cael ei atgyfnerthu gan ddyfyniadau o lythyrau a phapurau newyddion gan Gymry Cymraeg.
Cymry oedd y rhain a gymerodd ran nid yn unig yn y brwydro ond a fu hefyd cefnogi'r milwyr drwy lythyru 芒 hwy ac yn gyrru pecynnau o fwyd a dillad iddynt, ac a fu hefyd yn pregethu'n erbyn caethwasiaeth - yr hyn a arweiniodd at ryfel rhwng De a Gogledd yr Unol Daleithiau.
A phwy well i ddweud yr hanes nag Americanwr a ddysgodd Gymraeg yn ddigon da i fod yn ddarlithydd yn yr Adran y Gymraeg yn y Brifysgol ym Mangor?
Gwr a gafodd ei fagu a'i eni ar lannau Ohio, sef y ffin rhwng y De a'r Gogledd, a g诺r y bu aelodau o'i deulu yn ymladd ar y ddwy ochr.
Cymry'r Gogledd
Persbectif y Gogledd geir yn bennaf yn y llyfr, a hynny am mai rhai o'r Gogledd oedd y rhan fwyaf o'r Cymry - y Cymry Cymraeg, hynny yw.
Eglura'r awdur mai i'r Gogledd yr aeth yr ymfudwyr diweddaraf a'u bod yn dal i gyfathrebu yn y Gymraeg tra'r oedd y teuluoedd o dras Cymreig a ymsefydlodd yn y De wedi bod yno ers peth amser ac felly wedi colli'r iaith.
Does yr un llythyr nac erthygl papur newydd o eiddo milwr na chefnogwr y De yn y llyfr.
Er hynny, roedd nifer o ddisgynyddion y Cymry yn arweinwyr y Confederacy. "... Cymry yw prif arweinyddion y gwrthryfelwyr - y llywydd Jeff. Davis; yr is-lywydd, Alexander H Stephens; a'u prif gadfridog, Robert E Lee; a'r llyngeswyr Ap Catesby Jones, Richard L Jones a'r Cadben John Pembroke Jones, ydynt o ddisgyniad Cymreig."
Bu papurau newyddion y Cymry, Y Drych, Y Cyfaill o'r Hen Wlad ac Y Cenhadwr Americanaidd yn annog y Cymry ifainc i ymuno 芒 lluoedd y Gogledd, a dyna wnaethon nhw wrth eu miloedd.
Credir bod rhwng 6,000 a 7,000 o Gymry ym myddinoedd y Gogledd.
Bu'r papurau cyn hyn yn taranu'n erbyn caethwasiaeth. Ond yr hyn sy'n ddifyr yw nad cefnogi'r Gogledd ond y De a wnai'r papurau yng Nghymru - gan gynnwys Y Faner radicalaidd'.
Y rheswm am hyn, yn 么l yr awdur, yw fod y wasg Gymreig yn drwm dan ddylanwad Lloegr, ac er nad oedd honno'n swyddogol yn cefnogi'r De, o Loegr y daeth llawer o gyflenwadau ac arfau i'r gwrthryfelwyr a hynny'n bennaf oherwydd bod masnach gref mewn cotwm a thybaco rhwng y ddwy wlad.
Nid yn unig roedd Cymry'r Gogledd yn daer yn erbyn caethwasiaeth ac yn falch o wneud eu rhan i'w ddileu, roedd ymuno 芒'r rhyfel hefyd yn cael ei weld fel cyfle iddynt brofi eu bod yn Americanwyr.
Er eu bod yn glynu at eu traddodiadau Cymraeg a Chymreig (cafodd eisteddfodau eu cynnal trwy gyfnod y rhyfel) a'u bod yn falch eu bod yn Gymry, eto roedden nhw eisiau dangos eu bod gystal Americanwyr 芒 neb.
Ffurfio catrodau
Eto, roedd sawl un eisiau cael ffurfio catrodau Cymreig dan arweiniad swyddogion Cymreig, fel gyda'r Gwyddelod a'r Almaenwyr - er mwyn i'r Cymry gael dangos eu bod yn gwneud eu rhan.
Ond er i sawl cwmni Cymreig gael ei ffurfio, chafwyd yr un catrawd a dywed yr awdur nad oedd yna ddiwylliant o ymladd ymysg y Cymry, yn wahanol i'r Almaenwyr, ac roedd y Gwyddelod yn cael eu hannog i ymuno 芒'r fyddin er mwyn dysgu sgiliau rhyfela y gellid eu defnyddio yn erbyn Lloegr maes o law!
