|
Y Llyfr Enwau Yn addysg ac yn bleser yn ogystal 芒 bod yn gyfeiriadur defnyddiol mewn cartref a swyddfa
Adolygiad Glyn Evans o Y Llyfr Enwau - Enwau'r Wlad gan D Geraint Lewis. Gwasg Gomer. 拢17.99.
Bu sawl ymdrech yn ystod ymgyrch arwyddion ffyrdd dwyieithog y chwech a'r saith degau i brofi fod enwau Cymraeg yn beryglus.
Dadleuwyd y byddai gosod Abertawe, Casnewydd, Dinbych ac yn y blaen ar yr un arwydd 芒 Swansea, Newport a Denbigh yn achosi damweiniau lu a gyrwyr dryslyd yn cael eu lladd yn lluoedd.
Ac wrth gwrs y mae enwau lleoedd Cymraeg yn bethau eithriadol o beryglus.
Ond nid yn ystyr awdurdodau'r Chwedegau.
Dydy nhw ond yn beryglus i'r rhai hynny sy'n ddigon rhyfygus i fynd ati heb yr wybodaeth gymwys i geisio egluro eu hystyr.
Cyn mentro i'r maes hwnnw byddai'n ddoeth inni gyd gadw mewn cof eiriau Syr John Morris-Jones wrth Syr Ifor Williams, mai dim ond "ffyliaid fyddai'n treio esbonio enwau lleoedd".
Yn ffodus, ni wrandawodd Syr Ifor arno ac yr ydym yn ddyledus iddo hyd heddiw am osod y seiliau.
Ac fe fyddai ef yn cymeradwyo cyhoeddi llyfr a welodd olau dydd yn gynnar yn 2007 - Y Llyfr Enwau - Enwau'r Wlad, casgliad safonol o enwau lleoedd yng Nghymru gan D Geraint Lewis.
Mae ein dyled yn fawr iddo gan fod yr unig gasgliad awdurdodol arall - Rhestr o Enwau Lleoedd - A Gazetteer of Welsh Place-Names gan Elwyn Davies ar ran Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru yn 1957 - allan o brint ers sawl blwyddyn.
Hwnnw, wedi ei gymeradwyo gan Syr Ifor Williams ei hun, oedd Y casgliad awdurdodol o enwau lleoedd yn y Gymraeg.
Ato ef y byddai rhywun yn troi i wneud yn si诺r ai Castell-nedd, Castell Nedd, Castellnedd ynteu Castell-Nedd oedd yn gywir. Llanbedr Pont Steffan ynteu Llanbedr-pont-Steffan, Llanbedr-Pont-Steffan ynteu Llanbedr-pontsteffan ac yn y blaen. Llansantffraid ynteu Llansanffraid.
Wrth gyflwyno'i gyfrol newydd ef dywed D Geraint Lewis iddo yntau ddibynnu ar awdurdod y gyfrol amheuthun honno.
Yn rhagori Ond mae ei gasgliad ef yn rhagori ar un 1957 ar fwy nag un cyfrif.
Yn y lle cyntaf mae yma fwy o enwau.
Yn bwysicach na hynny, mae'n nodi sut fath o leoedd ydyn nhw yn drefi, afonydd, llynnoedd, mynyddoedd, ardaloedd, plwyfi, pentrefi, ffermydd ac yn y blaen.
Yn bwysicach fyth mae hefyd yn ymuno 芒 chwmwl ffyliaid Syr John Morris-Jones trwy egluro yn Gymraeg ac yn Saesneg bob un o'r enwau gan nodi gyda marc cwestiwn (?) pan fo ansicrwydd ynglyn ag ystyr.
Dim ond rhestr o enwau oedd cyfrol 1954.
Mor beryglus Buan iawn y gwelwn faes mor beryglus y gall hwn fod i'r amatur gan nad yr eglurhad amlwg yw'r un cywir bob amser.
Mor hawdd, er enghraifft, fyddai hi inni dybio bod 芒 wnelo Gwersyllt rywbeth a gwersyll a bod olion rhyw hen wersyll Celtaidd yno.
Ond y gwir yw mai cyfyniad yw o'r geiriau Hen Saesneg wearg yn golygu troseddwr a hull yn golygu bryn.
Felly, bryn y troseddwr yw'r ystyr ac yn un na fyddai ond ymchwil trwyadl wedi ei ddarganfod.
Bydded hynny'n wers inni gyd - oni bai fod ganddo wybodaeth drwyadl o'r maes gochel rhag cynnig eglurhad fyddai'r Cymro doeth.
Mor hawdd, er enghraifft, fyddai hi i'r lled wybodus dybio fod 芒 wnelo Gwyddelwern rywbeth 芒 Gwyddelod heb sylweddoli mai yr un gwydd sydd yma ag yn Yr Wyddgrug ac yn golygu prysgwydd.
Byddai yr un mor hawdd dyfalu i eglwys hapus fod yn Llanllawen ar un adeg heb fod yn gwybod i'r eglwys gael ei henwi ar 么l Llewen Sant.
A does 芒 wnelo Penarth ddim byd ag eirth - pen a garth yn dynodi trwyn o dir yn ymwthio i'r m么r sydd yma.
Yn yr un modd ymddengys nad cyfeiriad at goeden Nadoligaidd sydd ym Mhentrecelyn ond, yn hytrach, berson o'r enw Cuhelyn ac yr adnabuwyd y lle fel Pentre Cae Heilin ar un adeg.
