成人论坛

Explore the 成人论坛
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人论坛 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Annwyl Smotyn Bach
脭l y presennol ar Gymru'r dyfodol
  • Adolygiad Kate Crockett o Annwyl Smotyn Bach gan Lleucu Roberts. Lolfa. 拢5.95.


  • Mae unrhyw nofel Gymraeg sydd wedi'i gosod yn y dyfodol yn sicr o gael ei chymharu gyda gwaith eiconig Islwyn Ffowc Elis, Wythnos yng Nghymru Fydd, yn enwedig os yw dyfodol Cymru a'r iaith Gymraeg yn achos pryder i'r awdur.

    Clawr y llyfr Ac fel yn y nofel honno, yn Annwyl Smotyn Bach gwelwn yr iaith Gymraeg yn marw ar wefusau hen ddynes unig, mewn Cymru sydd wedi'i thrawsnewid er gwaeth.

    Llio yw'r ddynes honno, ac yn 2089 mae'n byw mewn cartref henoed mewn ardal a enwir Snowdonia Population Shelter (Caernarfon gynt). Daw ei mab 芒 deunydd darllen iddi: y dyddiadur a gadwodd yn 2040 ar gyfer y plentyn yn ei chroth, sef Smotyn y teitl.

    Dan ormes
    Yn 2040 Lleucu Roberts mae Cymru dan ormes llywodraeth ffasgaidd ryngwladol yr Unol Daleithiau ac o dan ddeddfau gwrthderfysgaeth y cyfnod, Saesneg yw'r iaith swyddogol.

    Mae llyfrau'n bethau peryglus ac mae technoleg yn galluogi'r llywodraeth i gadw llygad ar bob dim y mae'r trigolion yn ei wneud.

    Plismon y we yw g诺r Llio yntau, sy'n golygu bod y teulu'n ddinasyddion Categori 1; felly yn wahanol i lawer, mae ganddyn nhw'r hawl i ofal iechyd, er enghraifft.

    Gan fod Llio dros ei deugain oed, bu'n rhaid iddyn nhw gael caniat芒d swyddogol er mwyn cenhedlu ail blentyn.

    "Mi adawn ni bethau'n rhy hwyr;" meddai Llio yn ei dyddiadur: "Pethau bach fel cyfarfod 芒'n gilydd, disgyn mewn cariad a phenderfynu mai efo'n gilydd roedden ni am fod."

    Datblygiadau gwyddonol
    Mae i ddatblygiadau gwyddonol eu manteision.
    Os yw'r ffoetws yn dangos bod iddo'r potensial i ddatblygu afiechyd corfforol megis cancr neu glefyd y siwgr yn y dyfodol, yna gellir ei drin cyn iddo gael ei eni.

    Ond os yw'r profion yn dangos y gallai ddatblygu nodweddion personoliaeth sy'n achos pryder - ("degrees of character-deficient gene-patterns") fodd bynnag, fel baban Llio, yna bydd wedi'i gofrestru yn ddinesydd Categori 2 am weddill ei oes.

    Ysgol gyfrinachol
    Er nad yw Llio yn rebel wrth reddf, mae hi'n cael ei thynnu i fyd y gwrthwynebwyr, sydd yn rhedeg ysgol gyfrinachol i drosglwyddo gwybodaeth "beryglus" megis chwedlau a barddoniaeth Gymraeg i blant.

    Ac fel pob arwr clasurol, mae her yn ei hwynebu: diogelu Llyfr Du Caerfyrddin rhag cyrchoedd dif盲ol y llywodraeth.

    Mae'r dyddiadur yn gofnod o'i hymgais lew i wneud hynny, ac o effaith ei gweithredoedd ar ei pherthynas gyda'i g诺r.

    Yn wahanol i Wythnos yng Nghymru Fydd, serch hynny, does yna ddim gweledigaeth iwtopaidd amgen.

    Erbyn 2089 mae dylanwad yr Unol Daleithiau wedi cilio ond nid yw bywyd fawr gwell. Er bod rhyddid gwleidyddol wedi dychwelyd, mae cynhesu byd-eang wedi golygu mai bywydau caeth sydd gan y trigolion o hyd.

    Ni all Llio fentro i'r byd mawr y tu allan i'r cartref oherwydd grym didrugaredd yr haul. Ac er nad yw'r iaith Gymraeg wedi'i gwahardd, marw mae hi o hyd.

    Dirdynnol
    Daw un o ddarnau mwyaf dirdynnol y nofel wrth i Llio sylweddoli nad yw'r ffaith fod ei hwyres feichiog yn ceisio dysgu rhywfaint o Gymraeg yn golygu bod yna ddyfodol i'r iaith.

    "Er fy mwyn i mae Megan yn dysgu'r iaith, greadures annwyl ff么l! Nid er ei mwyn hi, nid er mwyn y plentyn a'r plant wedyn, nid i gadw dim yn fyw rhag difancoll. Plesio Nain yn ei henaint, gw锚n i wyneb hen wraig cyn iddi ildio i'r rhwd yn ei gwythiennau a rhwng celloedd ei hymennydd."

    Mae cymaint o pathos yn y sylweddoli hwn ag sydd yng ngolygfa hen wraig Y Bala Islwyn Ffowc Elis bob tamaid.

    Nofel i bobl ifanc sy'n darllen yn hyderus yw Annwyl Smotyn Bach ac mae yma gyfoeth o ddeunydd trafod ar eu cyfer: gwleidyddiaeth, yr amgylchedd, yr iaith, gwyddoniaeth, hanes llenyddol Cymru.

    Yr un elfennau fydd yn apelio at oedolion hefyd, a bydd unrhyw un sy'n poeni am ddyfodol y Gymraeg, am hawliau dynol, ac am yr amgylchedd yn cael digon i gnoi cul drosto.

    Yn gyfoes
    Er mai nofel wedi'i gosod yn 2040 a 2089 yw Annwyl Smotyn Bach, nofel gyfoes yw hi yn anad dim.
    Byd 么l 9/11 sydd gennym yma ac mae'n amlwg mai gweithredoedd milwrol yr Unol Daleithiau a'r cyfyngu ar hawliau dynol a fu yn ystod ein cyfnod ni sydd wedi ysgogi gweledigaeth ddystopaidd Lleucu Roberts.

    Ond yr hyn sy'n glyfar ganddi yw nad bai'r grymoedd mawrion yw pob dim.
    Yn 2040 mae angen trwydded arbennig er mwyn teithio allan o'ch cynefin: ond nid beio'r llywodraeth wna mam Lleucu:
    "Dy fai di a dy debyg ydi o, i radda. Y ffys naethoch chi am yr amgylchedd a rhyw stwff fel'na."

    Nid aeth dychymyg Lleucu Roberts yn rhemp wrth ddychmygu dyfeisiadau gwyddonol y dyfodol: yn eironig, nid hedfan o le i le ar rocedi personol mae trigolion 2089 ond teithio gan bwyll bach yn eu ceir hydrogen 40 milltir yr awr.

    Dylanwad y cyfnod presennol sydd yn gwneud 2040 Lleucu Roberts mor frawychus o bosibl.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy