Mewn ward iechyd meddwl
Adolygiad John Gruffydd Jones o gan Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch) Pris 拢7.50
"Un o'r ychydig gyfryngau sydd yn dangos pobl yn eu cyflwr normal ydi storiau a llyfrau."
Dyna i chwi un o'r brawddegau ym mhennod olaf y gyfrol yma, ac efallai mai am y rheswm yna y bu i Angharad Tomos ysgrifennu'r nofel yma - nofel sy'n sicr yn wahanol i unrhyw waith arall o'i heiddo.
Ac eto nofel am bobl sydd wedi colli eu normalrwydd a'u cynefin sydd yma ac ymdrech un ferch i ail ddarganfod hynny ac i helpu eraill wneud hynny hefyd.
A dyna'r ddeuoliaeth sydd yn y cyfanwaith.
Iselder ysbryd
Cymeriad canolog y nofel yw gwraig sy'n llyfrgellydd ac yn fam yn dioddef o iselder ysbryd wedi geni merch, ac yn cael ei hun yn rhannu ward mewn uned iechyd meddwl gyda merched eraill - a syniad beiddgar oedd rhoi cymeriadau o nofelau llwyddiannus gan awduron amlwg i gyd yn yr un ward.
I awdur llai talentog fe allasai fod yn fethiant llwyr, yn enwedig gan fod yma gymaint o wrthdaro rhwng Cymreictod y cleifion a Seisnigrwydd y staff.
Yn ei feirniadaeth ar y nofel yng Nghyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Sir Y Fflint 2007, mae Harri Pritchard Jones yn beirniadu'r gorddefnydd o Saesneg i gyfleu'r gwrthdaro hwnnw, ond i mi mae'r syniad yn achub sawl sefyllfa sy'n ceisio cyfleu diflastod y cymeriad wrth iddi geisio ymdopi a'i chyflwr.
Yn wir mae'r diflastod hwnnw ar brydiau'n rhan o'i salwch. Mae'r defnydd hefyd yn rhoi hwb i hiwmor ambell sgwrs.
Pwyslais ar amheuaeth
O gofio'r beirniadu sydd ar grefydd a chred y dyddiau yma, mae'n ddiddorol sylwi ar y pwyslais a roddir ar amheuaeth ynglyn a chredu, ac mae defnyddio dyfyniadau o weithiau Parry-Williams a Williams Parry, a oedd eu hunain yn llawn amheuaeth yn rhoi canolbwynt i ambell sgwrs a allasai fod yn ddi-sbonc.
Fe'm swynwyd gan yr adran sy'n son am y wers grefftau a gwneud cardiau Nadolig, lle mae'r disgrifiadau a'r ddeialog yn cyfuno i fynd o dan groen y tristwch llethol a deimlir, ond eto rhaid yw rhoi 'Happy Christmas' ar gornel y cerdyn. Mae'r ffaith nad yn y canol y rhoddir y geiriau yn dweud cyfrolau.
Arafu rhediad
Efallai bod yma duedd i ddadansoddi'n ormodol sawl tro, sy'n tueddu i arafu rhediad y stori, ond nid peth hawdd yw ysgrifennu'n garlamus pan fo'r cymeriadau yn gaeth o fewn muriau uned gofal meddwl ac fe ddaeth y newid yn y cymeriadau braidd yn sydyn i mi.
Rhaid cyfeirio at waith graenus y wasg, ac yn sicr at gynllun y clawr gan Sian Parri sy' llwyddo i gyfleu yn berffaith naws y nofel gref yma.