|
Oni Bai Geiriau bach - allweddol
Adolygiad Caron Wyn Edwards o Oni Bai gan Eigra Lewis Roberts. Gomer. 拢6.99.
Oni Bai - dau air sy'n cael eu defnyddio yn ddiarwybod gan rywun rhyw ben bob dydd.
A dau air hefyd, sydd 芒 r么l flaenllaw yng nghyfrol ddiweddaraf Eigra Lewis Roberts o'r un enw.
Casgliad yw'r gyfrol hon o ddeg o stor茂au byrion, 芒 phob un yn benthyca o hwiangerdd neu rigwm ar gyfer y teitl.
O'r stori agoriadol sy'n dwyn yr enw, Un, Dau, Tri i Gee Ceffyl Bach a Dafad Gorniog, mae'r awdures yn herio ein rhagdybiaethau o'r gair cyntaf hyd yr olaf, 芒'r ddau air bychan unsill hynny, Oni Bai, yn cynnig rhyw lun ar fwch dihangol rhag hualau cyfrifoldeb.
Yn ei ffordd ei hun, mae pob stori'n peri inni feddwl faint y mae bywyd rhywun yn troi ar un digwyddiad neu ffactor - ac oni bai am hynny, ym mha fodd fyddai pethau wedi bod yn wahanol?
Hap a damwain ynteu trefn rhagluniaeth, beth sy'n gyfrifol am gyfeiriad a ch诺ys ein bywydau?
Ffraeth a chaboledig Yn bwnc sy'n peri chwilfrydedd ar y gorau, mae ymdriniaeth ffraeth a chaboledig yr awdur yn golygu bod y gyfrol yn cydio o'r cychwyn gyda phob stori unigol yn creu byd bach cyflawn, tra'n cael eu plethu i'w gilydd gan y cwestiwn oesol hwnnw.
Yn y stori agoriadol Un, Dau, Tri, mae Trefor, sydd wedi'i fagu gan ei fam, a neb ond ei fam (wedi i'w dad adael - naill ai o ddewis neu o raid), yn ei mygu am eu bod yn meddu ar berthynas annaturiol o glos.
Ac yn wir, dyma thema sy'n rhedeg trwy bob un o'r straeon - pobl sy'n cael eu gwthio gyda'i gilydd gan amgylchiadau ond sydd wedyn yn methu 芒 thorri'n rhydd. Maen nhw'n ddibynnol ar ei gilydd, ac mae'r ddibyniaeth honno'n magu dicter.
Mam feddw Dyna chi Hen Fenyw Fach, gyda'r bachgen bach sy'n aros ar ddihun tan berfeddion nos i ddisgwyl am ei fam feddw gyrraedd adref o'r dafarn.
Wedi iddi gyrraedd yr aelwyd, ef sy'n gyfrifol am dendio arni a gofalu ei bod yn cyrraedd ei gwely'n ddianaf.
Dyma berthynas ffilial wedi ei gwyrdroi, ac eto pan ddaw rhyddhad i'r bachgen - wedi iddo dyfu'n h欧n - mae'n troedio gwagle yn chwilio am ystyr i'w fywyd ac yn troi at ddibyniaeth y 'losin du'.
Ingol ar brydiau Dyma bortread caboledig o rwystredigaeth a diflastod bywyd.
Mae siom y bobl hyn sydd ar y cyrion - y rhai nad ydynt ond yn hanner byw - yn ingol ar brydiau.
Mor hawdd y gallent fod wedi bod yn bortreadau sentimental dan law arall ond mae arddull dynn a diwastraff Eigra Lewis Roberts yn boenus o effeithiol ar brydiau. A dyna ichi Oni Bai arall... Adolygiad ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|