|
Cadw Golwg Byd bardd
Adolygiad Caron Wyn Edwards o Cadw Golwg gan Dic Jones.
Gwasg Gwynedd, 拢5.95
Llais y Cyfarwydd a glywir yng ngeiriau Dic Jones, a hynny yng ngwir ystyr(on) y gair. Does dim amheuaeth ei fod yn un o gewri'r gynghanedd ac mae ei farddoniaeth yn llifo mor rhwydd a braf a diymdrech 芒 sgwrs, a'i ddawn i gostrelu gwefr a theimlad mewn cwpled cofiadwy yn gyfarwydd.
Dros y blynyddoedd mae ei farddoniaeth wedi nodi achlysuron a chloriannu cyfnod neu ddigwyddiad mewn hanes - o ben-blwyddi (o bob math):
Anwiredd milawd arall,
Ond fel erioed fe eilw'r haul
Hydref a gwanwyn di-draul
A haf llawn a gaeaf llwm
Ymlaen am gan mileniwm.
(Mileniwm o Golwg Arall Gwasg Gomer, 2001) i Barc yr Arfau:
Daear hud yw'r erw hon,
Cartre cewri'r tair coron.
Lawntre werdd gan olion traed
Ac ehofndra'u hysgafndraed.
(Parc yr Arfau o Sgubo'r Storws; Gwasg Gomer, 1986)
Mae ei waith yn cyfleu teimlad cyffredinol 芒 huodledd, boed hwy'n gywyddau croeso, yn gywyddau cyfarch, yn alarnadau neu'n gywyddau coffa.
Yn wahanol i rai beirdd, a barddoniaeth arall, mae ganddo ddilyniant ymysg pobl nad ydynt fel arfer yn ymddiddori yn y genre, ac heb os, ef yw un o'n prifeirdd mwyaf poblogaidd yn yr ystyr o fod yn 'populist' - ffaith a amlygir gan ei gyfraniad rheolaidd i Golwg.
Ffrwyth y cynnyrch hwnnw sydd i'w ganfod yn ei gyfrol ddiweddaraf, Cadw Golwg (Gwasg Gwynedd, 拢5.95).
Yn wahanol i rai o'i gyfrolau blaenorol - megis Golwg Arall sydd wedi cyfuno barddoniaeth a rhyddiaith mewn casgliad o gerddi ac ysgrifau - cerddi yn unig sydd yma, a'r rheiny'n bwrw golwg ar g芒n ar y byd a'i bethau.
Ceir yma dros 140 o gerddi yn y mesurau caeth a rhydd, cerddi digrif a difrifol a rhai cyfarwydd i'r rhai hynny ohonoch sy'n darllen ei golofn Bardd ar y Byd yn y cylchgrawn.
Yr unig beth Mae'n rhaid i mi fod yn onest, fydda i ddim yn darllen pob peth sydd i'w ganfod yn y cylchgrawn hwnnw.
A deud y gwir, oherwydd cyfyngder amser yn amlach na pheidio, rhyw daro golwg sydyn dros y cyfan fydda i - ar wah芒n i un peth - colofn Dic Jones.
Bron nad ydy hi'n ddefod bellach i eistedd lawr efo paned a chael cyfle i fwynhau'r grefft a'r geiriau.
Daw cynganeddu mor rhwydd 芒 pharablu iddo, ond byth ar draul safon.
Mae hyn yn bendant yn wir am Cadw Golwg, sy'n berl o gyfrol ac yn un y gall rhywun blymio i mewn iddi fel y myn.
Ac er mod i wedi darllen bron i bob un ohonynt o'r blaen wnaeth hyn amharu dim ar fy mwynhad ohonynt am yr eildro, ac mae'n hyfryd eu cael wedi eu cloriannu gyda'i gilydd fel hyn.
Pob math o bynciau Fe ag ym mhob un o'i gyfrolau, mae ystod eang o bynciau, digwyddiadau ac achlysuron yn cael eu cynnwys a'u cofio yma, a hwythau'n eu tro yn ennyn amrywiaeth o ymateb ac emosiynau o'u darllen.
Dyna i chi'r englyn bachog am Arlywydd yr America, Dubya'n Gwneud y Dwbwl
Mae rhagor o 诺r Laura - o'n blaenau'r
Pedair blynedd nesa. Mwy mi dybiwn mai Dubya
Ydyw duw yr UDA.
Er ei bod hi'n ymddangos yn hynod o syml, ymhlyg ei chynildeb mae sawl cwestiwn yn cael ei godi.
A dyna sut fydda i'n meddwl am ran o'i farddoniaeth - byth yn haerllug gyhuddgar, ond yn hytrach yn codi rhyw ael holgar.
Enghraifft arall o hyn yw Rhesymeg yr Oes Yma:
Tra mae'n lotri ni'n edwino - mae'r Iancs
Yn mawrhau eu gamblo
Felly i'n mantais byddai, sbo,
Yn syniad cael casino.
Fel lladmerydd a sylwebydd ar yr oes fodern mae'n ddi-fai, a buaswn yn argymell i unrhyw un fynd allan i brynu copi a chael gweld ei grefft ar waith drostynt eu hunain.
Ond beth bynnag ddyweda i, mae'n debyg mai'r ganmoliaeth orau fyddai dweud imi benderfynu prynu ail gopi i'w rhoi'n anrheg yn ddiweddar - dim ond i ganfod fod pawb yn disgwyl stoc newydd wedi i'r lot cyntaf werthu allan!
Adolygiad ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|