| |
|
|
|
|
|
|
|
Cyrn y Diafol Beth yw'r utgorn glywai'n galw?
Adolygiad Ioan mai Evans o Cyrn y Diafol gan Geraint Jones. Gwasg Gwynedd. 拢7.95.
Llyfr swmpus, arloesol, gan awdur sydd a gafael sicr ar ei faes.
Cymharol brin yw'r defnyddiau ar hanes y bandiau o'i gymharu ag offerynnau cerdd eraill - felly dyma lenwi bwlch pur fawr am gyfraniad plant y diafol o bawb!
Oes o lafur Cyflwynir y llyfr er cof am dri arweinydd ymroddedig, gw欧r a adnabu'r awdur fel rhai a roddodd oes o lafur gwirfoddol a theyrngar i fandiau eu bro.
Daw y diafol i'r golwg yn hanes y bandiau cynnar cyn 1850 a hynny mewn cyngerdd gan Odyddion Nefyn.
Yna yr ail genhedlaeth, 1850-70, a bandiau'r drydedd genhedlaeth o 1870 ymlaen.
Tra chyffrous yw'r cyfeiriad at eisteddfod ym Mhwllheli lle'r oedd y Dr Joseph Parry ac Eos Morlais yn beirniadu.
Fel yr oedd cannoedd yn casglu ynghyd yn Awst - a band Llanrug yn gorymdeithio ar un o strydoedd y dref a rhai ugeiniau tu 么l iddo - ddigwyddodd trychineb.
Rhuthrodd buwch wyllt i ganol y rhialtwch gan ymosod ar y drwm i ddechrau ac yna ar y cyrn!
Gwasgarodd y fuwch gynddeiriog y band a'r bobl i bob cyfeiriad.
Dim s么n Ychydig yn nes ymlaen cawn yr awdur yn rhyfeddu na chyfeiriodd T Rowland Hughes na'r Dr Kate Roberts at y bandiau pres yn eu gwaith er i fandiau fod yn rhan o fywyd diwylliannol ardaloedd Llanberis a Rhosgadfan yn ystod eu bywydau hwy.
Ond eto tynnodd Glan Rhyddallt o Lanrug sylw at gyfeiriadau yn y Beibl lle ceir hanes band nerthol yn dymchwel muriau Jericho ac at y llu a chwythai gyrn gyda Gideon.
Ond i ddod yn nes adref, yma eto cawn ddarllen am hen wreigen ger llyn Llanberis yn clywed seiniau band ac yn rhedeg at gymdoges gan gyhoeddi mewn llais uchel ei bod yn ddiwedd y byd gan adrodd, "Beth yw'r utgorn glywai'n seinio?"
Cythraul canu A dyma ni ond yn prin gyffwrdd 芒'r hyn a geir ym mhennod gyntaf y llyfr.
Ac, yn dilyn, daw penodau ar fandiau'r ail a'r drydedd genhedlaeth; yna byddinoedd y diafol, cwrw'r cythraul, bwmba bwm, lecsiwn a ch'nebrwn - nes dod at ddrwm y diafol ei hunan a ddilyn gyda diwrnod i'r brenin.
Ond, yn olaf ond un, y Cythraul Canu bondigrybwyll cyn cloi gyda'r arweinyddion.
Hyn oll wedi ei drysori ar ymron ddeugain dalen a phob pennod gydag is-deitlau sy'n hwyluso'r dilyniant a'r darllen ac yn ychwanegiad at werth y gyfrol fel cyfeirlyfr.
Rhaid cyfeirio hefyd at y lluniau o ugain seindorf o wahanol ardaloedd gyda nodiadau pwrpasol wrth bob un.
Hyn oll yn cwblhau cyfrol werthfawr mewn Cymraeg graenus a gwaith ymchwil trylwyr.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|