|
Llyfr Adar Iolo Williams Holl adar Cymru ac Ewrop mewn llyfr cyfleus
Llyfr Adar Iolo Williams - Cymru ac Ewrop. Gwasg Carreg Gwalch. 拢9.99.
Sylwadau Glyn Evans
Yr oedd yn addas iawn mai mewn cyfarfod o Gymdeithas Ted Breeze Jones y cyflwynwyd y copi cyntaf o lyfr adar gyda mwyaf cynhwysfawr yr iaith Gymraeg.
Yr oedd y diweddar Ted Breeze Jones yn un a arloesodd dros y blynyddoedd yn y maes hwn - yn olynydd teilwng i T G Walker a fu'n gymaint dylanwad arno.
Nhw oedd Iolo Williams eu cyfnod fel petai ac i ran Iolo Williams y daeth hi i ddarparu yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "llyfr adar gorau Ewrop" ar gyfer cynulleidfa Gymraeg.
Mae'n gyfrol y byddai Breeze a Walker wedi bod yn falch ohoni - yn enwedig yr amrywiaeth eang o enwau Cymraeg sydd ynddi.
Mae Llyfr Adar Iolo Williams - Cymru ac Ewrop yn cynnwys disgrifiad o bob aderyn sy'n magu yn Ewrop neu sy'n ymweld yn gyson .
Mae hynny'n 430 o rywogaethau ac mae darluniau lliw o bob un ohonyn nhw - hyd at 12 llun o ambell rywogaeth.
Maint hwylus Yr hyn sy'n gwneud y llyfr yn arbennig o hwylus yw ei fod o faint y gellir ei gario gyda chi pan yn mynd a'r ddau gi bach am dro i'r coed fel petai.
"Mae na rai llyfrau adar sydd angen olwynion danyn nhw i'w symud o le i le - maen nhw mor drwm," meddai Iolo wrth gyflwyno'r llfyr i'r cyhoedd mewn cyfarfod arbennig o Gymdeithas Ted Breeze Jones ym Mhlas Tan-y-Bwlch ddiwedd Ionawr 2005.
"Roeddwn i'n benderfynol mai llyfr hwylus i'w daro mewn poced oedd ei angen - a hwn ydi'r gorau ar y farchnad ryngwladol," meddai.
"Llyfr maes ydi o, llyfr yn y car, llyfr mynd am dro, llyfr gwyliau yn unrhyw ran o Ewrop.
"Mae o'n gryno eto mae'r cwbl ynddo fo," ychwanegodd.
Os nad yw o'n fawr - mae o'n ddigon, fel petai!
Yn dri chan tudalen nid yw'r llyfr yn mesur ond 9.5 centimetr gydag 19 ac ond yn centimetr a hanner o drwch.
Mae ei wyneb yn sgleiniog hawdd ei gadw'n l芒n a'r rhwymiad yn gadarn ar gyfer aml ddefnydd.
I bawb "Mae hwn yn llyfr i bawb - o blant sy'n dechrau dod i adnabod yr ymwelwyr a ddaw at y bwrdd adar yn yr ardd i adarwyr pybyr sydd angen gwybodaeth fanwl am y rhai mwyaf prin," meddai Iolo.
Cyhoeddwyd ef ar yr union adeg o'r flwyddyn pan fo adar yn bywiogi wedi'r gaeaf.
"Mae hi'n ddechrau tymor newydd, mae'r fwyalchen a'r fronfraith eisoes yn dechrau canu ac mae'n adeg gwych i ymddiddori yn y bywyd gwyllt sydd o'n cwmpas," ychwanegodd.
Dywedodd wrth Gymdeithas Ted Breeze Jones iddo baratoi llawer o'r wybodaeth pan oedd ef ei hun ar adain - yn teithio mewn awyren ar ei ffordd i gyflawni gorchwylion eraill ei fywyd prysur.
Her arbennig Heb amheuaeth, yr oedd cyhoeddi'r gyfrol yn her arbennig i Wasg Carreg Gwlach ac yn un na allai fod wedi chyflawni ar ei phen ei hun.
"Roeddem ni'n cydargraffu gyda fersiwn Ffrangeg gan ddefnyddio proflenni fersiwn Saesneg," meddai Myrddin ap Dafydd, rheolwr y wasg.
"Roedd cadw at yr un gofod testun yn hanfodol ac roedd y gwaith golygu a chysodi yn eithriadol o drwm ond drwy'r cyfan mae Iolo wedi creu llyfr unigryw sy'n well llyfr na'r gwreiddiol, wedi ei baratoi yn arbennig ar gyfer cynefinoedd Cymru ac yn rhestru enwau llafar gwlad yr adar yn ogystal," meddai.
Dosberthir yr adar yn y llyfr yn 么l eu mathau a'u cynefinoedd gyda ch么d lliw perthnasol ar bob dalen sy'n gysylltiedig a'i gilydd.
Pob math o enwau Bydd diddordeb arbennig yn yr amrywiadau sydd yn enw rhai o'r adar - Y Ddrudwy, er enghraifft, yn cael ei hadnabod hefyd fel Aderyn Yr Eira, Sgrech Aderyn, Y Ddrycin, Aderyn Dieithr, Trwdas, Driddus, a Dyrnod yr Eira yn 么l y llyfr ac at y rhestr hon gellid fod wedi ychwanegu Dridws hefyd.
Gan ddibynnu ar eich ardal gall Ysgrech y Coed fod, Pioden y Coed, Pioden Goch, Ysgrechog, Cracell Goed, Aderyn y Gegid, Sgrech yr Allt neu Sgrad y Coed.
Mae i hyd yn oed Aderyn y To ei amrywiadau difyr; Llwyd y To, Strew, Sbrocsyn, Golfan, Aderyn Llwyd y To, Llwytyn, Caint y To, Sprocsyn y Baw.
Ac am yr un aderyn - Coch y Berllan - yr ydych yn s么n pan yn dweud, Aderyn Pensidan, Chwibanydd, Aderyn y Berllan, Bwlffin, Rhawngoch, Twm Cwinc, Aderyn Rhongoch a Gwas y Siri.
Ac mae amrywiadau rhyfeddol i enw'r Titw Tomos Las cyfarwydd; Glas y Pared, Glas Bach y Wal, Pela Glas Bach, Perla, Glas Dwl, Yswidw Las Fach, Gwas y Dryw, Pela Glas Dwl, Cap y Lleian, Llygoden y Derw, Shini Benlas, Shoni Cap Shitan, Y Witw Fach, Tywidw, Lleuar Dar a Sodlas Fawr - y fath gyfoeth anhygoel y fath ffrwyth dychymyg gwerth i gofnodi.
Yn wyneb y fath amrywiaeth o enwau byddai wedi bod yn fuddiol cynnwys mynegai Cymraeg ond rhaid bodloni ar gyfuniad o fynegai a geirfa Saesneg-Cymraeg a fydd o fendith mawr i'r nifer sy'n fwy cyfarwydd ag enwau Saesneg ein hadar.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|