A Fu Heddwch? Robyn L茅wis ar gefn ei geffyl - ond sut geffyl?
Adolygiad Gwilym Owen o A Fu Heddwch? gan Robyn L茅wis. Y Lolfa. 拢9.95.
I mi, mae'r Dr Robyn L茅wis ar ei orau pan yw ar gefn ei geffyl ac yn deud ei ddeud heb flewyn ar ei dafod - brifed a frifo.
A phan glywais ei fod yn y broses o ysgrifennu hanes Gorsedd Beirdd Ynys Prydain - ac o gofio am rai penodau yn hanes yr awdur a'r corff hwnnw - roeddwn i'n edrych ymlaen at gyfrol yn llawn t芒n a brwmstan.
Ond mae'n amlwg, wedi darllen ei gynnyrch, fy mod wedi disgwyl gormod - ac efallai mai arnaf i mae'r bai fy mod i'n teimlo braidd yn siomedig.
Nid dweud fod hon yn gyfrol wael a diwerth yr ydw i - dim o gwbl.
Fel y buasech chi'n disgwyl mae ynddi swmp o wybodaeth am y cyfnod y bu'r Orsedd yn paredio yn eu cobannau ar feysydd a rhwng meini o F么n i Fynwy.
Ond y drwg ydi nad oes yna fawr o ddim newydd yn cael ei ddweud.
Mae hi'n eithaf amlwg fod gan Robyn L茅wis ei ffefrynnau ymhlith y Gorseddogion a fu ac y mae'r rheini yn cael mwy o sylw na'r lleill ganddo - ac mae ganddo bob hawl i wneud hynny wrth gwrs.
Cig blasus Mae hynny o gig blasus sydd yn y cyhoeddiad i'w ganfod pan fo'r awdur yn trafod y cyfnod pan ddaeth o'i hun yn aelod o'r Orsedd - ac mae'n ddiddorol mai cael ei dderbyn er anrhydedd a wnaeth o yn y lle cyntaf ac nid fel enillydd un o brif wobrau'r Eisteddfod.
Dim ond wedi iddo ennill medal y Prif Lenor y cafodd yr hawl i gael ei ystyried yn Archdderwydd ac er bod llawer ohonom yn gwybod ei fod a'i lygaid ar y brif swydd ers rhai blynyddoedd cyn cael ei ddewis nid yw'n s么n fawr ddim o gwbl am y cyfnod hwnnw pan gafodd ei wrthod gan y criw bychan oedd yn dewis Archdderwydd yr adeg honno.
Pleidlais i bawb Nid yw'n s么n ychwaith am y ddadl i roi'r hawl i holl aelodau'r Orsedd ddewis bos y sioe a sut y bu iddo ef fynd ati i drechu dau o'i wrthwynebwyr yn yr etholiad cyntaf.
Does dim s么n ychwaith am safiad y cyn Gofiadur J芒ms Niclas a drodd y fantol ar fater pleidlais i bawb mewn cyfarfod cyffredinol o Orsedd y Beirdd. Safiad gorseddol hanesyddol yn fy marn i.
Yn llawdrwm Ond rhag imi roi'r syniad nad oes dim o'r Robyn Ll欧n go iawn yn y gyfrol newydd mae'n deg nodi ei fod o'n llawdrwm iawn ar yr Orsedd am beidio 芒 chynnig anrhydedd erioed i'r Dr John Gwilym Jones.
Ac, wrth gwrs, mae'n werth tynnu sylw at y fath sarhad ar un o'n llenorion disgleiriaf.
Cwbl siabi Mae'r llyfr hefyd yn rhoi sylw i'r driniaeth gwbl siabi a gafodd Harri Gwynn nid yn unig gan yr Orsedd ond hefyd gan yr Eisteddfod ei hun - ac mae'n dda o beth ei fod wedi pigo cydwybod y Sefydliad Sanhedrinol.
Y Frenhines ar y clwt? Ond mae yna ddirgelion yngl欧n 芒'r gyfrol hefyd. Y mae'r cyn Archdderwydd sydd hefyd yn swyddog cyfreithiol Bwrdd yr Orsedd yn cyhoeddi nad yw y Frenhines a'i gwr bellach yn aelodau o'r cylch cyfrin.
O dan y cyfansoddiad newydd ni all neb nad yw'n siarad Cymraeg fod yn aelodau meddai - felly mae yr hen Elizabeth o Windsor a Phylip Meirionnydd allan ar y clwt.
Ond, medda fo wedyn; nid oes sicrwydd a yw rhywun wedi rhoi gwybod iddyn nhw am y sefyllfa. Diddorol ynte?
Llythyrau ffug Dirgelwch dyfnach i mi ydi'r ffaith i'r awdur benderfynu cyhoeddi tudalennau o lythyrau ato sydd yn amlwg yn llythyrau ffug oddi wrth rywrai oedd yn honni eu bod nhw yn ddarpar dderwyddon rhyngwladol.
Llwyddodd y llythyrwr neu lythyrwyr hyn i oglais yr Archdderwydd. Efallai'n wir ei fod o'n credu fod y rhain yn llythyrau gan bobl ddilys. Yn wir, cyflwynodd un ohonynt i Fwrdd yr Orsedd - ond efallai nad oedd yr aelodau mor barod i gael eu perswadio.
Bid a bo hynny - fel darllenydd mae'n rhaid i mi gyfaddef imi gael yr holl gybolfa yn gwbl ddibwrpas ac rwy'n synnu hefyd mai dyma'r rhan o'r llyfr a ddefnyddiwyd i heipio'r cyhoeddiad. Trueni am hynny.
Pethau eraill Ond beth arall sydd yma?
Wel, fe gewch chi hanes Cynan a'r cylchgrawn Lol; clywed sut y bu i'r Archdderwydd roi chwip din i Ann Clwyd - nid yn llythrennol cofiwch - a sut y cafodd yntau chwip din gan y Sanhedrin am gyfeirio at foch a gwinllan ym Mhrifwyl Casnewydd.
Fe ddowch i ddeall hefyd fod Archdderwydd yn cadeirio a choroni prifeirdd ond yr hyn a ddigwydd i'r prif lenorion yw cael eu medalu - sy'n swnio braidd yn boenus i mi.
Diddorol sylwi hefyd i'r awdur fodloni ar un llun yn unig o amryw o gyn archdderwyddon ond rywsut wedi canfod lle i gryn wyth o luniau ohono ei hun yn ei lifrai gorseddol gan gynnwys un dramatig iawn ohono yn canu gweddi'r orsedd. Llun y mae o'n cyfaddef a ddisgrifiwyd gan rywun fel, "Diawledig".
A dyna ni.
Bron i ddau gant o dudalennau. Yr arddull a phopeth yngl欧n 芒'r sgwennu o'r safon uchaf bosibl.
Mae Gwasg y Lolfa yn 么l ei harfer wedi cyflwyno'r cyfan yn raenus a chaboledig ond er hyn i gyd fe ddewisodd yr awdur farchogaeth hen geffyl swrth a braidd yn ddifywyd.
Ac mae hynny'n drueni. Dwi'n si诺r fod gan Robyn Ll欧n well stori i'w dweud petai wedi dewis gwneud hynny.
Tybed a yw yntau fel yr Archdderwydd gorau a gafwyd erioed yn teimlo'n "hen a pharchus"?