John Ogwen yn dweud beth sy'n gwneud straeon Harri Parri mor arbennig
Wedi saith llyfr a 42 o straeon mae Harri Parri yn bygwth cau'r drws ar Borth yr Aur - y Gaernarfon ddychmygol a greodd ar gyfer cymeriadau fel Shamus Mulligan, Oli Paent, Cecil Siswrn a'r gweinidog mawr ei faich, Eilir Thomas.
Daeth y cymeriadau hyn a grewyd gan y gweinidog a'r llenor o Ben Ll欧n yn ffefrynnau nid yn unig mewn print ond hefyd ar lafar diolch i ddarlleniadau dyddiol John Ogwen ym Mhabell L锚n yr Eisteddfod Genedlaethol ers deng mlynedd bellach gan gychwyn yn Eisteddfod Meirion 1997.
Harri Parri ei hun fyddai'r cyntaf i dalu teyrnged i John Ogwen am yr hyn a wnaeth yr actor gyda'i straeon - ac ar yr un pryd John Ogwen yw'r cyntaf i gydnabod hefyd ei ddyled yntau i Harri Parri.
Ar achlysur cyhoeddi Er Budd Babis Ballybunion, y seithfed gyfrol yn y gyfres bresennol - mae Harri Parri wedi cyhoeddi dros 15 o lyfrau i gyd - pwy well i ofyn iddo na John Ogwen i s么n am y berthynas hynod o lwyddiannus rhwng yr actor a'r llenor diwyd a ffraeth o weinidog . . .
Meddai John Ogwen:
Wedi darllen 42 o straeon Harri Parri yn gyhoeddus medraf ddweud i mi fwynhau pob
un ohonynt.
Daeth y penllanw cyflwyno eleni ym Mhabell L锚n Eisteddfod yr
Wyddgrug pan ddaeth oddeutu pedair mil o bobl i wrando.
Erbyn hyn mae'r
gynulleidfa yn adnabod y cymeriadau cystal 芒 mi a does ond rhaid dweud enw
Shamus, Cecil, Howarth, John James o James, James a'i Fab, Cyfreithwyr - neu yn wir unrhyw un o'r cymeriadau lliwgar sy'n britho'r stor茂au - a chlywaf ymateb y gwrandawyr yn syth.
Adnabod y cymeriadau. A dyna i mi gyfrinach yr awdur. Mae o yn adnabod pobl.
Yn adnabod eu cryfderau ac, yn arbennig, eu gwendidau.
A chlust arbennig i roi
geiriau ei gymeriadau ar bapur. Pan fydda i yn meddwl am leisiau gwahanol i'r
gwahanol gymeriadau y ddeialog sy'n rhoi yr allwedd imi bob tro.
Mae'r ffordd y
mae Harri yn ysgrifennu yn awgrymu sut lais sydd gan y cymeriad a thrwy hynny y
daw y gynulleidfa i rannu yr adnabyddiaeth.
Y maent nid yn unig yn adnabod
cymeriadau'r stori ond cymeriadau tebyg o'u bywyd nhw'i hunain.
Mae i bob ardal
rywun tebyg i Shamus a Cecil. A rhai tebyg iawn i Howarth a John James!
A'r gwendidau yna.
Pluen, nid gordd, sydd gan Harri. Mae yn dychanu wrth reswm
ond mae yna gynhesrwydd yn y portreadau.
Mae'r ffaith fod ei brif gymeriad, Eilir
Thomas, y gweinidog, yn ei ddiniweidrwydd yn amlach na pheidio, yn fwy cyfrifol na
neb am ei helbulon, yn rhoi rhwydd hynt i Harri wedyn fynd i'r afael 芒 phawb arall.
Mae gan Harri y ddawn hynod o adeiladu at uchafbwynt digwyddiad. Anrheg
arbennig i actor sydd yn perfformio'r gwaith.
I nodi dim ond un enghraifft - tudalen
60 o'r gyfrol newydd Er Budd Babis Ballybunion a stori Y Festri Blastig .
Un o'm
hoff gymeriadau i, yr hen flaenor byddar Ifan Jones, yn trafod anrhegu Miss Jones, T欧
Capal, am flynyddoedd o wasanaeth i'r 'organ'! Mae wyth punch-line anfarwol o fewn un dudalen. A'r adeiladwaith at bob un yn berffaith.
Profodd ymateb
cynulleidfa'r Babell L锚n hynny!
Mi fyddwn yn derbyn y stor茂au drwy'r post o leiaf chwe mis cyn dyddiad eu darllen ac ar waelod y nodyn byddai'r frawddeg; "Os ti'm yn licio un o'r rhain gei di neud un
o'r hen rai".
Wnes i erioed.
Wrth lansio'r gyfrol uchod - y seithfed - a'r olaf yn 么l yr awdur - fe ddywedodd
Harri fod creu yn waith caled. Nid ysgrifennu ond 'creu'. Ar 么l creu 42 o straeon ardderchog am Porth yr Aur mae yn haeddu seibiant.