|
Ychydig Is Na'r Angylion Siop dan ei sang ar gyfer cyhoeddi nofel
Roedd Siop Eifionydd, Porthmadog, dan ei sang pan ddaeth yr awdur a'r dramodydd Aled Jones Williams, yno i gyflwyno'i gyfrol newydd, Ychydig Is Na'r Angylion.
Yn awdur toreithiog, dyma nofel gyntaf Aled Jones Williams a'r addewid yw ei bod mor ddi-flewyn-ar-dafod a beiddgar ag unrhyw un o'i weithiau blaenorol.
Meddai Maldwyn Thomas o Wasg y Bwthyn, am y llyfr:
"Mae hon yn glamp o nofel. Mae Harri Pritchard Jones eisoes yn ei chymharu hi ochr yn ochr 芒 neb llai na Charadog Prichard ac Un Nos Ola Leuad.
"Fel y gallwch ddychmygu gydag unrhyw waith o eiddo i Aled, mae yma chwarae ar bob synnwyr - y pum arferol yn ogystal 芒'r erotig a'r ysbrydol."
Llyfr y flwyddyn Ychwanegodd:
"Mi fydd hi'n ymgeisydd cryf iawn am wobr Llyfr y Flwyddyn 2007, does gen i ddim amheuaeth o gwbl am hynny."
Ategodd y Parchedig John Owen, Rhuthun - oedd yn holi'r awdur ar y noson - eiriau'r cyhoeddwyr:
"Mae hi'n glamp o nofel ac, fel y gallwch ddychmygu efo Aled, mae hi'n byrlymu o syniadau a them芒."
Cafwyd cerddoriaeth gan Fiona a Gorwel Owen, gan gynnwys rhan o'r hunangofiant Oerfel Gaeaf Duw ar g芒n, a ch芒n a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y noson ar yr un teitl 芒'r nofel.
Meddai Gorwel, sydd wedi gweithio gyda grwpiau fel Gorky's yn y gorffennol, yn ei gyflwyniad i'r caneuon:
"Mi ddaeth Fiona a finnau i nabod Aled wedi i Maldwyn ein cyflwyno i'w gyfrol Oerfel Gaeaf Duw, ac roedden ni'n teimlo bod y geiriau mor bwerus fel inni eu gosod ar d么n."
Marw mewn damwain Dywedodd Aled Jones Williams mai hanes un dyn sydd yn y nofel, Dulyn Parri, sy'n briod 芒 Dwynwen ac yn dad i dri o blant.
"Mae ei fywyd yn un digon di-nod tan bod ei wraig a'i ddau blentyn hynaf yn marw mewn damwain car ac mae Dulyn yn canfod ei hun yn gofalu am ei fab ieuengaf, Rhodri, sy'n anabl.
"Mae'r nofel yn dilyn datblygiad y berthynas hon yn ogystal ag yn ein cyflwyno i lu o gymeriadau eraill megis yr arlunydd Elliw F么n, Huan Elis sy'n rhyw lun ar therapydd a Sabina Ong, cyn-gariad i Dulyn a mam i fachgen sydd wedi troi'n Fwslim."
Dim ond nofel Beth felly, a'i ysgogodd i fynd ati i ysgrifennu nofel y tro hwn?
"Dim ond nofel fyddai hon wedi gallu bod, ac yn sicr roedd y pwnc yn benthyca ei hun i'r cyfrwng, yn enwedig gan fod cymaint o gymeriadau ynddi. Mae hi'n anodd dweud pa un ydy'r prif gymeriad a dweud y gwir, roedd llais pob un mor gryf i mi a phob un ohonynt yn benderfynol o ddweud eu stori.
"Mi wnes i fwynhau cyfrwng y nofel, y gynfas fawr" meddai wedyn.
"Mae ysgrifennu nofel yn brofiad fwy preifat na sgwennu drama lwyfan rhywsut. Mae rhywun yn gallu mynd i rhyw gornel i sgwennu ac ar y pryd roeddwn i'n teimlo'n fwy diogel yn y fan honno."
Hefyd yn bresennol ar y noson yr oedd dramodydd a llenor arall W S Jones - Wil Sam - a ddaeth i gefnogi ei hen gyfaill.
Mae Aled Jones Williams, sy'n wreiddiol o Lanwnda, yn ficer ym Mhorthmadog. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, 2002.
Mae'n awdur nifer o ddram芒u gan gynnwys; Wal; Fel Stafell; Ta-ra Teresa; Be Oedd Enw Ci Tin Tin? a Cnawd.
Mae yr un mor adnabyddus am ei frwydr bersonol yn erbyn alcoholiaeth, a hynny wedi esgor ar ddram芒u fel Lysh.
Ychydig Is Na'r Angylion.
Aled Jones Williams.
Gwasg y Bwthyn, 拢8.00.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Huw Alun
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|