Dianc Cyhoeddi Dianc gan Jac Jones. Gwasg Gomer. 拢5.99
Stori arswyd sy'n cydio helyntion heddiw gyda digwyddiad bron i fil o flynyddoedd yn 么l ydi'r ail lyfr y mae'r arlunydd Jac Jones wedi'i sgrifennu.
Daeth Jac Jones o Langefni Sir F么n i amlygrwydd gyntaf fel un o'r goreuon o arlunwyr llyfrau plant Cymru ac mae'n un o enillwyr Gwobr Tir na-Nog.
Ond er bod ei enw wrth nifer fawr o lyfrau dim ond unwaith o'r blaen y bu'n awdur yn ogystal ag arlunydd llyfr.
Yn ei ail stori, sydd newydd ei chyhoeddi gan Wasg Gomer, mae elfennau dirgel o'n gorffennol tywyll yn ymyrryd 芒 bywyd presennol teulu sy'n ffermio ar ynys M么n.
Mae'r stori yn agor gyda seremoni gladdu frawychus naw cant o flynyddoedd yn 么l.
Canolbwynt y stori ydi coedlan wedi ei hamgylchynu gan wal gerrig gyda'r cwpled darogan: Corlan arw sy' Ngoed Clebran, Ond gwae os bydd y wal yn gwegian.
"Mae gen i deimlad ym m锚r fy esgyrn na ddylai neb ymyrryd 芒 Choed Clebran," meddai Nain wrth Sara a Gwion y plant.
Wrth gwrs mae bwlch yn cael ei dorri yn y wal ar ddamwain gan dractor y fferm a phethau rhyfedd iawn yn digwydd wedyn.
Ar ben hynny, mae Sara yn dod o hyd i garreg ryfedd gyda llun dyn cyntefig arni a hynny a'r bwlch yn rhoi cyfle i rywun neu rywbeth ddianc o'r goedlan.
"Cyn toriad gwawr, sgrialai siapiau llawn cysgodion yn 么l drwy'r bwlch yn y wal ar ben y bryn, a drygioni'n serennu lond eu llygaid cochion. Heblaw am sgrech llwynog yn y pellter, yr unig sŵn oedd clebran cegau gwlyb."
"Ymyrraeth ein gorffennol tywyll 芒'r presennol sy'n anesmwytho'r darllenydd gan wneud Dianc yn stori arbennig iawn," meddai'r cyhoeddwyr.
Does yna ddim i ddweud ar gyfer pa oed mae'r llyfr ond mae'r iaith yn awgrymu rhywun gyda gafael go dda ar ddarllen er y gellid tybio oddi wrth y diwyg y byddai'n addas ar gyfer plant iau - ond byddai'r eirfa a'r gystrawen yn rhy anodd i rai rhy ifanc.
Ond mae'n braf gweld iaith a ffurfiau ychydig anos na'r arfer yn cael eu cynnig i blant yn ogystal 芒 chyffelybiaethau ac idiomau graenus hefyd.
Ond i'w plith llithrodd ambell i air anghartrefol: Yn un lle mae'r gair "stompio" yn cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun dawns ac yn amlwg i fod yn Gymreigiad o "stamp" yn Saesneg.
Mae yna gyfeirio hefyd at "clympiau" o gnu defaid ac am blant yn "bowndio".
Ni fydd yn syndod i neb fod y lluniau heb eu hail er y byddai ambell un wedi bod ar ei ennill o'i gyhoeddi mewn mwy o faint er mwyn creu gwell argraff; a'r farn honno yn cael ei hatgyfnerthu gan y lluniau dalen lawn sydd yn y llyfr.