A dydi 'dwy' ddim yn 2 bob amser ychwaith mewn enw lle ond yn golygu "duw neu dduwies, yn arbennig mewn hen enwau afonydd, e.e. Dwyfor (dwy+fawr), Dwyfach; Dyfrdwy; Ystumdwy," meddir.
Yn allwedd Wrth gwrs, mae'r wybodaeth iawn yn allwedd i ogof lladron o ryfeddodau gwerthfawr; a'r gyfrol hon yn gwahodd oriau o bori gyda phob math o ddeiliach blasus i'ch denu.
Y Sgeti, er enghraifft, yn ynys rhywun o'r enw Ceti.
Ond ymddengys nad oes 芒 wnelo Pandytudur ddim o gwbl 芒 rhywun o'r enw Tudur. Na, cyfuniad o pandy a budr sydd yma yn 么l y gyfrol hon ac yn enghraifft bellach o ffolineb peryglus rhuthro am yr ystyr amlwg, arwynebol!
A beth mae rhywun i'w wneud o'r ffaith fod dau enw yn y gogledd sy'n ymddangos yr un fath ond yn gwbl, gwbl wahanol o ran tras.
Pen Ll欧n i'r gorllewin o Gaernarfon a Phenllyn yng nghyffiniau llyn Y Bala.
Y naill wedi ei enwi ar 么l llwyth y Lageni a drigai yn y rhan honno o'r wlad a hynny'n profi pwysigrwydd defnyddio'r hirod uwch yr 'Y'.
Hyd yn oed mewn adolygiad mae'n anodd ymatal rhag rhestru yr holl sgwarnogod sy'n cael eu codi wrth grwydro'r gyfrol hon sy'n cynnig cymaint mwy na rhestr safonol a sillafiadau awdurdodol a chyfeirnodau map.
Atodiadau defnyddiol Yng nghefn y gyfrol mae rhestr fer o gartrefi enwogion Cymru gan gynnwys Pantycelyn, Dolwar-fach, Nyth-br芒n, Y Lasynys a'r Ysgwrn - rhestr y byddai'n fuddiol ychwanegu ati mewn argraffiadau pellach.
Yn y cefn hefyd mae cyfres o fapiau diddorol o afonydd Cymru, ei mynyddoedd, rhaniadau yr wythfed ganrif, cymydau Cymru, cantrefi, siroedd ar wahanol adegau a map yn dangos prif drefi a phentrefi'r wlad.
Y rhestr Y Adran arall a fyddai wedi bod yn ddefnyddiol fyddai un yn rhestru gyda'i gilydd yr holl leoedd sydd angen y fannod (Y Yr) o'u blaenau fel y gellid gweld ar amrantiad pa rai ydyn nhw - yn enwedig gan fod y defnydd o'r fannod yn rhywbeth y mae cymaint o ansicrwydd yngl欧n ag ef. Byddai rhestr gynhwysfawr yn arbed llawer o gur pen ac o chwilio drwy'r gyfrol.
Gaerwen ynteu Y Gaerwen? Waun ynteu Y Waun? Y Waunfawr ynteu Waunfawr ynteu Yr Waunfawr? Rhyl ynteu Y Rhyl? Benllech ynteu Y Benllech? Wrth gwrs bod angen rhestr.
I gloi'r llyfr mae dalen o lyfryddiaeth berthnasol lle gwelir bod nifer o gasgliadau llai wedi eu cyhoeddi a hynny'n tanlinellu cymaint yw cymwynas D Geraint Lewis yn dod a chynnwys y casgliadau hynny at ei gilydd o fewn un cyfrol.
Yn ffodus iawn cyhoeddwyd y llyfr ar yr un adeg 芒 phrosiect Beth Sy Mewn Enw y 成人论坛 sy'n parhau yn fodd i ennyn trafodaeth eang a chreu diddordeb newydd mewn maes y mae cymaint o ddiddordeb ynddo yn barod.
Gwahanol ddiddordebau Yn ei ragymadrodd i gyfrol 1954 rhestrodd Syr Ifor Williams y gwahanol fathau o ddiddordebau sydd yna mewn enwau lleoedd ac mae ei eiriau yr un mor berthnasol i'r gyfrol hon:
"Bydd rhai wrthi hi yn troi'r dalennau'n wyllt - eiosiau gwybod p'le mae'r fan ar fan: pobl ddoeth, brysur, yw'r rhain," meddai.
"Bydd eraill yn darllen yn hamddenol, enw ar 么l enw - chwilio mae'r rhain am enwau barddonol tlws eu hynganiad, a gorawenu at berseinedd ambell un, a gadael i'w ffansi chwarae'n ddifyr 芒'r etholedig rai. Pawb 芒'i hwyl ei hun," ychwanega.
Mae'n sylwi yn ogystal bod yma borthiant i'r ieithydd a'r gramadegwr hefyd.
"Gallwn gasglu ffeithiau diddorol am y tafodieithoedd oddi wrth y modd y newidiwyd enwau lleoedd," meddai.
Ydi, mae Y Llyfr Enwau yn addysg ac yn bleser yn ogystal 芒 bod yn gyfeiriadur defnyddiol mewn cartref a swyddfa.
Adolygiad Lyn L茅wis Dafis ar Gwales:
Cysylltiadau Perthnasol
Beth Sy Mewn Enw?
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|