Yr hyn sy'n ddifyr hefyd yw mai ychydig iawn o swyddogion o Gymry oedd yn y fyddin, milwyr cyffredin oedd y rhan fwyaf. Er byddai anturiaethau un, - y Cyrnol William Powell - cyn-reolwr gwaith haearn - a'i feirchfilwyr yn Virginia yn destun ffilm ddifyr iawn.
Prif frwydrau
Drwy'r llyfr ceir dyfyniadau o lythyrau'r milwyr Cymraeg a gymerodd ran ym mhrif frwydrau'r rhyfel; Bull Run, Vicksburg, Gettysburg, Shiloh.
Maent yn s么n am yr ofn a'r lladd, y colli cyfeillion - gan fwledi, salwch ac o dan amodau truenus gwersylloedd carcharorion yn y De.
O bosib, darnau tristaf y llyfr yw'r dyfyniadau o lythyrau John Griffith Jones, yn wreiddiol o Benisa'rwaun, Arfon.
Mae'n nodi ynddyn nhw fel mae'n colli ei gyfeillion fesul un:
"Ni feddyliais y buaswn yn caul fy ngadaul wrth fy hun pan oeddwn yn Kentucky pan oudd 12 ohonom hefo ein gilydd."
Yna ceir llythyr gan ei daid yn Llanrug yn gwaredu na fuasai'n dychwelyd i Gymru yn lle ymuno 芒'r rhyfel ac, yn olaf, llythyr cyfaill iddo sy'n nodi i John Griffith Jones gael ei ladd a'i gladdu ar ochr l么n ddiarffordd yn Louisiana gan filwyr y gelyn.
Llenyddiaeth ryfel
Dywed yr awdur mai'r llythyrau a'r erthyglau am Ryfel Cartref America yw'r "corff mwyaf o lenyddiaeth ryfel sydd gennym yn yr iaith Gymraeg" a bod miloedd o dudalennau wedi'u hysgrifennu'n Gymraeg am y gyflafan.
Ac roedd "nifer uchel o filwyr y Rhyfel Cartref yn llythrennog ... Roedd hynny'n sicr yn wir ymysg y milwyr Cymreig a oedd wedi manteisio ar ysgolion Sul eu capeli."
A'r hyn sy'n ddifyr, hefyd, yw'r termau a ddefnyddir neu a fathwyd am arfau a dulliau rhyfela fel, t芒n pelennu, caerfa, a'r rhych-ddryll (rifle).
Er hynny, nid pob llythyr sydd wedi goroesi, a'r rhai wnaeth, fel arfer, yw'r rhai gafodd eu gyrru gan y milwyr at eu teuluoedd ac nid fel arall.
"Yn llosgi fy llythyron heddiw, 112 mewn nifer ... ond gwell gennyf eu llosgi nac iddynt syrthio i ddwylo ... y gelyn," meddai David Davis.
Yr iaith yn colli gafael
Ond yr hyn sy'n drist yw, er bod y Cymry wedi bod yn llythyru, yn barddoni, yn pregethu ac yn llunio erthyglau i'r gweisg yn Gymraeg, wedi'r rhyfel ceir arwyddion fod yr iaith yn colli ei gafael.
Yn Saesneg mae llawer o'r hen filwyr yn ysgrifennu eu hunangofiannau ac mae llawer o Saesneg i'w chlywed yn eu gwasanaethau angladdol.
Dyma lyfr gwerth ei gael, pe na byddai ond fel un sy'n rhoi hanes yr ymladd gwaethaf a ddigwyddodd yn y Byd Newydd.
Ond mae hefyd yn ddifyr gan fod y ffynonellau craidd i'w cael yn y Gymraeg; mae'n dod 芒'r rhyfel a'r rhyfela yn fyw.
Y syndod yw na fu i neb ymdrin 芒'r dasg yma o'r blaen. Do, cafwyd llyfrau Cymraeg ar y rhyfel - a'r rheiny'n bennaf wedi'u cyhoeddi yn America - ond dyma lyfr sy'n dod 芒'r holl ddeunydd at ei gilydd ac mae'r gyfres a fydd ar S4C yn Ionawr 2004, sy'n seiliedig ar y deunydd yma, yn un i edrych ymlaen yn fawr iawn ati.