| |
|
|
|
|
|
|
|
Chwyn Joe Pye a Phincas Robin Rhwng ll锚n gwerin i l锚n-yddiaeth
Adolygiad Glyn Evans o lyfr Bethan Wyn Jones, Clogyn Joe Pye a Phincas Robin. Llyfrau Llafar Gwlad. Gwasg Carreg Gwalch. 拢5.50. Pe na byddai iddo unrhyw rinwedd arall mae llyfr Bethan Wyn Jones yn sicr yr un gyda'r teitl mwyaf anghyffredin i'w gyhoeddi yn y Gymraeg ers tro.
Wrth gwrs, mae mwy i'r gyfrol na theitl da.
Fel; sawl un arall bum yn dilyn yn selog erthyglau Bethan am ryfeddodau byd natur a gyhoeddir yn Yr Herald bob wythnos ac felly'n croesawu gweld yr erthyglau hynny'n wedi eu cywain dan y teitl gogleisiol hwn.
Fel "ysgrifau ar ryfeddodau a ll锚n gwerin byd natur" maen nhw'n cael eu disgrifio a dau o ryfeddodau'r gyfrol ydi Chwyn Joe Pye a Phincas Robin.
Y tyfiant hwnnw sy'n edrych fel blodyn gwalltog ar blanhigion rhosod gwyllt ydi Pincas Robin ond dydi o ddim yn flodyn o gwbwl ond yn amddiffyniad mae'r planhigyn yn ei greu i wy math o wenynen.
Wedi i'r wenynen ddodwy ei hwy mae'r planhigyn yn adweithio trwy dyfu'r Pincas o gwmpas yr wy - yn yr un modd ag y mae'r peli bychain brown yna yn cael eu creu ar goed derw.
Mae i'r Pincas gysylltiadau llenyddol - wedi ei enwi, o bosib, ar 么l Robin Goodfellow sef Puck yn nrama A Midsummer Night's Dream gan Shakespeare.
Diddordeb llenyddol Y diddordeb hwn mewn cysylltiadau llenyddol sy'n gwneud llyfr natur Bethan Wyn Jones yn wahanol i lyfrau natur eraill.
Gwelir hynny o'r cychwyn cyntaf un gyda dyfyniad o waith Waldo Williams yn ei herthygl gyntaf am yr Eirlys:
Gwyn, gwyn Yw'r gynnar dorf ar lawr y glyn. O'r ddaear ddu y nef a'u myn
Wrth drafod y Fwyalchen mae'n cyfeirio at ddisgrifiadau gwahanol feirdd o g芒n y deryn du gyda T Llew Jones yn gweld tebygrwydd rhyngddi a ch芒n Caruso ond meddai Myrddin ap Dafydd: Hyfryted 芒 Phav'roti A'i solo'n Domingo i mi.
Yn yr America Fel sy'n gweddu i bapur newydd lleol planhigion ac anifeiliaid ei milltir sgw芒r sy'n cael sylw Bethan Wyn Jones, er, ym Mhennsylvania yr Unol Daleithiau y daeth ar draws enw'r planhigyn arall yn nheitl y gyfrol, Chwyn Joe-Pye (mae'n amrywio'r sillafiad o fod gyda ac heb heiffen.)
Pan glywodd yr enw Americanaidd, meddai: "Wel, dyma ddechrau codi 'nghlustiau. Roedd hwn yn blanhigyn sy'n ddigon cyffredin i mi gan fod hwdedd ohono fo yn tyfu'n yr ardal yma, ac yn arbennig yn Llanffinan."
Iddi hi yng Nghymru mae'n adnabyddus fel bedwen chwerw, cywarch gwyllt a cywarch d诺r neu Hemp Agrimony yn Saesneg.
Darganfu hefyd i'r rhywogaeth a welodd yn y Merica gael ei enwi ar 么l un o'r brodorion a'i defnyddiai i wella clefydau.
"Yn 么l be fedra i ddeall mae trwyth o Chwyn Joe-Pye wedi cael ei ddefnyddio gan sawl un o lwythau Indiaid America fel sudd affrodisaidd yn ogystal ac i drin y dwymyn, anhwylderau'r arenau, annwyd ac anhwylderau'r croen. Mae'n dal i gael ei ddefnyddio hyd heddiw, i wella yr annwyd a ffliw," meddai.
Ie, cyfrol sy'n gasgliad difyr a diddan o ysgrifau sy'n cysylltu sawl diddordeb o l锚n gwerin i l锚n-yddiaeth 芒 byd natur gyda nifer o luniau lliw yn y canol - ond y rheini yn amrywio rhywfaint mewn ansawdd.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|