|
Stori Sydyn - pedwar llyfr newydd Pedair stori sydyn ar gyfer Diwrnod y Llyfr
Ar bedair cyfrol Gymraeg newydd yn y gyfres Stori Sydyn y bydd llawer o'r pwyslais Ddiwrnod y Llyfr 2007.
Llyfrau byrion yw'r rhain wedi eu bwriadu'n arbennig ar gyfer cynneu diddordeb mewn llyfrau ymhlith rhai ydynt fel rheol yn darllen.
Awduron y pedwar llyfr Cymraeg diweddaraf yn y gyfres yw Bethan Gwanas, Caryl Lewis Gary Slaymaker a Gareth F Williams.
Mae'r llyfrau yn fyr - 126 tudalen yw'r hiraf -mewn print bras ac yn hawdd eu darllen.
Lansiwyd cynllun Stori Sydyn - a Quick Reads yn Saesneg - yn 2006.
Y disgrifiad swyddogol, fel petai, yw :
"Cyfres o lyfrau byr, cyffrous, byrlymus, wedi'u hysgrifennu'n benodol gan awduron poblogaidd, ar gyfer oedolion sy'n egin ddarllenwyr, y sawl sydd wedi colli'r arfer o ddarllen neu unrhyw un sy'n chwilio am lyfr i'w ddarllen yn sydyn."
Yn dilyn cyhoeddi'r pedair cyfrol Gymraeg newydd Mawrth 1 - a phedair arall yn y Saesneg - trefnir digwyddiadau mewn gwahanol rannau o Gymru.
Hefyd bydd cop茂au arddangos rhad ac am ddim ar gael i'w darllen mewn caffis, meddygfeydd, siopau trin gwallt "neu unrhyw le ble mae pobl yn eistedd o gwmpas yn chwilio am bethau i'w darllen!"
Canolbwyntir ar dair ardal benodol :
Caernarfon - Mawrth 5-10
Aberystwyth - Mawrth 12-17
Abertawe - Mawrth 19-24
Tair nofel ac un gyfrol gofiannol yw'r pedwar llyfr newydd - cyhoeddwn isod sylwadau'r cyhoeddwr amdanynt: Os M锚ts, gan Bethan Gwanas.
Mae Ann ar fin priodi Dylan. Ond rhaid iddi fynd ar benwythnos cwennod cyn priodi. Hanna, ei m锚t gora, sy wedi trefnu pob dim ac mae Hanna'n nytar. Limousine i Gaer?
Dim ffiars o beryg! Canws a dringo a rhyw lol fel'na sydd wedi ei drefnu, a dydi'r criw ddim yn hapus. Ond diawch, mae 'na hwyl i'w gael yn y diwedd - ac ambell gath yn cael ei gollwng o'r cwd. Fyddan nhw byth, byth yn anghofio'r penwythnos hwn.
Tacsi i'r Tywyllwch gan Gareth F. Williams.
Dau gorff i ddechrau. Anodd eu nabod o ganlyniad i'r t芒n.
Ac mae llaw hefyd, yn perthyn i gorff arall. Ond mae'r heddlu'n datrys y problemau hyn yn ddigon hawdd.
Y broblem yw PWY wnaeth e, a PHAM? Mae'r heddlu'n meddwl eu bod yn gwybod PAM. Ond does dim llawer o brawf. Ac maen nhw'n nabod y rhan fwyaf o'r lladron, gwerthwyr cyffuriau, mygyrs a bwlis.
Felly mae PWY yn broblem anodd. Ond un gair o gyngor! Gwyliwch rhag yr un sy'n teithio yn y tacsi.
Y Jobyn Gorau yn y Byd gan Gary Slaymaker.
Pwy yw'r person lwcus sy 'di cwrdd 芒 Stan Lee, y g诺r a greodd y comics Spider-Man, yr Incredible Hulk a'r Fantastic Four? Pwy aeth i Hollywood a chwrdd 芒 Clint Eastwood yno, a dweud 'olreit, lyf' wrth Charlize Theron?
Pwy gafodd brynhawn ar y pop yn Efrog Newydd yng nghwmni Rhys Ifans?
Mae e'n nabod Gareth Edwards, ac yn cefnogi t卯m rygbi cenedlaethol Cymru yn ogystal 芒 bod yn gefnogwr brwd o d卯m p锚l-droed Cardiff City.
Hefyd, wrth gwrs, mae e'n dwli ar fynd i weld ffilmie, siarad am ffilmie a dweud ei farn yn blaen wrthon ni ar y bocs. Wel, chi'n gwybod yn iawn nawr hanes pwy sydd yn y llyfr 'ma!
Y Rhwyd gan Caryl Lewis. Mae Meic mewn cariad 芒'i wraig, Eirlys, ac wrth ei fodd gyda'i ddau blentyn ifanc, Beca a Jac.
Pam yn y byd mae e'n chwilio am y 'rhywbeth bach ecstra' 'na? Ond mae rhyw ysfa ynddo i fynd ar y trips 'gwaith' dros nos.
Oes unrhyw syniad gan Eirlys bod Meic yn trefnu ei 'rywbeth bach ecstra' ar y we? Bod ei gwr yn rhoi rhaff i'w ffantas茂au ac yn manteisio ar ddyheadau rhywiol rhes o ferched.
Ydy Eirlys yn amau pam mae ei g诺r yn mynd bant dros nos? A Paul, ffrind gorau Meic, a ffrind i Eirlys ers pan oedden nhw'n blant - beth yw ei r么l e ym mywyd Meic a'i deulu? Druan o Meic, mae'r rhwyd yn cau amdano mor sydyn ac mor annisgwyl. Ond bydd y cyfan yn glir erbyn y diwedd.
Cyhoeddir y llyfrau i gyd gan Y Lolfa, pris 拢1.99.
Cysylltiadau Perthnasol
Cychwyn Stori Sydyn
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|