Cyfraniad i'r presennol wrth edrych ar un o gymeriadau ddoe
Adolygiad Rhys Evans o Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T Edwards gan Gwyn Jenkins. Lolfa. 拢14.95.
Dydd o lawen salm oedd y diwrnod hwnnw dro yn 么l pan glywais fod cofiant yn cael ei lunio i Huw T Edwards, un o Gymry pwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif ond g诺r a syrthiodd i gors anghofrwydd hanes.
Bellach, diolch i Gwyn Jenkins, mae'r bwlch hwnnw wedi ei lenwi yn ffurf ei gyfrol ardderchog, Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T Edwards.
Mae medru datgan hynny am un o gewri mabwysiedig Sir y Fflint adeg Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug yn beth amheuthun yn ei hunan ond gwychach fyth yw'r amseru.
Serch bod gan Robat Gruffudd, godfather gwasg y Lolfa enw cwbl haeddiannol am ei allu i lunio stynts llenyddol, go brin y byddai hyd yn oed yntau wedi breuddwydio y medrai ei wasg gyhoeddi cyfrol am wleidydd a adawodd y Blaid Lafur am Blaid Cymru cyn dychwelyd yn 么l i'r gorlan Lafur a hynny y dwthwn hwn pan geir llywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru ym Mae Caerdydd.
Cryn her
Rhwng pwysigrwydd y testun a'r amseru roedd yna gryn her yn wynebu Gwyn Jenkins ond fe lwydda'n rhyfeddol o dda i gwrdd 芒'r gofynion digon llym yma.
Ar ryw ystyr, ni fedrai Gwyn Jenkins fethu; wedi'r cyfan, gwrthrychau anodd, cnotiog, sy'n gwneud cofiannau da ac roedd Huw T Edwards yn dalp o ddiawlineb egwyddorol.
Tarddai llawer o'r t芒n hwnnw o'i fagwraeth neilltuol o anodd gan iddo yntau, chwedl Jim Griffiths, fod 'yn y ffwrn'.
Fe'i ganed yn 1892 i ganol tlodi enbyd ar dyddyn diarffordd ar lethrau Tal-y-fan gyda'i fam a'i dad yn crafu byw tra'n magu Huw T a'r chwe phlentyn arall.
Roedd hynny yn ei hunan yn ddigon o bwn ond y digwyddiad allweddol, yn 么l Gwyn Jenkins, oedd marwolaeth mam Huw T ac yntau ond yn wyth oed.
Mae'n amheus a wnaeth fyth lawn ddygymod 芒'r golled - a'r gwaddol oedd y t芒n anniffodd hwnnw a daniodd fywyd cyhoeddus Cymru.
Fodd bynnag, yn ei arddegau, ymateb anystywallt gafwyd ganddo i golli ei fam ac ymgysurai'n amlach na pheidio mewn diod.
Parodd yr un anniddigrwydd iddo grwydro cryn dipyn hefyd ac aeth i'r Rhondda i weithio (a bocsio) fel colier cyn listio'n frwdfrydig yn filwr.
Fe'i clwyfwyd yn arw cyn dychwelyd am y chwareli a'r gymdeithas unigryw Lafurol Gymraeg a geid yno.
Bwrw angor
Yna, dyma Huw T yn dechrau bwrw angor gan roi heibio'r allanolion anystywallt ac ymserchu yn y mudiad Llafur gan mai'r mudiad hwnnw, yn anad yr un arall, fe dybiai, a gynigiai achubiaeth i'r gweithiwr cyffredin.
Gwelai Huw T Edwards dlodi "fel rhwd i haearn" a hyn oedd i gyfrif am yr hyn a wnaeth mor aml, mor ddygn ac mewn cynifer o ystafelloedd myglyd i wella stad y gweithiwr.
Ond nid sosialaeth oedd yr unig feistres i hudo Huw T. Dadleua Gwyn Jenkins mai yn ystod yr Ail Ryfel Byd y dyfnhaodd cariad Huw T at Gymru ac mai yn y cyfnod hwn y dechreuodd y dilema llwythol hwnnw - bara ynteu'r genedl - frigo i'r wyneb.
Mae ymdriniaeth Gwyn Jenkins o'r newid hwn yn wirioneddol bwysig, yn enwedig felly yng nghyd-destun Cyngor Cymru - corff a gollfarnwyd yn barhaus gydol y Pumdegau o dan gadeiryddiaeth Huw T Edwards.
Eto i gyd, roedd methiant y corff yn allweddol yn y cam gweinyddol nesaf sef creu ysgrifenyddiaeth i Gymru. Fel mae'n digwydd, gwrthwynebai Huw T greu'r swydd honno ond mae'n amheus a fyddai'r swydd fyth wedi ei chreu oni bai am fethiant lliwgar Huw T i gael y parch y credai yr oedd ei Gyngor yn ei haeddu.
Bom!
Roedd ymddiswyddo mor ddramatig ag y gwnaeth yn 1958 o gadeiryddiaeth y Cyngor yn "fom", chwedl un sylwebydd, o dan wleidyddiaeth Cymru.
Tebyg oedd yr effaith pan gyhoeddodd Huw T flwyddyn yn ddiweddarach ei fod am gefnogi Plaid Cymru. Erbyn hynny, ystyriai ei ymdrechion i Gymreigio'r Blaid Lafur yn llwch ac yn lludw.
Mae yna elfen gref o wirionedd yn hynny ond roedd camau dramatig a datgan gwirioneddau o bennau'r tai yn rhan o reddf Huw T. Hoffai wrthdaro creadigol ac anniddig tu hwnt oedd ei orig fer yn rhengoedd Plaid Cymru.
Yn y b么n, fe hoffai'r syniad o'i hun fel actor-wleidydd boed hynny o fewn undeb, plaid neu fel perchennog Y Faner. Bendith ar Gwyn Jenkins, felly, am danlinellu'r elfen hon o egoistiaeth a oedd yn rhan gyn bwysiced o gynhysgaeth Huw T.
Erys un cwestiwn, fodd bynnag, i'r adolygydd hwn.
A oedd Huw T fyth yn haeddu'r teitl carlamus, "Prif Weinidog Answyddogol Cymru"?
Mewn gair, nac oedd - ddim hyd yn oed pan oedd yn anterth ei alluoedd gan fod yna wleidyddion Cymreig pwysicach a thipyn mwy dylanwadol, boed mewn cyd-destun Cymreig neu mewn cyd-destun Prydeinig.
Er hynny, ni ddylai hynny dynnu yr un owns oddi ar faint ei gyfraniad. Drwy chwys ei lafur ef, sicrhaodd yntau, ynghyd 芒 dyrnaid o gyd-fforddolion, y byddai'n rhaid i Sosialwyr Cymru gydnabod Cymreictod, costied a gostied.
Cymwynas
Mae nodi pwysigrwydd hyn yn gymwynas yn ei hunan ond efallai mai pennaf cyfraniad Gwyn Jenkins yw i'r presennol.
Er eu pwysiced, bregus a simsan fu cynghreiriau coch-gwyrdd yn y gorffennol ac fel y g诺yr unrhyw beintiwr, lliw brown a geir o'u cymysgu.
Bellach, mae gan Gymru ei Phrif Weinidiog a'i dirprwy Brif Weinidog swyddogol ei hunan, y naill yn Llafurwr a'r llall yn Blediwr.
Yr her o flaen y ddeuawd hon fydd sicrhau nad tynged Huw T fydd eu tynged hwy ac nad brown fydd lliw y Bae.