|
Zen Datgelu gormod am wasanaeth cudd
Adolygiad Dafydd Meirion o Zen gan Geraint V Jones. Gwasg Carreg Gwalch, 拢6.95.
Plisman arfog, newyddiadurwraig brydferth, ysb茂wyr a gwleidyddion - dyna brif gymeriadau'r nofel hon.
Mae'r teitl Zen braidd yn gamarweiniol gan fod rhywun yn meddwl yn syth am rywbeth i'w wneud 芒 Bwd茂aeth neu grefyddau cyfrin y Dwyrain Pell.
Ac mae cynllun niwlog y clawr i ryw raddau'n atgyfnerthu hyn.
Ond plisman arfog, aelod o'r SO11 yw Zen neu Steven Zandon Smith i roi iddo ei enw llawn.
Cymraes o sir Gaerfyrddin Y newyddiadurwraig yw Angharad Morgan, Cymraes o Sir Gaerfyrddin sy'n gwneud enw iddi'i hun gydag un o bapurau Stryd y Fflyd yn Llundain. Alex neu A A Morgan yw hi yn fan'no.
Mae'n anodd adolygu llyfr o'r fath yn llawn heb ddweud beth sy'n digwydd a difetha'r stori.
Waeth i mi ddweud fod yna rywun yn ceisio saethu Zen (Steven Smith) ac hefyd yr Ysgrifennydd Cartref, Stephen Smythe. Welwch chi'r cysylltiad? Ie, fe wnes innau hefyd, ond mae'n cymryd peth amser i'r cymeriadau yn y nofel wneud.
Yn drlwyr Mae'r awdur wedi gwneud ei waith yn drylwyr. Mae'n gwybod am bob stryd ynghanol Llundain ac am bob twll a chornel ym Mhalas Westminster ble mae Zen yn gweithio.
Mae hefyd yn gwybod am hanes Estonia a'i phrifddinas Tallinn - ac ar brydiau mae'r pentyrru gwybodaeth yn mynd yn fwrn.
Cymrwch chi baragraff cyntaf Pennod 13: "Yn ogystal 芒'r Ysgrifennydd Cartref David Blunkett, yno'n bresennol hefyd roedd Jack Straw, yr Ysgrifennydd Tramor; K, sef Eliza Mannighan-Buller, Cyfarwyddwr Cyffredinol MI5 yn Thames House; C, sef ....." ac ymlaen ac ymlaen, er bod y cymeriadau yma a'u swyddogaethau eisoes wedi'u crybwyll cyn hyn.
"Gwelodd Alex y syrffed yn tyfu ar wyneb Zen a gwnaeth b芒r o lygaid arno, iddo fod yn fwy amyneddgar." Gallwn gydymdeimlo ag o.
Byddai'n llyfr mwy darllenadwy heb yr holl ffeithiau hyn. Er hynny, mae'r stori yn symud yn weddol sydyn. Mae'r paragraffau a'r is adrannau yn fyr (yn enwedig ar ddechrau'r llyfr) ac mae yna symud yn gyflym o sefyllfa i sefyllfa. Mae sawl tro annisgwyl yn y stori a'r stori yn neidio o un cymeriad i'r llall.
Eithaf cyfoes Mae'r llyfr yn eithaf cyfoes gan ei fod yn s么n am y newyddiadurwr Gillighan a Dr David Kelly a laddodd ei hun - sefyllfa a gododd ond rai misoedd cyn i'r nofel weld golau dydd.
Ond hanfod llyfr o'r fath ydy eich bod ar d芒n eisiau gwybod beth sy'n digwydd nesaf. Nid felly gyda hwn. Roedd hi'n ddigon hawdd rhoi'r llyfr i lawr bob hyn a hyn - o bosib oherwydd yr holl bentyrru ffeithiau.
Chwilio am wendidau Ac o'r herwydd mae rhywun yn chwilio am wendidau yn y stori. Pam nad yw Zen yn cario ei gerdyn adnabod ac yntau'n blisman? Pam fod Zen, sy'n gocni, yn siarad ag acen ogleddol ac Alex ag acen ddeheuol? Pam nad ydy'r heddlu'n cymryd fawr o sylw fod rhywun wedi saethu at Zen? Pam fod angen troednodyn i egluro mai'r 'Aye Lobby' yw'r cyntedd 'O Blaid' yn Nh欧'r Cyffredin? Be ddigwydodd i Emlyn John y plisman oedd yn bwydo gwybodaeth i Alex?
Roeddwn i tua hanner ffordd drwy'r llyfr cyn i mi ddechrau cael blas arno ond hyd yn oed wedyn roedd rhai pethau'n dal yn chwithig.
Sut y syrthiodd Alex mewn cariad 芒 Zen mor sydyn? Doedd yna fawr i awgrymu ei bod yn hoff ohono cyn hynny.
Symud yn sydyn Mae'r nofel yn symud yn sydyn tuag at y diwedd - yn rhy sydyn efallai - fel pe bai pethau yn disgyn i'w lle yn rhy hawdd.
Siomedig iawn yw'r diwedd gyda rhywun yn disgwyl rhyw gyffro, rhyw redeg neu sgrialu - ond does dim.
Ydy'r awdur yn ceisio'n rhy galed? A wnaeth o ormod o waith cartref?
Mae yna ddywediad yn Saesneg sy'n s么n am wneud gormod o waith a dim digon o chwarae ac rwy'n credu mai dyma ddigwyddodd yn yr achos yma.
Mae'r stori ei hun - y plot - yn fwy na derbyniol. Mae'r cymeriadau'n gredadwy. Mae'r dweud stori - pan na fydd pentyrru ffeithiau - yn llithrig; ond allai yn fy myw a dweud fy mod i wedi mwynhau'r nofel.
O edrych ar fy nodiadau, gwelaf mai tynnu sylw rydw i wedi ei wneud at wendidau'r llyfr yn hytrach na'i gryfderau.
Trueni, mae'n amlwg fod yr awdur wedi gweithio'n galed - ond mae hefyd yn waith caled ar brydiau darllen y llyfr.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|