| |
|
|
|
|
|
|
|
Cydymaith Caneuon Ffydd Olrhain hanes dros wyth gant o emynau Cymraeg
Cydymaith Caneuon Ffydd gan Delyth G Morgans. Pwyllgor Caneuon Ffydd, Aberystwyth. 拢17.95
Gellir clicio i wrando ar Delyth Morgans yn cael ei holi wedi darllen yr erthygl hon.
Heb amheuaeth cyfrol fwyaf swmpus y Nadolig hwn - ac o bosib y gyfrol y bydd y mwyaf o droi ati yn ystod y flwyddyn yw'r cydymaith newydd i Caneuon Ffydd
Mae'n gyfrol o 720 o ddalennau ac yn ffrwyth tair blynedd o ymchwil gan yr awdur, Delyth Morgans, sydd wrth ei gwaith bob dydd yn swyddog cyfathrebu gydag Undeb yr Annibynwyr yng Nghymru.
Bu cyfarfod arbennig i gyd-fynd 芒'i chyhoeddi yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, Tachwedd 27.
Nid yn unig mae'r gyfrol yn cynnwys pennod am hanes a datblygiad yr emyn yng Nghymru ond hefyd nodiadau am bob un o'r 873 o emynau a 704 o emyn donau sydd yn y llyfr emynau cydenwadol Caneuon Ffydd.
"Wrth gwrs mae hyd a natur y pytiau hynny yn amrywio gan mai prin yw'r wybodaeth sydd ar gael ambell waith ond lle mae yna gyfle i ymhelaethu ac i adrodd straeon rwy'n cael rhwydd hynt i wneud hynny," meddai Delyth wrth gael ei holi gan John Roberts ar Bwrw Golwg ddydd Sul, Tachwedd 26.
Cynnyrch profiad Dywed Delyth mai "cynnyrch profiad" yw emyn.
"Dyna sy'n gwneud emyn da efallai - fod y profiad byw yma yng nghalon yr emynydd.
"Mae e'n canu mawl i Dduw ond wrth gwrs mae angen iddo fe fynegi y gorfoledd a'r rhyfeddod, y mawredd yma sydd yn y Drindod.
"Ond hefyd mae angen i'r emyn efallai i fod yn fwy tyner i dywys y sigledig a'r ofnus a'r clwyfedig at Iesu Grist," meddai.
"Felly mae yna ddau beth; mae yna'r emyn cynulleidfaol mawr yma o fawl ond hefyd mae'r emyn mwy defosiynol, emyn personol efallai," meddai.
Gellir clicio isod i glywed rhagor o sgwrs Delyth Morgans ar Bwrw Golwg gyda chyfraniad hefyd gan Arfon Gwilym sydd newydd gyhoeddi casgliad o garolau plygain.
Lluniau o noson cyhoeddi'r gyfrol:Cliciwch
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Delyth Morgans
Adolygiad Alun Lenny
Gwefan Crefydd 成人论坛 Cymru
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|