|
Y Llaw Wen Creadur go od o lyfr!
Adolygiad Caron Wyn Edwards o Y Llaw Wen gan Alun Jones. Gomer. 拢7.99
Ymysg y nofelau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi gan Alun Jones mae, Draw Dros y Tonnau Bach a'i waith mwyaf adnabyddus hyd yma, Ac Yn a Clywodd S诺n y M么r.
O brofiad, roeddwn yn disgwyl, felly, nofel feiddgar, aml-haenog. Chefais i mo'n siomi.
Fel ymgymerwr, mae Danial wedi arfer, ac yn wir yn fwy cyfforddus, gyda chyrff marw nag yw gyda'r bobol o'i gwmpas. Mae ganddo berthynas waith gyda'i weithiwr, Elfyn, ond dim mwy na hynny. Mae'n mynd i ymweld 芒'i fam yn rheolaidd, ond o ddyletswydd yn hytrach nag o ddewis. Wedi i'w briodas chwalu, yr unig greadur sy'n cael rhannu ei fywyd bob dydd yw Ast Fach, y ci.
Ond daw tro ar fyd pan ddaw rhywun i fusnesa i Lain Rhent, gan adael olion traed ar eu h么l, "Olion traed go fach...yn browla i gyd."
Wedi dyfodiad yr olion, does ganddo ddim dewis ond creu a chynnal perthnasau newydd, yn ogystal ag ailgydio'n y berthynas 芒'i gyn wraig, Sali, ac archwilio'i berthynas 芒'i fam.
O'r un brethyn Mae Margaret/Elsa ac yntau'n damaid o'r un brethyn. Ym mywyd y ddau, trodd un camddealltwriaeth bach yn gamddealltwriaeth anferth ag iddo sgil effeithiau pellgyrhaeddol.
Ond trwy helpu Margaret/Elsa i ddod at wraidd y drwg yn ei bywyd, caiff Danial yntau gyfle i ddadwneud difrod dwy genhedlaeth o'i deulu ei hun.
Cydymdeimlad 芒 dieithryn Ymdrin y nofel 芒'r modd y mae gan ddyn yn aml fwy o gydymdeimlad 芒 dieithryn nag sydd ganddo a'i deulu ei hun.
Mae gan Danial, y prif gymeriad sy'n dweud y stori, gydymdeimlad twymgalon ag Elsa/Margaret, merch ifanc sy'n cyrraedd ei gartref un diwrnod dan fantell o gyfrinachau ac amheuon.
Mae hi a;i fam yn dioddef o salwch meddwl o fath ond ni roddir enw ar anhwylder Elsa/Margaret, ond mae ei fam yn dynn yn nwrn alcoholiaeth, ac wedi bod ers blynyddoedd.
Fel yr 芒'r nofel yn ei blaen, canfyddwn mai ei fam sy'n gyfrifol am dor-priodas Danial a Sali, hi a'i hawgrymiadau hyll.
Clwyfa'r gorffennol Serch hynny, trwy ei berthynas ag Elsa/Margaret, llwydda i esmwyth谩u ychydig ar glwyfau'r gorffennol, i dderbyn ei ffaeleddau ef ei hun yn ogystal 芒 rhai pobl eraill ac i fagu gwell perthynas gyda'i fam.
Dechreuwn amau ai'r rheswm am ei chwerwedd tuag at ei fam yw gwylltineb tuag ato'i hun am beidio 芒 sylweddoli maint ei phroblem yfed, er bod hynny'n hollol amlwg i bawb arall o'i gwmpas.
Ac nid y rhwyg rhwng ei fam ac yntau yn unig mae Elsa/Margaret yn ei asio ond hefyd rhy gymorth iddo ailsefydlu ei briodas a'i berthynas gyda'i gyn-wraig, Sali.
Nid yw hyn yn dod yn rhwydd iddo. Brawddeg agoriadol y nofel yw: "Roedd rhywun yn busnesa." a gellid dehongli hyn i olygu fod rhywun yn tresmasu'n emosiynol.
Ar y dechrau, nid Danial sy'n gwahodd Margaret/Elsa i mewn ond yn hytrach hi sy'n tresmasu ar ei gynefin.
Gallai'r olion traed yn y pridd nodi olion y gorffennol yn dod i dramgwyddo ar ei gydwybod - ond o dipyn i beth, daw i ymddiried mewn pobl unwaith eto.
Go od Yn ddi-os, mae gan yr awdur ddawn dweud, ond rhaid cyfaddef imi gael y llyfr yn greadur go od.
Y math o lyfr na sylweddolais imi ei fwynhau gystal nes imi gyrraedd ei ddiwedd.
Ac eto, cymerodd gryn dipyn o amser imi ddod i'r diwedd! Doeddwn i ddim yn awchu i'w gorffen. Doedd y cymhelliad i lyncu tudalen ar 么l tudalen - yr arwydd arferol o fwyniant i mi - ddim yno.
Rhaid imi gyfaddef hefyd nad oeddwn yn ymboeni rhyw lawer am yr un o'r cymeriadau. Yn hytrach, roedd yr elfen o fwynhad yn dod o allu dilyn y digwyddiadau a'r datblygiadau yn wrthrychol.
I mi, roedd na deimlad o fod yn un o'r gymdogaeth fusneslyd sydd yn y llyfr, y rhai hynny sy'n clustfeinio ac yn clebran hyd y pentref.
Nid beirniadaeth o'r nofel mo' hyn ond, yn hytrach, sylw ar brofiad.
Cynllunio'n grefftus Mae hi wedi'i chynllunio'n grefftus gyda'r presennol yn plethu'n gywrain i'r gorffennol.
Un o'i rhinweddau pennaf yw'r iaith goeth a ddefnyddir. Nid bratiaith sydd yma, ond iaith lafar gyfoethog. Disgrifiadau fel: "Cymdogion sbeinglas" am gymdogion nad ydych yn eu hadnabod yn dda iawn.
Mae yma enghreifftiau o Gymraeg tafodieitholar ei gorau.
Mae dywediadau epigramaidd eu naws fel, "Gwynt yn gogladd diwrnod cynta'r gwanwyn, yno y bydd o tan ddiwrnod cynta'r ha."
Ceir hefyd hiwmor cynnil sy'n datgelu llawer iawn am bobl fel pan ddywedir bod mam a merch yn "llathan o'r un lipstig."
Ymdeimlad o gynefin Cryfder arall yr awdur yw ei ymdeimlad o gynefin. Bron na allwn deimlo chwa y gwynt hyd ucheldir cefn gwlad gogledd Cymru.
Yn yr un modd mae ganddo ddealltwriaeth lawn o'i gymeriadau, ac er nad yw'r un yn hawlio ffafriaeth, does yr un chwaith yn gwbl ddiddim.
Mae hyd yn oed dangos y fam, wedi oes fatriarchaidd, yn cael ei dinoethi gan henaint yn cael ei wneud gyda hiwmor yn ogystal a thynerwch.
Mae Y Llaw Wen yn sicr yn werth ei darllen a bydd yn gadael y darllenydd yn pendroni a chnoi cil am beth amser wedi troi'r ddalen olaf.
Ac os bydd eich profiad o'i darllen yn debyg i fy un i, yn ei gwerthfawrogi yn llawer mwy yn ei chyfanrwydd yn hytrach nag yn ei chanol!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|