Tasg arthuthrol awdur Mae awdur a dylunydd un gyfresi llyfrau plant Y Lolfa newydd gael ei benodi yn Rheolwr Gwerthiant newydd i'r cwmni.
Morgan Tomos greodd y cymeriad, Alun yr Arth, y mae'r Lolfa wedi cyhoeddi pedair cyfrol o'i hanesion i blant bach.
Aeth dau ohonynt allan o brint o fewn misoedd i'w cyhoeddi.
Er iddo gael ei eni a'i fagu yng Nghaernarfon a gweithio am gyfnod yn stiward yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd mae Morgan bellach wedi ymgartrefi ym Mhentrebach ger Talybont gyda'i deulu ifanc.
"Bydd ei wybodaeth o ddaearyddiaeth Cymru a'r byd cyhoeddi o gymorth iddo gan mai ei brif ddyletswydd fydd teithio o gwmpas siopau llyfrau a chrefftau ledled Cymru yn gwerthu llyfrau'r Lolfa," meddai llefarydd o'r Lolfa.
"Mae ei benodiad yn digwydd ar adeg gyffrous iawn i'r Lolfa gyda warws newydd 480 metr sgw芒r ar fin cael ei hagor," ychwanegodd.