Rara Avis Campwaith nofelydd aeddfed
Adolygiad Hafina Clwyd o Rara Avis gan Manon Rhys. Gwasg Gomer. 拢7.99
I'r dienwaededig (hynny yw y rhai anffodus na chafodd gyfle i wneud Lladin yn yr ysgol) ystyr teitl nofel newydd Manon yw 'aderyn prin'.
A dyna'n union yw prif gymeriad y gyfrol anghyffredin, athrylithgar hon.
Branwen Dyddgu Roberts yw ei henw ac y mae'r enw hwnnw yn ei gosod ar wah芒n yn y cwm lle mae hi'n byw.
Mae hi'n wahanol am ei bod hi'n siarad Cymraeg, am nad oes ganddi dad, am bod ei mam yn alcoholig, am ei bod yn eneth fach unig a myfyrgar.
Ei hoff fan chwarae yw'r fynwent ger ei chartref. Yn y fan honno y mae hi'n cael cysur.
Magwraeth Cwm Rhondda Y peth cyntaf a ddaw i'r meddwl yw cofio mai magwraeth yng Nghwm Rhondda gafodd Manon ac felly caiff un ei demtio i gredu mai math ar hunangofiant yw hwn. Ond na! dim o gwbl.
Wrth reswm y mae hi wedi dibynnu llawer ar ei hatgofion fel plentyn yn Nhrealaw ac wedi "defnyddio" rhai o'r cymeriadau mae'n si诺r.
Ond nid hi yw Branwen. Oherwydd gwyddom i Manon gael ei magu mewn cartref dedwydd a diwylliedig yn ferch i Kitchener a Mair Davies.
Bywyd gwahanol iawn i Branwen druan fach.
Bywyd digysur Ceir yma ddarlun byw o fywyd y cymoedd yn y 50au pan oedd yr iaith bron 芒 diflannu a'r cwm yn afiach a bywyd yn ddigon digysur yn aml iawn.
Adlewyrchir hyn drwy ddefnyddio peth wmbredd o Saesneg yn y sgwrsio.
Ar y cyntaf yr oeddwn yn meddwl; O! na! - ond rhaid cyfaddef bod y Saesneg a siaredid yn wahanol ac yn lliwgar.
Mewn gwirionedd un o'r nodweddion mwyaf Cymreig yn yr gyfrol yw'r dafodiaith Saesneg. Mae'r Saesneg yn ddoniol ac yn drist ar yr un pryd. E.e.:"Top-an-bottom-every-other we do sleep. More room like 'at. But there's always someone's smelly feet right in my face."
Ac meddai ei ffrind Jonathan wrthi: "....Still got my royal mug I 'ave. Bit cracked it is. Mikey sold 'is one to Mac the Madman down the road. Two bob the poor bugger paid 'im. My Dad smashed Phil's one on the floor - tryin to pinch some mney from it 'e was.... Still got yours?" "I didn ave 'one." "Everybody 'ad one mun."
Pleser pur Yr oedd darllen tafodiaith ryfeddol y cwm yn bleser pur ac yr oeddwn yn gorfoleddu yng nghlust fain yr awdur.
Y mae'r gystrawen a'r modd y mae'r brawddegau'n cael eu ystumio yn dangos dylanwad y Gymraeg ar eu Saesneg.
Yr ydym yn aml yn cael ein hatgoffa o Wenglish John Edwards.
Ac fel y dywed yr awdur ei hun: "Y mae hanes yr iaith Gymraeg yn y cymoedd diwydiannol yn hudol. Daethant yn beiriau ieithyddol wedi iddynt gael eu llethu gan fewnddyfodiaid o Brydain benbaladr a thu hwnt.
"Ond hefyd rwy'n cofio clywed fel plentyn hen bobl yn siarad 'patois' neu 'gloran' gwreiddiol y cymoedd. Roeddwn eisiau cyfleu'r holl amrywiaeth ieithyddol ryfeddol hon yn y nofel."
Ac y mae hi wedi llwyddo.
Byddai Branwen Dyddgu'n llawer mwy cartrefol y dyddiau hyn gan fod y Gymraeg yn ffynnu unwaith eto. Dyma lle mae'r elfen o obaith yn bod yn y nofel. Nid oedd modd i Branwen wybod y byddai yna lawer llai o rara vis yn y dyfodol ond mi wyddom ni.
Yn gampwaith Mae hon yn gampwaith gan nofelydd aeddfed a chraff.
Ni ddarllenais ddim byd tebyg erioed yn y Gymraeg ac yr wyf yn si诺r y bydd hon yn uchel ar restr Llyfr y Flwyddyn am eleni.
Bydd Branwen Dyddgu yn un o gymeriadau mawr y ganrif.