|
Taliesin - gwobr i dair o F么n Cysylltiad meddygol rhyfeddol
Tair merch sy'n hanu o F么n sydd wedi cipio'r prif wobrau yng Nghystadleuaeth Stori Fer y cylchgrawn llenyddol Taliesin.
Nid yn unig y mae eu gwreiddiau ar yr Ynys ond mae dwy ohonynt yn hanu o'r un pentref ac mae cysylltiad diddorol arall rhyngddynt hefyd.
Rhannu'r wobr Roedd y gystadleuaeth hon yn cynnig gwobr sylweddol o 拢1,000, diolch i nawdd cwmni teledu Boomerang o Gaerdydd a bu 30 yn ymgiprys amdani.
Fe'i rhannwyd rhwng Annes Glynn (llun uchod), Prif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004, gipiodd y wobr gyntaf, gyda'r ail wobr yn mynd i Brif Lenor 1999, Sonia Edwards, a dyfarnwyd y drydedd wobr i Mary Annes Payne a ddaeth yn agos at ennill y Fedal Ryddiaith yn 2002 gyda'i nofel Hogyn Syrcas.
Meddyg Mae Annes a Mary yn hanu o bentref Brynsiencyn a'r hyn sy'n eu cysylltu yw mai tad Annes Glynn, y diweddar Dr John Glyn Jones, oedd yn gofalu am fam Mary yn ystod ei genedigaeth, a hynny ar ddiwrnod pen-blwydd ei wraig!
Rhwng popeth, y cam naturiol wedyn oedd rhoi'r enw Annes yn enw canol ar y babi newydd, ar 么l merch y meddyg!
Ymgartrefodd Annes ym mhentref Rhiwlas ger Bangor ers rhai blynyddoedd lle mae bellach yn gyfieithydd ar ei liwt ei hun.
Treuliodd Mary gyfnodau yn dysgu yn Yr Alban a Sir Drefaldwyn cyn dychwelyd i F么n ac ymroi i ysgrifennu'n amser llawn.
Llawn awgrymusedd Meddai'r beirniad y Dr John Rowlands am y stori fuddugol 'Dewis, dewis...' a anfonwyd i mewn dan y ffugenw 'Dal铆':
'Mae rhywbeth addas iawn yn y ffugenw. A dyna sy'n taro rhywun am y stori hon - mae'i harddull drwodd a thro yn llawn awgrymusedd soffistigedig, yn byrlymu o ddeallusrwydd, ac eto byth yn taflu llwch i lygad neb, ond yn ymdrin yn gyrhaeddgar 芒 phwnc a allai'n hawdd fynd yn afreolus.'
Yn ystod y chwe blynedd diwethaf cyhoeddodd Annes Glynn ddwy nofel, Dilyn Sgwarnog a Chwarae Mig yn ogystal 芒'r gyfrol o l锚n meicro, Symudliw a enillodd iddi'r Fedal Ryddiaith yng Nghasnewydd.
Salwch meddwl Am ei stori fer fuddugol dywedodd: "Mae'r stori wedi cael ei hysgrifennu o safbwynt dyn sy'n dioddef o salwch meddwl. Er ei bod yn thema ddwys ar yr olwg gyntaf mae 'na ddigon o hiwmor tywyll ynddi ac mi wnes i fwynhau ei hysgrifennu yn arw.
"Yn eironig ddigon, ers i mi ennill y Fedal Ryddiaith, ysgrifennu barddoniaeth sydd wedi mynd 芒'm bryd a hynny'n bennaf oherwydd imi ymuno 芒 dosbarth cynganeddu lleol."
Lansiwyd y rhifyn diweddaraf o'r cylchgrawn yn Oriel Bangor ac mae cop茂au ar gael o'r siopau yn awr neu drwy gysylltu 芒'r Academi ar 02920 472266.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|