|
St@fell Gwe o helyntion
Adolygiad Sian Davies, Blwyddyn 12, Ysgol y Preseli, o St@fell gan Meleri Wyn James. Cyfres Whap. Gwasg Gomer. 拢4.99.
Wel, dyma chi lyfr sydd yn sefyll mas o'i ymddangosiad cyntaf. Mae'r clawr yn ddeniadol ac mae llygaid y ferch yn edrych fel bod dirgelwch tu 么l iddynt!
Dyma stori am gr诺p o ferched ym mlwyddyn 10 sydd yn dechrau cael anhawster pan fo dieithryn yn logio mlaen i'w stafell siarad breifat ar y w锚.
Wrth gwrs, mae'r merched yn ysu am cael gwybod pwy yw'r person, ond pan fo pethau'n troi'n sinistr mae cyfrinach fwy dwfn yn dod i'r golwg.
Mae'r awdures yn ein hannog ni o'r dechrau i fod yn wyliadwrus, ac i amau pob un: Ai Mr. Evans, yr athro Tech Gwyb hynci yw'r tramgwyddwr? Neu efallai yr arbenigwr cyfrifiaduron tawel, Tecs?
Mae'r amheuaeth yma yn creu stori arswydus tu hwnt.
Trwy gyfres o 么l-fflachiadau, ymsonau, chat-logs a naratif, mae Meleri Wyn James wedi creu stori gref gyda neges ddofn tu 么l iddi - sef pa mor bell y bydd un ferch unig yn mynd er mwyn denu sylw ei ffrindiau.
Cymeriadau go iawn Mae'r tair sy'n brif gymeriadau, Helen, C锚t a Siws yn taro deuddeg ar unwaith, am eu bod nhw'n ferched real.
Mae pob darn o wybodaeth yn gredadwy, hyd at yr erthyglau yn Cosmo a'r dillad newydd yn TopShop.
Gwelir nifer o gymeriadau stereoteipaidd; Tecs y bachgen sydd yn gweiddi "geek sheek", Gruff y 'secs god', a Lisa Legs a Sharon - mae o leiaf ddwy ferch berffaith fel hyn ym mhob ysgol!
Er y ffaith eu bod nhw'n stereoteip, mae eu personoliaethau yn gweddu i'r stori i'r dim.
Mae'r ddeialog yn ddealladwy ac mae'r awdures wedi ychwanegu rheg fan hyn a fan draw er mwyn gwneud iddi redeg yn naturiol ac yn esmwyth.
Peryglon Y thema amlycaf yn y stori ydy diogelwch plant ifanc ar y w锚. Gan fod llawer o blant wedi cael profiad personol oedd yn codi ofn arnynt yngl欧n a dieithriaid 'ar-lein' mae'n hawdd uniaethu gyda'r cymeriadau yn y stori, a deall nad ydy pobl bob tro yr hyn a ddywedant ar y cyfrifiadur.
Wyth allan o ddeg! Fe fyddwn i'n rhoi wyth allan o ddeg i St@fell - mae Meleri Wyn James am gwmpasu elfennau o arswyd, ditectif, bywyd ysgol uwchradd ac hyd yn oed ychydig o ramant (ond rhaid darllen hyd y diwedd er mwyn darganfod mwy!) yn y llyfr diddorol hwn, sydd yn dal llygad y darllenwr yn syth.
Rhaid argymell hon i ferched yn yr ysgol uwchradd fel nofel ardderchog. Y mae'n anodd ei rhoi i lawr ac mae'n sefyll allan fel un o oreuon y nofelau chickCymraeg!
Gwybodaeth ar Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
MrchDd@ gan Meleri Wyn James
|
Hannah Nicholas o Gaerfyrddin Mae'r llyfr hwn yn cwl rydw i wedi mwynhau ei ddarllen a rydw i yn hoffi gyd o'ch storiau ond hwn yw y gorau pob lwc i wneud llyfrau eraill Hannah XXXXXXXXXXX
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|