| |
|
|
|
|
|
|
|
Dathlu G诺yl Ddewi Plant yn rhoi llyfr ar waith
Cafodd disgyblion dosbarth 5 a 6 Ysgol Gynradd Llanfairpwll fodd i fyw yn paratoi ar gyfer dydd G诺yl Dewi 2007 gyda llyfr newydd Elin Meek, Dathlu G诺yl Ddewi.
Ac er mai coch yw'r wisg ysgol roedd y dosbarth dan ei sang o felyn a gwyrdd erbyn diwedd y prynhawn!
Am ladd Dewi! I'w hysbrydoli ar gyfer y gwaith llaw bu i'w hathro, Gethin Thomas, ddarllen Cynllwyn i Ladd Dewi, un o'r hanesion a gynhwysir yn y llyfr, am hanes bywyd ein nawddsant, ac un o'r nifer o hanesion sydd hwyrach heb fod yn hysbys iawn hyd yma.
Dyma un o'r chwedlau rhyfeddaf am Ddewi ac fe gyfareddwyd y plant gan hanes tri mynach drwg yn cynllwynio i wenwyno Dewi ar Sul y Pasg!
Meddai James, 11 oed:
"Mae Mr Thomas wedi bod yn darllen y llyfr i ni a dwi di mwynhau clywed y chwedlau - y rhan fwyaf ohonyn nhw dydw i ddim wedi eu clywed o'r blaen. Dwi'n meddwl mai fy hoff un i ydy hanes Dewi yn aros yng Nglyn Rhosyn adag y t芒n..."
A dywedodd mai hoff chwedl oeded, "Yr un efo'r bara."
Ychwanegodd Harri, 10 oed:
"Dydy mam a dad ddim yn gwybod lot am ddydd Gwyl Dewi, ond fydda i'n gallu mynd adra a deud y stori wrthyn nhw rwan."
Gwneud cennin pedr Wedi'r stor茂o daeth yn bryd arfogi eu hunain gyda selot锚p, gliw a phob math o drugareddau gwaith llaw ar gyfer gwneud eu cennin pedr eu hunain trwy ddilyn cyfarwyddiadau lliwgar y gyfrol.
Dathlu G诺yl Ddewi yw'r ail gyfrol yng Nghyfres Hwyl G诺yl a daw yn sgil llwyddiant y gyntaf, Dathlu Calan Gaeaf.
Meddai Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch
"Fel rhiant fy hun - dwi'n teimlo'i bod hi'n hanfodol bwysig ein bod yn cynnig ymwybyddiaeth o'n traddodiadau, ein harferion a'n hanesion i'r genhedlaeth iau."
Ei obaith gyda Hwyl G诺yl yw gwneud hynny mewn ffordd ddifyr a diddorol.
"Ac fel rhywbeth y gall rhieni a'u plant, neu ddosbarthiadau ysgol, wneud gyda'i gilydd," meddai.
Mae gan y gyfrol hefyd rywbeth i'w gynnig ar gyfer gweddill y flwyddyn wedi Mawrth 1.
Lluniau o'r diwrnod
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|