|
M么r Goleuni - Tir Tywyll Adolygiad Gwyn Griffiths o M么r Goleuni - Tir Tywyll gan Aled Rhys Hughes a Damian Walford DaviesGomer. 拢14.99
Lluniau heb bobol gyda geiriau Waldo Wrth fodio drwy ddarluniau cyfoethog Aled Rhys Hughes yn y gyfrol hardd M么r Goleuni Tir Tywyll y geiriau coffee-tableddaeth i'm meddwl.
Mae'n amlwg i rywbeth tebyg fynd drwy feddwl y golygydd, Damian Walford Davies, hefyd gan ei fod yn dweud yn ei ragair nad "coffee-table pastoralism" yw nod y gyfrol.
Yn y traddodiad argraffu Prydeinig y duedd yw cael llyfrau gyda llawer iawn o luniau a dim llawer o eiriau, neu lyfrau gyda llawer iawn o eiriau heb lawer o luniau.
Nid ydym ni yng Nghymru, fwy nag yn Lloegr, wedi llwyddo - neu efallai, fentro - i gyfuno yn yr un gyfrol luniau cyfoethog gyda llwyth go dda o lenyddiaeth.
Byr, byr Yn y gyfrol hon ceir dyfyniad byr, byr, o waith Waldo Williams wedi ei osod gyferbyn 芒 llun.
Darn o gerdd gawn ni gan amlaf ond, weithiau, gwelir brawddeg o lythyr neu adolygiad neu erthygl o'i waith a gyhoeddwyd mewn cylchgrawn neu bapur newydd.
A chan fod cyn lleied o eiriau yn y gyfrol i gyd roedd yn anhygoel canfod cam ddyfynnu trychinebus o Preseli - un o gerddi enwocaf y bardd ar dudalen 108. Dyma a ddylai fod: Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw.
Dim pobl Cefais fy mhlesio'n fawr ar yr olwg gyntaf - a chael llawer o fwynhad yn troi'n 么l a blaen o'r darluniau i'r ddalen olaf i ganfod lleoliadau'r lluniau.
Onf wn i ddim pam na ellid fod wedi cynnwys hynny o wybodaeth ar y tudalen - wedi'r cwbl nodir enwau'r cerddi a ffynhonellau'r dyfyniadau ar y tudalen gyferbyn.
Wedyn dechreuais feddwl mwy am Waldo'r bardd. Bardd brawdoliaeth, bardd a welodd fod "dynion, yn gyntaf dim, yn frodyr i'w gilydd". Bardd sy'n s么n am "y perci llawn pobl". Am "Menywod".
Ond does dim pobl ymysg holl ddelweddau gwych Aled Rhys Hughes. Mae yma dirwedd sy'n awgrymu 么l llaw dyn; ambell gerflun, croes neu ddwy, ambell ddarn o offer fferm wedi'i ollwng yn y clawdd. Ond dim pobl. Natur yw'r gwrthych pennaf.
Cymhleth a chythryblus Yn y rhagair mae Damian Walford Davies yn gwneud ymdrech arwrol i gyfiawnhau hyn drwy ddweud nad "ieuad syml a chyfosod cymharus" sydd yma ond bod rhwng y geiriau a'r ddelwedd "(b)erthynas fwy cymhleth a chythryblus".
Cythryblus i mi, am y cawn drafferth yn aml i ganfod unrhyw fath o gyswllt. Y teimlad g锚s i oedd fod yma ymdrech go fawr i sodro gair a delwedd wrth ei gilydd a chyfiawnhau hynny wedyn yn y rhagair.
Effaith y gair ar yr ymenydd a'r emosiwn a'i s诺n a'i fiwsig yn y glust - rywle fan yna, goelia i, mae rhin barddoniaeth. Ychwanegwch allu'r bardd i danio dychymyg y darllenydd neu wrandawr, a fan yna mae'r broblem yn codi.
Fel y dywedodd ryw hen wraig fach pan gafodd ei theledu cyntaf, "Mae e'n neis iawn, ond mae'r llunie'n well ar y weiarles.".
Os nad yw'r llun a'r gair bob amser yn cydfynd yn berffaith, gwell hepgor y llun a rhoi rhyddid i'r dychymyg. A fedra i ddim gweld bod y briodas yn M么r Goleuni yn gyt没n na llwyddiannus bob tro.
Gwirioneddol fendigedig Yr hyn sy'n ddifyr yw fod y lluniau'n wirioneddol fendigedig a fy ymateb i oedd ysu am esgus i ddychwelyd eto i Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda, a Phorth Maenmelyn, Pencaer, a'r llu llefydd eraill a bortreadir yn y gyfrol.
Wrth gwrs, dyna amcan y llyfr "coffee-table" ac fel llyfr felly y cafodd ei ddisgrifio gan y cyhoeddwyr, beth bynnag am y golygydd.
Fe wnaeth imi, hefyd, dynnu fy nghyfrol o Dail Pren oddi ar y silff.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|